Food Standards Agency
Sunday 5 July 2009
Safe food and healthy eating for all banner welsh
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteFriday 12 October 2001
Arfarniad o Reoliad
TEITL Y RHEOLIAD A GYNIGIR
Rheoliadau Bwydydd wedi'u Haddasu'n Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000.
PWRPAS AC EFFAITH FWRIEDIG Y RHEOLIAD
(i)
Amcan
Atgyfnerthu a diwygio'r rheolau presennol ar labelu bwydydd wedi'u haddasu?n enetig a bwydydd newydd trwy
a)sicrhau bod darpariaeth bellach yng Nghymru i orfodi Rheoliad CE (1139/98) ynghylch labelu bwydydd sydd ag indrawn neu soia wedi'i addasu'n enetig ac i gydymffurfio â gofynion Erthygl 8(1) Rheoliad 258/97 y Cyngor ynghylch bwydydd newydd a chynhwysion bwyd newydd; a
b)darparu bod Rheoliad CE 49/2000 sy'n diwygio Rheoliad 1139/98 yn cael ei roi ar waith a'i orfodi yng Nghymru a gorfodi Rheoliad CE 50/2000 ar labelu bwydydd a chynhwysion bwyd sy'n cynnwys ychwanegion a blasynnau sydd wedi'u haddasu'n enetig neu sydd wedi'u cynhyrchu o organebau sydd wedi'u haddasu'n enetig.
(ii) Y pynciau trafod
Mae Rheoliad CE 49/2000 yn diwygio Rheoliad CE 1139/98 ar labelu bwydydd a chynhwysion bwydydd sy'n cynnwys soia neu indrawn wedi'u haddasu'n enetig trwy:
a)Ymestyn cwmpas y gofynion labelu er mwyn cynnwys bwydydd a chynhwysion bwyd sy'n cynnwys soia neu indrawn wedi'u haddasu'n enetig sy'n cael eu darparu yn y modd hwnnw i arlwywyr mawr.
b)Caniatáu trothwy de minimis o 1% o halogiad anfwriadol mewn soia ac indrawn o ffynonellau heb eu haddasu'n enetig. O dan y lefel honno, ni fydd angen labelu.
c)Gwneud darpariaeth ar gyfer llunio rhestr negyddol ar lefel y CE o gynhwysion bwyd neu fwydydd sydd ond ag un cynhwysyn, nad oes angen labelu arnynt gan nad ydynt yn cynnwys DNA newydd na phrotein sy'n ganlyniad i addasu indrawn neu soia yn enetig.
Mae Rheoliad CE 50/2000 yn ei gwneud yn ofynnol i labelu bwydydd a chynhwysion bwyd y ceir ynddynt ychwanegion neu flasynnau sy'n organebau wedi'u haddasu'n enetig, neu sy'n cynnwys, neu sydd wedi'u cynhyrchu o organebau o'r fath. Mae'r Rheoliad yn ymwneud â bwydydd y'u bwriedir ar gyfer arlwywyr mawr neu'r cwsmer terfynol.
Mae Rheoliadau CE 49/2000 a 50/2000 wedi'u gwneud yn unol â'r Cyfarwyddeb Labelu Bwyd (79/112/EEC) fel y'i diwygiwyd. Mae'r Rheoliadau'n weithredol ym mhob Aelod-Wlad, felly yr unig ddeddfwriaethau cenedlaethol sydd eu hangen yw deddfwriaeth i'w gorfodi. Awdurdodau Lleol, neu Awdurdodau Iechyd y Porthladdoedd yn ôl y gofyn, fydd yn gyfrifol am eu gorfodi. Caiff darpariaethau ar wahân eu gwneud yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
(iii) Asesu Risg
Os na ddarperir ffordd i orfodi Rheoliadau'r CE, bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn gallu dwyn achos a gallai mudiadau defnyddwyr ofyn am arolwg barnwrol.
DEWIS A MATER CYDRADDOLDEB A THEGWCH
Mae ymrwymiad ar y DU i orfodi Rheoliadau'r CE trwy gyflwyno darpariaethau deddfwriaethol addas.
Amcan y Rheoliadau Bwydydd wedi'u Haddasu'n Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000 yw gwneud hynny yng Nghymru yn y ffordd orau bosibl trwy ddod â'r gofyn i labelu bwydydd wedi'u haddasu'n enetig a bwydydd newydd ynghyd o dan un Offeryn Statudol yn hytrach na diwygio Rheoliadau Labelu Bwyd 1996.
Mae Cyfarwyddeb Labelu Bwyd yn caniatáu i Aelod-Wledydd ddirymu darpariaethau yn Rheoliadau'r CE 49/2000 a 50/2000 sy'n ymwneud â bwyd a werthir i?r cwsmer terfynol neu i arlwywyr mawr heb eu rhag-bacio neu sy'n cael eu pacio yn y man gwerthu. Ni chaniatawyd y dirymiad hwn mewn perthynas â Rheoliad 1139/98 yn wreiddiol ac ni chaiff ei weithredu mewn perthynas â'r diwygiad (Rheoliad 49/2000) na Rheoliad 50/2000 chwaith, hynny oherwydd y galw aruthrol o du?r cyhoedd a mudiadau defnyddwyr am labelu pob bwyd sydd wedi?i addasu?n enetig. Mae?r Rheoliadau yn caniatáu?r un hyblygrwydd o ran darparu gwybodaeth am ychwanegion a blasynnau wedi?u haddasu?n enetig ag ar gyfer bwydydd sy'n cynnwys soia neu indrawn wedi?i addasu?n enetig pan werthir y bwydydd hynny yn rhydd neu wedi?u rhag-bacio ar gyfer eu gwerthu?n uniongyrchol (hy trwy fwytai ac ati).
9Wrth baratoi'r Offeryn Statudol hwn, daeth yn amlwg bod darpariaeth yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996, fel y'u diwygiwyd, nad yw'n seiliedig ar gyfraith y CE. Ar hyn o bryd, mae?r Rheoliadau (Rheoliad 36 o?i ddarllen gyda 23(1)(b)) yn caniatáu peth hyblygrwydd o ran labelu bwydydd melys â blawd ynddynt sydd wedi'u pacio mewn pecyn tryloyw. Er y parhawyd â'r hyblygrwydd hwn yn Rheoliad 1139/98 y CE (gan mai?r Rheoliadau Labelu Bwyd oedd yn ei roi ar waith), gan ein bod yn awr yn creu Offeryn Statudol annibynnol i roi?r rheolau labelu bwyd wedi?i addasu?n enetig ar waith, mae amheuaeth ynghylch ei statws cyfreithiol. Cynigiwn felly beidio â chaniatáu?r hyblygrwydd hwnnw yn Rheoliadau newydd y CE a hefyd dileu?r hyblygrwydd a ddarparwyd cynt mewn perthynas â bwydydd melys â blawd ynddynt sy?n cynnwys soia ac indrawn wedi?u haddasu?n enetig. Adolygir darpariaethau tebyg yn y Rheoliadau Labelu Bwyd fel rhan o?r ymarfer arfaethedig i gyfnerthu?r Rheoliadau hynny. Rhagwelwn y bydd llawer o?r cynhyrchion melys â blawd ynddynt yn gallu manteisio ar ddarpariaethau hyblyg eraill o ran labelu ee y rheini sy?n ymwneud â gwerthu bwydydd wedi?u rhag-bacio ar gyfer eu gwerthu?n uniongyrchol. Bydd bwydydd melys â blawd ynddynt ac sydd wedi?u pacio mewn casyn cwrymog yn unig yn gallu manteisio ar y rheolau hyblyg sy?n ymwneud â marcio bwydydd rhydd.
MANTEISION
Mae Rheoliad 49/2000 yn crisialu'r rheolau sy'n ymwneud â labelu bwyd a chynhwysion bwyd sy?n cynnwys soia neu indrawn wedi?u haddasu?n enetig. Trwy ymestyn y rheolau i?r rheini sy?n cyflenwi bwyd i arlwywyr mawr, cynorthwyir yr arlwywyr hynny i gydymffurfio â?r gofynion cyfreithiol gan fod rheidrwydd cyfreithiol ar gyflenwyr i ddatgelu pa fwydydd wedi?u haddasu?n enetig sydd wedi?u cynnwys ym mwyd arlwywyr. Yn eu tro, bydd yn wybodaeth all fod ar gael i?r cwsmer. Bydd y trothwy yn crisialu?r gofynion cyfredol o ran labelu.
Mae Rheoliad 50/2000 yn darparu mwy o wybodaeth i'r cyhoedd. Bydd hefyd yn golygu mai?r un yw rheolau o ran ychwanegion a blasynnau ag ar gyfer bwyd sy?n cynnwys soia ac indrawn wedi?u haddasu?n enetig. Nid yw?n bosib cloriannu?r manteision er y dybiaeth yw y byddant yn sylweddol yng ngolwg cwsmeriaid sydd am osgoi bwyta deunydd wedi?i addasu?n enetig. Bydd busnesau hefyd ar eu hennill o fod wedi ennyn hyder eu cwsmeriaid trwy roi gwybod iddynt ba gynnyrch sy?n cynnwys deunydd wedi?i addasu?n enetig.
COSTAU CYDYMFFURFIO I FUSNESAU
Ni wnaeth diwydiant amcangyfrif y costau i fusnesau fel rhan o'r broses ymgynghori ar yr Arfarniad Drafft o Reoliad.
Felly, ni fu modd cynnwys ffigurau yn yr adran hon.
Fodd bynnag, byddem yn awgrymu na fydd y costau?n uchel gan y bydd y mwyafrif o fusnesau eisoes yn darparu gwybodaeth ar y labeli, un ai er mwyn cydymffurfio â Rheoliad 1139/98 y CE neu er mwyn cydymffurfio â gofynion eu contract.
(i)
Y sectorau busnes yr effeithir arnynt
Effeithir ar oddeutu 15,000 o fusnesau bwyd, sy'n defnyddio bwyd a chynhwysion bwyd sy?n cynnwys soia neu indrawn wedi?i addasu?n enetig.
Sefydliadau arlwyo yw?r mwyafrif; cynhyrchwyr ac adwerthwyr yw?r gweddill.
Bydd y Rheoliadau newydd hefyd yn effeithio ar fusnesau sy'n cyflenwi bwyd i arlwywyr mawr, yn ogystal â busnesau yn cyflenwi bwyd sy?n cynnwys ychwanegion a blasynnau wedi?u haddasu?n enetig a fwriedir ar gyfer y cwsmer terfynol neu arlwywyr mawr. Gallent effeithio ar bobyddion oherwydd y dilëir hyblygrwydd y trefniadau labelu ar gyfer bwydydd melys â blawd ynddynt sy?n cynnwys soia neu indrawn wedi?u haddasu?n enetig ac sydd mewn deunydd pecynnu cwbl dryloyw, ond nad ydynt yn dod o fewn y diffiniad o fwydydd wedi?u rhag-bacio ar gyfer eu gwerthu?n uniongyrchol. Dylid nodi y gall bwydydd melys â blawd ynddynt sydd wedi?u pacio mewn casyn cwrymog yn unig fanteisio ar y rheolau hyblyg sy?n ymwneud â marcio bwydydd rhydd.
(ii)
Costau cydymffurfio i fusnes cyffredin
Mae'r diwydiant bwyd yn amlochrog iawn a bydd effaith y gofyniad newydd yn amrywio yn ôl arferion busnesau unigol, nifer a math eu cynhyrchion, a'r penderfyniadau masnachol a gymerant.
Dylid nodi bod mwyafrif y busnesau bwyd y bydd y rheoliadau newydd yn effeithio arnynt eisoes yn labelu cynhyrchion o dan Reoliad 1139/98.
(iii)
Costau cydymffurfio i fusnesau nad oedd Rheoliad 1139/98 yn effeithio arnynt
Bydd yn golygu costau i fusnesau sy'n gwerthu bwyd i arlwywyr mawr.
Bydd gofyn i fusnesau o?r fath roi gwybodaeth ychwanegol ar eu labeli, o bosibl trwy ailargraffu'r labeli presennol.
Bydd gofyn hefyd i'r busnesau hynny gysylltu â?u cyflenwyr eu hunain er mwyn sefydlu a oes gan y bwydydd y maent yn eu gwerthu gynhwysion wedi?u haddasu?n enetig.
Dylid nodi y bydd nifer o fusnesau eisoes yn gwneud hynny er mwyn cwrdd â gofynion eu contract.
(iv) Costau cydymffurfio â'r trothwy de minimis
Disgwylir y bydd cydymffurfio â'r trothwy de minimis, mewn llawer achos, yn costio dim. Er hynny, y gost ar hyn o bryd o gynnal prawf i weld beth yw lefel y soia neu'r indrawn sydd wedi'i addasu'n enetig mewn cynhwysion bwyd yw £100 - £200 fesul prawf.
(v) Costau cydymffurfio mewn perthynas â Rheoliad 50/2000 y CE
Bydd cost cydymffurfio mewn perthynas â Rheoliad 50/2000 yn amrywio gan ddibynnu ar arferion presennol busnesau unigol, nifer a math eu cynhyrchion, a'r penderfyniadau masnachol a gymerant. Bydd gofyn i fusnesau roi gwybodaeth ychwanegol ar eu labeli, o bosibl trwy ailargraffu?r labeli presennol. Mae?n bosibl y bydd gofyn hefyd i?r busnesau hynny gysylltu â?u cyflenwyr eu hunain er mwyn sefydlu a oes gan y bwydydd y maent yn eu gwerthu gynhwysion wedi?u haddasu?n enetig. Dylid nodi y bydd nifer o fusnesau eisoes yn gwneud hynny er mwyn cwrdd â gofynion eu contract.
(vi)
Costau cydymffurfio mewn perthynas â dileu natur hyblyg y rheolau marcio ar fwydydd melys â blawd ynddynt sy?n cynnwys soia ac indrawn, ac sydd mewn pecyn tryloyw ond nad ydynt wedi'u rhag-bacio i'w gwerthu?n uniongyrchol.
Pobyddion fydd yn teimlo effaith hyn fwyaf.
Disgwylir y bydd busnesau yn gallu manteisio ar drefniadau eraill i sicrhau hyblygrwydd o ran marcio (hy mewn perthynas â bwydydd heb eu rhag-bacio a bwydydd wedi'u rhag-bacio i?w gwerthu?n uniongyrchol).
Gall bwydydd melys â blawd ynddynt sydd wedi?u pacio mewn casyn cwrymog yn unig fanteisio ar hyblygrwydd y rheolau marcio ar fwyd rhydd.
Er hynny, mae?n bosibl y bydd angen i rai busnesau wneud trefniadau o hyd i gydymffurfio.
Amcangyfrifir y bydd y costau?n isel gan fod yr angen i roi gwybodaeth ar y labeli?n parhau; dim ond y dull o farcio cynnyrch o?r fath fydd yn newid.
Felly, dylai systemau fod yn eu lle eisoes ar gyfer nodi cynhwysion wedi?u haddasu?n enetig mewn cynnyrch o?r fath.
Cyfanswm y costau cydymffurfio
Nid yw Rheoliadau 49/2000 a 50/2000 yn ymwneud â bwydydd sydd wedi?u cynhyrchu a?u labelu?n gyfreithlon yn y CE neu wedi?u mewnforio'n gyfreithlon i'r CE a'u dosbarthu cyn 10 Ebrill 2000; felly ni fydd angen galw unrhyw nwyddau i mewn.
Mae?r rheini â diddordeb wedi cael gwybod am hynt deddfwriaeth y CE a dylent fod wedi cael gwybod pryd mae?r rheoliadau?n dod i rym (a byddant felly wedi cael cyfle i baratoi ar eu cyfer).
Yn y broses ymgynghori ddiweddar, rhoddwyd gwybod i gynhyrchwyr bwydydd melys â blawd ynddynt sydd wedi?u pacio mewn deunydd cwbl dryloyw, bod yr hyblygrwydd a oedd ganddynt yn flaenorol yn cael ei ddileu mewn perthynas â?r cynnyrch hynny nad ydynt yn cael eu diffinio fel bwydydd wedi?u rhag-bacio i?w gwerthu?n uniongyrchol. Gall bwydydd melys â blawd ynddynt sydd wedi?u pacio mewn casyn cwrymog yn unig fanteisio ar y rheolau hyblyg sy?n ymwneud â marcio bwydydd rhydd.
Mae'r rhan fwyaf o fusnesau y bydd y rheoliadau yn effeithio arnynt eisoes yn gorfod labelu bwyd o dan Reoliad 1139/98. Ni fydd busnesau sy?n gwerthu bwyd i'r cwsmer terfynol heb brosesu'r bwyd ymhellach, yn debygol o orfod ysgwyddo costau pellach oherwydd y rheoliadau newydd.
(vii)
Costau ychwanegol
Mae'r busnesau yr effeithir arnynt (hy y rheini sy'n gwerthu bwydydd i'r cwsmer terfynol heb eu rhag-bacio neu wedi?u rhag-bacio ar gyfer eu gwerthu'n uniongyrchol) eisoes yn cydymffurfio â 1139/98.
Amcangyfrifwyd mai £1 miliwn - £2 filiwn oedd cost cydymffurfio â Rheoliad 1139/98 y CE, ac nid yw?r gost ychwanegol o ailargraffu bwydlenni ac ati?n debygol o fod yn uwch na hynny.
Bydd effaith ariannol Rheoliad 50/2000 ar fusnesau o?r fath yn llai na chost wreiddiol cydymffurfio â Rheoliad 1139/98 y CE.
EFFAITH AR FUSNESAU BACH
Mae llawer o fusnesau bach mewn sectorau gwahanol yn y diwydiant yn gysylltiedig â chynhyrchu neu werthu bwyd sy'n cynnwys soia ac indrawn wedi'u haddasu'n enetig.
O ganlyniad i ymestyn Rheoliad 1139/98 i gynnwys bwydydd a werthir i arlwywyr mawr, a gweithredu Rheoliad 50/2000 y CE, bydd mwy o fusnesau bach yn teimlo eu heffaith.
Prawf litmws i fusnesau bach
24.Cysylltwyd â nifer o gymdeithasau masnach gan ofyn i bob un ohonynt enwebu dau fusnes bach i gymryd rhan yn yr ymarfer.
Tri yn unig o'r cymdeithasau hyn a ymatebodd yn gadarnhaol.
O ganlyniad, cysylltwyd â chwe busnes bach: tri bwyty, gwesty, pobydd a
patisserie
.
Ymatebodd tri busnes (dau fwyty a?r
patisserie
).
a)Nododd perchennog un bwyty mai ychydig o effaith a gâi'r Rheoliadau newydd ar ei fusnesau, gan ei fod eisoes yn osgoi defnyddio cynhwysion wedi'u haddasu'n enetig a'i fod wedi sefydlu systemau da i sicrhau nad oedd ei gyflenwadau'n cynnwys cynnyrch wedi'u haddasu?n enetig. Byddai ehangu?r gofynion labelu i gynnwys cyflenwyr o gymorth iddo yn hyn o beth. Gan nad oedd yn defnyddio cynhwysion wedi'u prosesu, ni chredai y byddai'r angen i labelu ychwanegion a blasynnau wedi'u haddasu'n enetig yn effeithio arno.
b)Dyma amcangyfrif perchennog y bwyty arall o'r costau. Dengys ei sylwadau bod y busnes eisoes wedi rhoi systemau ar waith i roi sylw i ofynion Rheoliadau Labelu Bwyd (Diwygio) 1999, ac y byddai'r rhain yn sylfaen gref ar gyfer cydymffurfio â'r gofynion newydd. Fodd bynnag, nododd bod amser yn cael ei dreulio?n gyson i ddarllen y wybodaeth ddiweddaraf am fwydydd wed'u haddasu'n enetig er mwyn hysbysu'r cwsmer yn ôl y gofyn.
Costau hyfforddiant cychwynnol mewn oriau y pen a gollir - £800
Costau gweinyddu - £150
Costau parhaus y flwyddyn - £600
c)Nododd perchennog y patisserie hefyd mai ei fwriad yw osgoi defnyddio unrhyw gyflenwadau sy?n cynnwys cynnyrch wedi?u haddasu?n enetig. Dywedodd bod y deddfau newydd yn rhoi baich ychwanegol ar fusnesau bach, yn yr ystyr bod gofyn iddo fwrw golwg ar ei gyflenwadau i gyd er mwyn gofalu nad oedd y cynnyrch wedi?u haddasu?n enetig. Clustnododd y costau canlynol:
Prynu peiriant labelu - £1,000
Cost y labeli - 1.5c y cynnyrch
Deunydd lapio a'r llafur ynghlwm â'r gwaith - 1.5c y cynnyrch
COSTAU ERAILL
Mae posibilrwydd y gellid trosglwyddo i'r cwsmer o leiaf gyfran o gostau cydymffurfio â?r Rheoliadau, yn enwedig gan y busnesau llai a fyddai?n ei chael yn anos ysgwyddo?r costau ychwanegol.
Fodd bynnag, mae?r mwyafrif o gynhyrchwyr bwyd ac adwerthwyr eisoes yn labelu eu bwyd o dan Reoliad 1139/98.
Felly, ni ddisgwylir effaith ehangach yn y maes hwn.
EFFAITH AR AWDURDODAU GORFODI LLEOL
Awdurdodau lleol ac awdurdodau iechyd y porthladdoedd sydd ar hyn o bryd yn gyfrifol am orfodi Rheoliad 1139/98.
Fe fydd ganddynt systemau yn eu lle eisoes i archwilio busnesau perthnasol.
O ganlyniad i ymestyn gofynion Rheoliad 1139/98 i gynnwys bwydydd a werthir i arlwywyr mawr, bydd angen cynnal archwiliadau gorfodi ar fwy o fusnesau.
Gorfodir Rheoliad 1139/98 i raddau helaeth trwy archwilio gwaith papur ar hyn o bryd.
Os bydd yr awdurdodau gorfodi yn dilyn gweithdrefnau tebyg, mae?n ymddangos na fydd Rheoliad 50/2000 yn faich mawr ynddo?i hun, er y gall fod angen cynnal rhai profion wrth gefn.
Gellir ysgwyddo unrhyw gostau ychwanegol trwy ad-drefnu rhaglenni archwilio presennol yr awdurdodau fel na fydd y mesur yn golygu unrhyw gost o ran adnoddau.
CANLYNIADAU'R YMGYNGHORI
Anfonwyd dros 100 copi o'r pecyn ymgynghori at grwpiau â diddordeb ar 15 Chwefror, gan wahodd sylwadau erbyn 28 Mawrth.
Derbyniwyd 3 ymateb.
Ar y cyfan, nid oeddent yn dangos unrhyw wrthwynebiad sylweddol i'r Offeryn Statudol.
Fodd bynnag gofynnwyd am grisialu nifer o bwyntiau, a mynegwyd pryderon yn arbennig mewn perthynas â?r angen i sicrhau y cedwir lefelau halogiad gan gynnyrch wedi?u haddasu?n enetig mor isel ag y bo modd ac i ofalu bod y Comisiwn yn cyflawni ei ymrwymiad i arolygu?r ffigwr trothwy o 1% o fewn dwy flynedd.
CRYNODEB O ARGYMHELLION/CASGLIADAU
Mae rhwymedigaeth gyfreithlon ar y DU i weithredu Rheoliadau CE 49/2000 a 50/2000.
Bydd Comisiwn y CE yn gallu dwyn achos yn erbyn y DU oni bydd yn cymryd y camau gorfodi priodol.
Er mwyn medru gorfodi'r gofynion hyn, mae gofyn cyflwyno Rheoliadau cenedlaethol sy?n rhestru troseddau penodol, a hynny cyn gynted â phosib.
Gosodir cosbau sy?n gyson â?r rheini a geir yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (fel y?u diwygiwyd).
Mae Rheoliadau'r CE yn dod i rym yn awtomatig. Fodd bynnag, o dan y Gyfarwyddeb Labelu Bwyd, gall aelod-wledydd ddirymu Rheoliadau 49/2000 a 50/2000 mewn perthynas â bwydydd a werthir i'r cwsmer terfynol neu arlwywyr mawr heb eu rhag-bacio neu fwydydd wedi?u rhag-bacio ar gyfer eu gwerthu?n uniongyrchol. Cynigir fodd bynnag na fanteisir ar y dirymiad hwn yng Nghymru, yn unol ag egwyddor 1139/98. Mae?r Cynulliad Cenedlaethol yn credu y gellir cyfiawnhau gwneud hyn er budd darparu gwybodaeth i?r cyhoedd.
GORFODI, SANCSIYNAU, MONITRO AC ADOLYGU
Mae Rheoliadau Bwydydd wedi'u Haddasu'n Enetig a Bwydydd Newydd (Labelu) (Cymru) 2000 yn ei gwneud hi?n drosedd peidio â chydymffurfio â Rheoliadau?r CE.
Mae'r cosbau a'r mesurau gorfodi yn gyson â'r rheolau labelu bwyd eraill, fel y?u rhestrir yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 (Offeryn Statudol 1996/1499) fel y?u diwygiwyd.
Awdurdodau Lleol ac awdurdodau iechyd y porthladdoedd fydd yn gyfrifol am eu gorfodi.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu cyhoeddi Canllawiau newydd i gyd-fynd â?r Rheoliadau a fydd yn cael eu cyhoeddi at ddiben ymgynghori cyn hir.
Back to topFind out what our other sites have to offer