Skip navigation

Food Standards Agency

Saturday 4 July 2009

Safe food and healthy eating for all banner welsh

AZ-Directory What's New

Mae'r Rheoliadau a gwmpasir gan y Gwerthusiad Rheoleiddio hwn yn berthnasol i Gymru'n unig. Gwnaed Rheoliadau Cyfochrog ar gyfer Lloegr, a gwnaed Rheoliadau tebyg yn yr Alban.

Friday 12 October 2001

Gwerthusiad Rheoleiddio

Nodyn: Mae'r Rheoliadau a gwmpasir gan y Gwerthusiad Rheoleiddio hwn yn berthnasol i Gymru'n unig. Gwnaed Rheoliadau Cyfochrog ar gyfer Lloegr, a gwnaed Rheoliadau tebyg yn yr Alban.

Teitl
Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd Cyffredinol) (Siopau Cigyddion) (Diwygiad) 2000.

Diben ac Effaith Fwriedig y Mesur
Mater
Bu achos o wenwyn bwyd E.coli O157 yng Nghanolbarth yr Alban ym mis Tachwedd 1996. Daeth yr Ymchwiliad Damwain Angheuol a ddilynodd, a gyhoeddodd ei ganlyniadau ym mis Awst 1998, i'r casgliad ei fod wedi arwain yn uniongyrchol at farwolaethau 17 o bobl. Mae?n wybyddys fod 500 o bobl eraill hefyd wedi bod yn sâl o ganlyniad i'r gwenwyn.

Sefydlodd Llywodraeth y DU Grŵp Arbenigol o dan gadeiryddiaeth yr Athro Hugh Pennington i archwilio i achosion y digwyddiad. Cyhoeddodd Grŵp Pennington ei adroddiad llawn ym mis Ebrill 1997 a gwnaeth 32 o argymhellion ar gyfer gweithredu. Derbyniodd Llywodraeth y DU bob un ohonynt ar 11 Mehefin 1997.

Nododd Grŵp Pennington mai'r prif reswm dros yr achos o E.coli 0157 yng Nghanolbarth yr Alban oedd traws-halogi o gig amrwd i fwydydd parod i?w bwyta o ganlyniad i arferion trafod a hylendid gwael mewn siop gigydd. Oherwydd dos wenwyndra uchel a heintiol isel yr E.coli O157, ynghyd â thystiolaeth arall a ddarparwyd a ddaeth i sylw ymchwiliad Pennington, penderfynodd y Grŵp argymell rheolaethau hylendid llymach ar gyfer cigyddion yn trin cig amrwd ynghyd â chigoedd wedi eu coginio a bwydydd parod i'w bwyta eraill. Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn yr holl argymhellion a wnaed gan Grŵp Pennington, yn cynnwys cyflwyno cynllun trwyddedu statudol blynyddol i?w orfodi gan awdurdodau bwyd lleol.

Amcan
5. Bydd y Rheoliadau yn cyflwyno trwyddedu blynyddol statudol i siopau cigyddion manwerthu yng Nghymru sy'n trin ac yn gwerthu cig amrwd heb ei lapio a bwyd parod i?w fwyta o'r un adeilad. Effaith fwriedig y mesur yw gwella safonau rheolaeth ac arolygaeth hylendid bwyd yn yr adeiladau hyn er mwyn gwella diogelwch y cyhoedd.

Asesu Perygl
Cysylltir Verocytotoxin sy?n cynhyrchu heintiau E.coli (VTEC) gydag ystod o salwch mewn pobl. Mae E.coli O157, straen o'r organedd a oedd yn gyfrifol am yr achos yng Nghanolbarth yr Alban ym 1996, yn wenwynig iawn a dyma yw prif achos heintio pobl â VTEC. Mae adroddiadau o heintiau E.coli O157 ledled y DU wedi cynyddu?n raddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae tystiolaeth o ymchwiliadau cychwynnol yn awgrymu fod y ddos heintiol yn isel ac y gall salwch ddigwydd ar ôl amlyncu llai na 100 o organeddau. Mae?n wybyddys fod E.coli O157 yn achosi ystod o symptomau o ddolur rhydd ysgafn i ddolur rhydd gwaedlyd ac, mewn nifer fechan o achosion, syndrom heamolytig wremig (HUS) a methiant yr arennau. Gall effeithiau gwenwyn E.coli O157 fod yn ddifrifol iawn i grwpiau bregus, megis plant ifanc a phobl oedrannus, a gallant fod yn angheuol.

Gall pobl gael eu heinito gan E.coli O157 mewn nifer o ffyrdd. Mae'r organedd E.coli O157 i?w ganfod yn bennaf ym mherfedd anifeiliaid fferm, yn enwedig gwartheg, a gall heintio ddigwydd trwy gysylltiad uniongyrchol ag anifeiliaid ac ysgarthion sy?n cario?r organedd a thrwy gysylltiad dynol o ganlyniad i arferion hylendid personol gwael. Gall heintiad dynol hefyd ddigwydd trwy fwyta bwyd neu yfed dŵr. Mae amrywiaeth o fwydydd wedi eu cysylltu â'r achosion o E.coli O157, yn cynnwys cynhyrchion briwgig heb eu coginio ddigon megis byrgers cig eidion, llaeth, caws a sudd afal. Gall cig amrwd gael ei halogi ag E.coli O157 wrth iddo ddod i gysylltiad ag ysgarthion o anifeiliaid fferm yn y lladd-dŷ. Achos tebyg arall o heintiad a salwch dynol yw bwyta bwydydd parod i?w bwyta a halogwyd ag E.coli O157, megis cigoedd wedi eu coginio, o ganlyniad i draws-halogiad o gig amrwd yn cario?r organedd.

Dewisiadau
Ystyriwyd tri dewis:

Dewis 1 ? Dim gweithredu o gwbl;

Dewis 2 ? trwyddedu pob siop gigydd (yn cynnwys cigyddion sy?n delio â chig amrwd heb ei lapio yn unig);

Dewis 3 ? trwyddedu cigyddion sy?n trin ac yn gwerthu cig amrwd heb ei lapio ynghyd â bwydydd parod i?w bwyta yn unig;

Dewis 1
Ni fyddai hyn yn golygu unrhyw weithredu. Byddai'r dewis hwn yn mynd yn groes i ymrwymiad a wnaed gan Lywodraeth y DU yn fuan ar ôl dod i rym ym 1997, sef y byddent yn trwyddedu siopau cigyddion yn unol ag argymhellion Grŵp Pennington. Mae'n debygol y byddai peidio gweithredu yn denu beirniadaeth gan y rhai a effeithiwyd gan yr achos o E.coli O157 yng Nghanolbarth yr Alban, yn enwedig gan y byddai?n mynd yn groes i'r camau a gymerwyd yn yr Alban lle mae ymrwymiad cryf i drwyddedu.

Dewis 2
Mae Dewis 2 yn rhagweld cynllun trwyddedu sy?n cwmpasu pob siop cigydd manwerthu, yn cynnwys cigyddion sy?n delio â chig amrwd yn unig . Byddai?n ofynnol i siopau fodloni nifer o amodau cyn bod yn gymwys am drwydded, yn cynnwys:

Mae Dewis 2 yn gyson ag argymhelliad Grŵp Pennington a oedd yn cefnogi dull HACCP o reoli mewn siopau cigyddion, er eu bod yn gweld hyn fel amcan tymor hwy. Fodd bynnag, mae?n mynd ymhellach nag argymhelliad Pennington trwy gynnwys cigyddion sy?n delio â chig amrwd yn unig yn y dull trwyddedu.

Mae'n bosibl symud yn uniongyrchol i gynllun trwyddedu sy'n seiliedig ar HACCP yng Nghymru oherwydd y cymorth a?r hyfforddiant a roir i gigyddion manwerthu gan y Fenter HACCP Cyflym (gweler Atodiad 2). Mae gan HACCP y potensial i leihau cost cydymffurfio yn sylweddol o?i gymharu â?r gofynion rhagnodedig manwl heb gyfaddawdu diogelwch bwyd. Byddai maint y lleihad hwn yn dibynnu ar natur a maint y gweithrediadau mewn busnesau unigol, i ba raddau y mae?r busnesau?n cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth hylendid gyfredol a'r gwaith ychwanegol sydd ynghlwm â gweithredu systemau HACCP yn eu hadeiladau er mwyn bodloni'r amod trwyddedu. (Gweler paragraffau 24 a 25 isod ar gostau cydymffurfio a Prawf Litmws Cwmnïau Bach sydd wedi ei gynnwys yn Atodiad 1).

Dewis 3
Mae?r dewis hwn yn golygu cynllun trwyddedu tebyg i'r un a amlinellir yn newis 2, ond prif wahaniaeth y dewis hwn fyddai?r ffaith fod y trwyddedu'n canolbwyntio ar siopau cigyddion sy?n trin ac yn gwerthu cig amrwd heb ei lapio ynghyd â bwydydd parod i?w bwyta o?r un adeilad. Gyda'r dewis hwn, ni fyddai?n rhaid i gigyddion sy?n trin ac yn gwerthu cig amrwd yn unig gael trwydded.

Mae Dewis 3 yn fwy cyson ag argymhelliad Grŵp Pennington na Dewis 2, a oedd yn ceisio cyflwyno mesurau i reoli?r perygl o draws-halogi rhwng cig amrwd a bwydydd wedi eu coginio/parod i'w bwyta. Mae'r dull hwn hefyd yn adlewyrchu llawer o'r sylwadau a dderbyniwyd yn ymgynghoriad Prydain ym 1998, yn bennaf gan orfodwyr, a oedd yn cwestiynu cyfiawnhad trwyddedu siopau cigyddion a oedd yn delio â chig amrwd yn unig o ystyried bod llai o berygl o draws-halogi, ac o ganlyniad, bod llai o berygl iechyd i?r cyhoedd, yn yr adeiladau hyn.

Materion o Gyfiawnder neu Degwch
Achosodd y digwyddiad yng Nghanolbarth yr Alban ym mis Tachwedd 1996, a gysylltwyd â chigydd lleol, farwolaethau 17 o bobl a salwch 500 o rai eraill. Dyma'r achos gwaethaf o wenwyn bwyd yn y DU erioed. Cred Llywodraeth y DU felly fod cyfiawnhad, er lles iechyd y cyhoedd, dros gyflwyno cynllun trwyddedu statudol ar gyfer cigyddion manwerthu, yn amodol ar gyflwyno mesurau hylendid gwell. Mae?r Rheoliadau'n darparu cyfnod arweiniol sy?n caniatáu i gigyddion baratoi ar gyfer y gofynion trwyddedu. At hyn, mae cigyddion wedi elwa ar y fenter gweithredu HACCP a gyllidir yn ganolog, a ddisgrifir yn Atodiad 2.

Mae Llywodraeth y DU wedi derbyn cynrychiolaeth gref, yn bennaf gan rai sydd â diddordeb mewn gorfodi, sy?n dadlau o blaid ymestyn y trwyddedu i sectorau eraill o'r diwydiant bwyd sy'n peri peryglon tebyg i'r rhai a geir mewn siopau cigyddion sy'n delio â chig amrwd heb ei lapio a bwyd parod i'w fwyta. Ar ôl ystyried y safbwyntiau hyn yn ofalus, mae'r Cynulliad wedi penderfynu y dylai'r argymhellion trwyddedu hyn ganolbwyntio ar siopau cigyddion manwerthu sy'n delio â chig amrwd heb ei lapio a bwydydd parod i?w bwyta yn unol â'r argymhelliad yn Adroddiad Pennington. Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynghori'r Cynulliad ar unrhyw drwyddedu i?r dyfodol y gellir o bosib ei gyfiawnhau ar sail iechyd cyhoeddus.

Manteision
Mae?r adran hon yn nodi manteision pob dewis ac yn ceisio eu mesur a barnu eu gwerth.

Dewis 1 Dim gweithredu
Ni fyddai angen unrhyw newid mewn siopau cigyddion manwerthu gyda?r dewis hwn. Ni fyddai unrhyw gostau ariannol ond ni fyddai?n mynd i?r afael â?r peryglon iechyd cyhoeddus penodol a amlygwyd yn Adroddiad Pennington. Ni fyddai gwneud dim yn sicrhau gwell rheolaethau hylendid mewn siopau cigyddion, rheolaethau sy?n angenrheidiol yn ôl y Cynulliad i roi gwell diogelwch i?r defnyddiwr rhag bwyd a werthir yn yr adeiladau hyn. Byddai?r dewis hwn hefyd yn methu cydnabod y gefnogaeth eang i drwyddedu yn yr ymgynghoriad cyhoeddus a derbyniad Llywodraeth y DU o argymhellion trwyddedu Grŵp Pennington .

Dewis 2 - Trwyddedu pob siop cigydd
Nid yw?n bosibl meintoli na barnu gwerth manteision y dewis hwn yn ariannol nac amcangyfrif faint o farwolaethau neu achosion o salwch y gallai trwyddedu eu hatal. Mae?n fwy tebygol y bydd y manteision yn cael eu hamlygu mewn gwell rheolaethau ac arferion hylendid mewn siopau cigyddion a gwell ymwybyddiaeth ymhlith staff siopau cigyddion o beryglon E.coli O157 a sut y gellir eu rheoli. Bydd y mesurau hylendid a gyflwynir o ganlyniad i?r trwyddedu hefyd yn gwella diogelwch y cyhoedd rhag bacteria sy'n gwenwyno bwyd, megis salmonela a campylobacter. Credwn y byddai trwyddedu hefyd yn helpu i adfer hyder y cyhoedd yn y sector cigyddiaeth, gyda sgil-fanteision i'r diwydiant cig cyfan. Fodd bynnag, ni ellir honni nad oes cyfiawnhad i drwyddedu siopau cigyddion sy?n trin ac yn gwerthu cig amrwd yn unig ar y sail nad yw'r perygl o halogiad bwyd parod i'w fwyta yn bresennol .

Dewis 3 - Trwyddedu cigyddion sy?n trin cig amrwd heb ei lapio ynghyd â bwydydd parod i?w bwyta yn unig

Mae Dewis 3 yn adlewyrchu dull trwyddedu sy?n fwy seiliedig ar berygl o ystyried y perygl sylweddol uwch o draws-halogi o gig amrwd i fwyd wedi ei goginio/parod i'w fwyta mewn siopau cigyddion sy?n delio â'r cynnyrch hynny. O gymhariaeth, mae?n annhebygol y bydd peryglon o draws-halogi yn codi mewn siopau sy?n delio â chig amrwd yn unig. Er gwaethaf ei gwmpas mwy cyfyng, disgwylir i'r dewis hwn roi'r un diogelwch iechyd i'r cyhoedd a'r un manteision eraill fwy neu lai â'r dull a amlinellir yn newis 2.

Costau Cydymffurfio ar gyfer Busnes, Elusennau a Chyrff Gwirfoddol
Sectorau busnes yr effeithir arnynt
Byddai?r agrymhellion trwyddedu yn effeithio ar y sector cigyddiaeth manwerthu yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys siopau cigyddion manwerthu ar y stryd fawr, mannau gwasanaeth cigyddiaeth mewn busnesau manwerthu mawr fel archfarchnadoedd, siopau a stondinau cigyddion symudol, a rhai siopau fferm.

Amcangyfrifwn fod tua 1,100 o siopau cigyddion yng Nghymru. Mae'r ffigwr hwnnw?n cynnwys tua 800 o siopau sy?n delio â chig amrwd a chigoedd wedi eu coginio/bwydydd parod i'w bwyta, a?r 300 neu ragor sy?n weddill sy?n delio â chig amrwd yn unig. At hynny, amcangyfrifwn fod tua 200 o fannau gwerthu mawr yng Nghymru gyda chownteri gwasanaeth cigyddiaeth. Efallai nad yw hyn yn cyfrif yn llawn nifer y mannau gwerthu mawr, ond ni chawsom unrhyw wybodaeth wrth ymgynghori i gadarnhau hyn.

Costau cydymffurfio i fusnes nodweddiadol
Nid yw Dewis 1 yn golygu unrhyw gostau i fusnesau. Mae'r costau canlynol ar gyfer dewisiadau 2 a 3. Mae'r prif gostau cydymffurfio'n ymwneud â gweithredu gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd HACCP, darparu hyfforddiant staff a thalu ffi trwydded o £100 wrth dderbyn trwydded.

Cost gweithredu gweithdrefnau HACCP
Amlinellir isod amcangyfrif o'r costau nad ydynt yn ailddigwydd o weithredu gweithdrefnau HACCP mewn busnes nodweddiadol. Mae?r amcangyfrifon hyn yn ddibynnol ar natur y busnes, h.y. y mathau o gynhyrchion sy?n cael eu trin, y graddau y maent yn cydymffurfio â?r ddeddfwriaeth bresennol ar hylendid, a?r gwaith ychwanegol sy'n angenrheidiol i weithredu gweithdrefnau HACCP effeithiol.

Fodd bynnag, daeth yn amlwg wrth weithredu?r cynllun HACCP cyflym fod y costau hyn yn ymwneud yn bennaf â?r newidiadau gweithredol ac adeiladol sy?n angenrheidiol i allu cydymffurfio â?r Rheoliadau Hylendid 1995 presennol , yn hytrach na gweithredu rheoliadau HACCP o dan gynllun trwyddedu. Gan gymryd i ystyriaeth y rhaglen wirfoddol sy?n cael ei hariannu?n ganolog i ddarparu cefnogaeth HACCP i ryw 1,000 o gigyddion, ni fydd y Rheoliadau trwyddedu yn golygu costau newydd sylweddol i fusnesau, ar wahân i?r rheiny sy?n gysylltiedig â hyfforddiant a?r ffi i wneud cais am drwydded - gweler isod.

Cost hyfforddiant

26. Yr oedd yr Asesiad Cost Cydymffurfio gwreiddiol, a gyhoeddwyd fel rhan o ymarfer ymgynghori Prydain 1998, yn amcangyfrif bod y costau hyfforddiant cenedlaethol i?r diwydiant drwy Brydain gyfan tua £6.5 miliwn. Amcangyfrifwyd y ffigwr ar sail trwyddedu 13,500 o fannau. O gofio bod llai o adeiladau?n cael eu cynnwys yng Nghymru gan y cynigion hyn (tua 1,100) a?r hyfforddiant HACCP am ddim sy?n cael ei ddarparu i ryw 1,000 o reolwyr drwy?r Fenter HACCP Cyflym sy?n cael ei hariannu?n ganolog, gellid disgwyl i gost cydymffurfio hyfforddiant o dan ddewis 2 i?r sector cigyddiaeth yng Nghymru fod yn nes at £400,000. Mae hyn yn golygu cost flynyddol ar gyfartaledd am bob adeilad o ryw £365. Ar y sail hon byddai cyfanswm y costau hyfforddiant ar gyfer dewis 3 (800 o siopau) tua £290,000. Byddem yn disgwyl i gostau hyfforddiant cyffredinol i?r sector cigyddiaeth ostwng ar ôl y flwyddyn gyntaf oherwydd mai costau unwaith-am-byth fydd y rhain i?r rhan fwyaf o siopau cigyddion.

Cost cael trwydded
Byddai trwyddedu pob un o?r 1,100 o adeiladau (am gost o £100 fesul adeilad) o dan ddewis 2 yn golygu cyfanswm cost flynyddol o £110,000 i?r sector cigyddiaeth. Pe bai cigyddion cig amrwd yn unig yn cael eu hepgor, byddai?r gost flynyddol o dan ddewis 3 yn gostwng i £80,000. Pe bai pob un o?r 200 o adeiladau mawr gyda mannau cigyddiaeth yn dod o fewn cwmpas y Rheoliadau trwyddedu, byddai hynny?n ychwanegu £20,000 at gost flynyddol y ddau ddewis o ffioedd trwyddedu.

Cyfanswm Costau Cydymffurfio

28. Amcangyfrifir bod cyfanswm y costau ar gyfer dewis 2 tua £400,000 ar gyfer hyfforddiant a £110,000 o ffioedd trwyddedu, gan roi cyfanswm cost flynyddol o £510,000 ( neu tua £530,000 os caiff pob un o?r 200 o adeiladau mawr eu trwyddedu).

Amcangyfrifir bod cyfanswm y costau ar gyfer dewis 3 tua £290,000 ar gyfer hyfforddiant a £80,000 o ffioedd trwyddedu, gan roi cyfanswm cost flynyddol o £370,000 (neu tua £390,000 os caiff pob un o?r 200 o adeiladau mawr eu trwyddedu).

O dan Ddewis 2 a Dewis 3, byddai cyfanswm y costau'n gostwng ar ôl y flwyddyn gyntaf, oherwydd byddai costau hyfforddiant yn gostau unwaith ac am byth i?r mwyafrif o siopau cigyddion.

Ymgynghori â Busnesau Bach: 'Y Prawf Litmws'
Yn ogystal â phrif ymarfer ymgynghori Prydain, a oedd yn cynnwys sefydliadau a chyrff masnach ar gyfer busnesau bach, cafodd yr argymhellion eu trafod gyda thri busnes. Cysylltir yn Atodiad 1 brawf litmws ymhlith cwmnïau bach.

Costau Eraill
Amcangyfrifwn y byddai costau ychwanegol ar awdurdodau lleol sy?n ymwneud ag asesu a dyfarnu trwyddedau. Bydd y ffi trwydded o £100 a awgrymir, sydd i?w gadw gan awdurdodau lleol, yn gwneud iawn am y costau ychwanegol hyn.

Canlyniadau Ymgynghori
Bu Llywodraeth y DU yn ymgynghori?n helaeth am ei hargymhellion trwyddedu rhwng 23 Chwefror a 22 Mai 1998. Roedd y dogfennau ymgynghori?n cynnig cyflwyno cynllun trwyddedu blynyddol ar gyfer siopau cigyddion manwerthu yn amodol ar gyflwyno gwell mesurau hylendid i leihau peryglon traws-halogi. Cynigiwyd y dylai trwyddedu fod yn gymwys i siopau cigyddion sy?n delio â chig amrwd yn unig, ac i?r rheiny sy?n delio â chig amrwd a bwydydd wedi eu coginio/parod i'w bwyta, h.y. mewn gwirionedd y dull yn newis 2.

Ymgynghorwyd â mwy na 1,000 o gyrff ar hyd a lled y DU. Yng Nghymru, roedd yr ymarfer yn cynnwys adrannau iechyd amgylchedd awdurdodau lleol a chyrff proffesiynol, cwmnïau bwyd, cymdeithasau masnach, ymchwil a buddiannau defnyddwyr.

Ar y cyfan, dangoswyd cefnogaeth gyffredinol i gyflwyno cynllun trwyddedu ar gyfer cigyddion, ac yn gyffredinol roedd atebwyr yn fodlon â?r dull yn seiliedig ar HACCP, yn hytrach na gofynion gwahanu ffisegol penodol i atal traws-halogi. Mynegwyd ychydig ofid hefyd am effaith y ffi trwydded o £100 ar fusnesau bach.

Yr oedd nifer o?r atebwyr yn amau amrywiol agweddau ar y diffiniad o siop cigydd, ac roedd rhai o'r farn na ddylid cynnwys cigyddion sy?n delio â chig amrwd yn unig. Yr oedd cydbwysedd cyffredinol y farn honno?n ddigon tebyg ar draws Cymru a Lloegr. Yng ngoleuni?r ymgynghori, penderfynodd Gweinidogion Lloegr y dylai cwmpas y Rheoliadau trwyddedu yn Lloegr gael ei dynhau i ganolbwyntio ar y siopau cig hynny sy?n achosi?r perygl mwyaf i iechyd y cyhoedd, sef siopau sy?n trin ac yn gwerthu cig amrwd heb ei lapio a bwyd sy?n barod i?w fwyta. Dyma?r dull a amlinellir o dan ddewis 3 uchod. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno y dylai?r dull hwn gael ei adlewyrchu yn y Rheoliadau yng Nghymru.

Mae?r argymhellion trwyddedu?n adlewyrchu nifer o ddiwygiadau eraill yn yr argymhellion gwreiddiol sy?n deillio o?r ymgynghori ym Mhrydain. Mae?r diffiniad o "gig" wedi ei newid i hepgor cynhyrchion cig a pharatoadau cig (fel cig moch wedi ei halltu a selsig) gan ddileu o gwmpas y cynllun trwyddedu siopau delicatessen, siopau bach lleol a mannau gwerthu tebyg sy?n gwerthu?r cynhyrchion hyn ynghyd â bwydydd parod i?w bwyta, ond dim cig ffres.

Mae cig wedi ei ailddiffinio fel cig ffres, i gynnwys cig dofednod, cig cwningod a chig helfa gwyllt ac wedi ei ffermio, gan fod y cigoedd amrwd hyn yn debyg i gig coch lle mae traws-halogi yn y cwestiwn.

Mae diwygiadau eraill a wnaed i'r Rheoliadau'n egluro

Yn dilyn y diwygiadau hyn yn yr argymhellion gwreiddiol, cafodd cyrff gorfodi, diwydiant a defnyddwyr yng Nghymru sydd â diddordeb gyfle pellach i roi sylwadau am ddiben y mesur a'r diben a fwriedir, gan gynnwys y goblygiadau ariannu sy'n gysylltiedig â chyflwyno'r cynllun, ar 19 Ebrill. Cafwyd cyfanswm o 11 o atebion. Daeth y mwyafrif o?r atebion hynny (7) oddi wrth awdurdodau gorfodi, a'r gweddill gan gymdeithasau masnach a busnesau.

Unwaith eto, cafwyd cefnogaeth gyffredinol i gyflwyno'r cynllun trwyddedu. Gwelir crynodeb o'r atebion yn Atodiad 3.

Crynodeb ac Argymhellion


 
Dewis 2 Costau Disgwyliedig
Dewis 3 Costau Disgwyliedig
Dewis 2 Manteision Disgwyliedig
Dewis 3 Manteision Disgwyliedig
Busnes
Costau sy'n ail-ddigwydd o tua £530,000 y flwyddyn; Ni ragwelir costau unwaith ac am byth sylweddol
Costau sy'n ail-ddigwydd o tua £390,000 y flwyddyn; Ni ragwelir costau unwaith ac am byth sylweddol
Gall y sector cigyddiaeth ddisgwyl elwa?n fasnachol o ganlyniad i adnewyddu hyder y cyhoedd. Sgil-fanteision i?r diwydiant cig yn gyffredinol.
Fel dewis 2
Elusennau
Dim
Dim
Dim
Dim
Dinasyddion
Anodd eu pennu ? yn debygol o fod yn fach iawn.
Fel dewis 2
Gwell diogelwch i?r defnyddiwr o ganlyniad i safonau a rheolau hylendid gwell mewn siopau cigyddion
Fel dewis 2
Y Llywodraeth
(i) Y Cynulliad Cenedlaethol ?£1.2M ar gyfer menter a gydlynir yn ganolog i helpu cigyddion i weithredu systemau HACCP. (ii) Llywodraeth Leol ? costau ychwanegol a gwmpasir yn y ffi trwydded.
Fel dewis 2
Yn gyson â derbyniad Llywodraeth y DU o bob un o 32 argymhelliad Grŵp Pennington
Fel dewis 2 (ii) yn galluogi awdurdodau bwyd lleol i ganolbwyntio eu hadnoddau ar gigyddion o berygl uwch.

Gwrthodir Dewis 1 ar y sail nad yw'n gwella'r modd y diogelir y cyhoedd rhag bwyd a werthir mewn siopau cigyddion nac yn gweithredu?r argymhelliad penodol ar drwyddedu yn Adroddiad Pennington, a dderbyniwyd gan Lywodraeth y DU. Mae?r dewis felly rhwng dewis 2 a 3. Mae?r ddau ddewis yn ei gwneud hi'n ofynnol bod yr union un amodau hylendid gwell yn cael eu diwallu fel cyn-amod trwyddedu. Yr unig wahaniaeth rhwng y ddau ddewis yw eu cwmpas, sef y mathau o fusnesau a gwmpasir ganddynt.

Mae canolbwyntio'r Rheoliadau ar siopau cigyddion sy'n delio â chig amrwd heb ei lapio a bwydydd parod i?w bwyta, fel sy'n cael ei argymell yn newis 3, yn cynrychioli dull sy?n fwy seiliedig ar berygl, gan mai oblygiadau traws-halogi yw?r rhai mwyaf difrifol o ran iechyd cyhoeddus. Mae?r dull hwn hefyd yn gyson â chasgliadau Grŵp Pennington a oedd yn pryderu fwyaf am y math hyn o adeiladau. Mae hefyd yn adlewyrchu canlyniad ymgynhoriad Prydain. Byddai Dewis 3 hefyd yn galluogi awdurdodau bwyd i dargedu eu hadnoddau'n fwy manwl ar adeiladau o berygl uchel. Felly argymhellir Dewis 3.

Gorfodi, Sancsiynau, Monitro ac Adolygu
Cyfrifoldeb yr awdurdodau bwyd lleol fydd gorfodi'r Rheoliadau hyn. Rhoddwyd y grym i awdurdodau bwyd ddyfarnu trwyddedau, wrthod ceisiadau nad ydynt yn cwrdd â?r gofynion trwyddedu, ac atal neu ddirymu trwyddedau lle y torrwyd yr amodau trwyddedu. Mae gan y dalwyr trwydded yr hawl i apelio yn erbyn penderfyniadau o?r fath gerbron llys ynadon o dan adran 37(5) Deddf Diogelwch Bwyd 1990. Gall adeiladau barhau ar agor tan y ceir dyfarniad ar yr apel oni bai fod iechyd y cyhoedd ar fin cael ei beryglu ? mewn amgylchiadau o?r fath, byddai?r pwerau argyfwng presennol i gau ar unwaith a geir yn y Ddeddf Diogewlch Bwyd 1990 yn berthnasol.

O dan baragraff 2 Atodlen 1A o?r Rheoliadau diwygiedig, byddai?n drosedd gweithredu siop gigydd fel a ddiffiniwyd heb drwydded gyfredol.

Bwriad yr Asiantaeth Safonau Bwyd yw cyhoeddi Nodiadau Canllaw i gydfynd â?r Rheoliadau Diwygiedig.

Bydd y Rheoliadau diwygiedig yn amodol ar fonitro mewn cysylltiad â Chorff Cydlynu Awdurdodau Lleol ar Safonau Bwyd a Masnach (LACOTS) i asesu eu gweithredu a?u heffaith. Gwneir adolygiad o weithrediad y cynllun trwyddedu bob dwy flynedd o?r dyddiad y daw?r amodau trwyddedu i rym yn llawn.

CYSWLLT
Keith Blake
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
Llawr 1af, Tŷ Southgate
Wood Street
Caerdydd CF10 1EW
Ffôn: 029 2067 8902 Ffacs: 029 2067 8919
Ebost: keith.blake@foodstandards.gsi.gov.uk

ATODIAD 1

PRAWF LITMWS CWMNÏAU BACH

Gyda chymorth y Ffederasiwn Masnachwyr Cig a Bwyd Cenedlaethol (NFMFT), gwahoddwyd nifer o gwmnïau bach i gymryd rhan yn yr ymarferiad. Gwahoddwyd tri chwmni a oedd yn cynrychioli?r diwydiant am gyfweliad.

Busnes I ? roedd y cwmni cyntaf a gyfwelwyd yn gwerthu cig amrwd a dewis eang o gigoedd wedi eu coginio (nifer wedi eu paratoi ar y safle) a bwydydd eraill parod i?w bwyta e.e. caws. Mae?r cwmni?n cyflogi 28 o weithwyr llawn amser ac er bod y cwmni?n amharod i drafod trosiant, mae?n debyg fod ganddo drosiant o oddeutu £1 miliwn y flwyddyn. Roedd gan y perchennog system HACCP eisoes yn ei le ac roedd pob aelod o?r staff wedi derbyn hyfforddiant mewn Hylendid Bwyd. Nid oedd yn rhagweld y byddai?r rheoliadau arfaethedig yn golygu unrhyw gostau sylweddol ychwanegol i?w gwmni. Roedd yn cefnogi?r egwyddor o drwyddedu a gwneud HACCP yn ofynnol. Roedd o?r farn fod y taliad blynyddol o £100 yn rhesymol.

Nid oedd gan y perchennog ffigur dibynadwy ar gostau gweithredu HACCP, yn seiliedig ar gynnydd mewn monitro. Roedd yn amcangyfrif y gallai olygu chwe awr mewn wythnos @ £10 yr awr (£3k y flwyddyn). Fodd bynnag, byddai rhan fawr o?r gweithgaredd rheoli hwn yn ofynnol yn ôl y gofynion cyfreithiol cyfredol.

Busnes II ? busnes teuluol oedd yr ail gwmni a gyfwelwyd a oedd yn gwerthu cig amrwd a chigoedd wedi eu coginio (weithiau wedi eu paratoi ar y safle) ynghyd â dewis cyfyngedig o fwydydd parod i?w bwyta eraill. Dau frawd sy?n rhedeg y cwmni ac roeddynt yn cyflogi chwech o weithwyr ar adeg y cyfweliad. Ar sail nifer y staff, mae?r trosiant NFMFT a amcangyfrifwyd yn debygol o fod oddeutu £400,000 y flwyddyn. Roedd y perchnogion wedi derbyn hyfforddiant Hylendid Bwyd ond nid oedd unrhyw aelod o?r staff wedi derbyn hyfforddiant hylendid ffurfiol. Cyflwynodd yr adeilad reolaethau HACCP yn sgil cyflwyniad y Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd Cyffredinol) 1995. Nid oedd y perchennog a gafodd ei gyfweld o?r farn fod y system HACCP yn golygu costau sylweddol. Er bod rhedeg y system yn golygu cost barhaus, nid oedd o?r farn ei fod yn feichus, ac nid oedd wedi ei gostio. Roedd y cwmni?n cytuno y byddai trwyddedu cigydd yn gam da ac roeddynt o'r farn fod ffi trwydded o £100 (fel yr argymhellir yn yr ymgynghoriad) yn rhesymol ac na ddylai effeithio?n andwyol ar gigyddion.

Busnes III ? gŵr a gwraig oedd yn rhedeg y trydydd cwmni ac nid oeddynt yn cyflogi neb arall. Roedd y cwmni?n gwerthu cigoedd amrwd a dewis cyfyngedig o gigoedd wedi eu coginio a bwydydd parod i?w bwyta eraill. Roedd rhai cigoedd wedi eu coginio, e.e. ham a phastai, yn cael eu gwneud ar y safle. Nid oedd y cwmni'n gweithredu HACCP ond roedd wedi gweithio gyda'r Cyngor lleol i gyflwyno gweithdrefnau i reoli peryglon bwyd - gweithdrefnau nad oeddynt yn cael eu cofnodi. Nid oedd y perchennog yn credu y byddai cofnodi?r gweithdrefnau cyfredol yn golygu costau sylweddol ychwanegol nac arbenigedd ac roedd yn bwriadu gwneud hyn beth bynnag. Roedd yn cefnogi camau i gyflwyno HACCP gan ei fod yn ei alluogi i gyflwyno?r rheolaethau angenrheidiol i gwrdd ag anghenion y busnes. Er enghraifft, er mwyn rheoli halogiad cig, mae cig wedi ei goginio?n cael ei baratoi ar ddyddiau penodol yn ystod yr wythnos pan nad oes bwydydd amrwd yn cael eu paratoi yn yr un ystafell. Roedd o?r farn fod trwyddedu cigyddion yn rhesymol ac nid oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i ffi o oddeutu £100.

Busnesau I, II a III: Costau Gweithredu HACCP
Nid oedd yr un o'r perchnogion mewn sefyllfa i roi amcangyfrifon dibynadwy ar gostau gweithredu. Fodd bynnag, cyn ymarferiad ymgynghori Prydain ddechrau 1998, roedd hi'n ymddangos y byddai?r costau gweithredu i bob busnes rhwng oddeutu £1,000 a £5,000, ac amlinellwyd yr amcangyfrifon hyn ym mharagraff 7 o Asesiad Cydymffurfio Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ar 23 Chwefror 1998. Mae tystiolaeth fwy diweddar o weithredu'r fenter HACCP cyflym, a gyllidir yn ganolog, yn awgymru y byddai'r costau hyn yn cynnwys elfen sylweddol mewn perthynas â chydymffurfiad effeithlon â rheoliadau hylendid bwyd cyffredinol 1995. O ganlyniad, credwn bellach na fyddai'r Rheoliadau trwyddedu yn peri costau sylweddol ychwanegol i fusnesau ar wahân i'r costau hynny sy'n gysylltiedig â hyfforddi staff a'r ffi trwydded (gweler paragraffau 21-29 o'r Asesiad o Effaith Rheoleiddio).

Crynodeb
I grynhoi, roedd y masnachwyr a gafodd eu cyfweld yn cefnogi?r argymhellion i gyflwyno hyfforddiant a thrwyddedu hylendid bwyd gwell HACCP, ac roeddynt o?r farn mai prin fyddai'r effaith fasnachol ar eu busnesau. Roedd pob un o'r cigyddion a holwyd o'r farn fod y ffi trwydded o £100 yn rhesymol.

ATODIAD 2
RHEOLBWYNT CRITIGOL AR GYFER DADANSODDI PERYGLON (HACCP)
Cydnabyddir HACCP yn rhyngwladol fel y dull mwyaf effeithiol o reoli diogelwch bwyd mewn busnesau bwyd ac o ddiogelu iechyd cyhoeddus. Mae'n cynnig dull ag iddo strwythur a threfn ar gyfer sicrhau bod y bwyd sy'n cyrraedd pen ei daith yn ddiogel, trwy reoli ac adolygu peryglon sy'n rhan gynhenid o'r prosesau o drin a chynhyrchu bwyd. Mae'r rhai sydd o blaid HACCP yn cynnwys Comisiwn Codex Alimentarius Mudiad Iechyd y Byd, y Comisiwn Ewropeaidd a Phwyllgor Ymgynghorol Llywodraeth y DU ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd (ACMSF). Mae hyrwyddo gweithrediad HACCP drwy'r diwydiant bwyd hefyd yn rhan allweddol o strategaeth Llywodraeth y DU i wella diogelwch bwyd a diogelwch y defnyddiwr.

Bydd y Rheoliadau trwyddedu yn ei gwneud hi'n ofynnol i gigyddion weithredu gweithdrefnau HACCP yn eu siopau ar sail yr egwyddorion a ganlyn:

HACCP CYFLYM I SIOPAU CIGYDDION YNG NGHYMRU

Sicrhaodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod £1.2 miliwn ar gael i ariannu?r fenter fawr i gyflymu cyflwyniad HACCP mewn siopau cigyddion manwerthu annibynnol yng Nghymru. Nod y fenter oedd gwella rheolaethau a safonau hylendid bwyd mewn dros 1,100 o siopau cigyddion a diogelu iechyd y defnyddwyr cyn y cyflwynir y trwyddedu yn hydref 2000.

Nodweddion Allweddol y Fenter

Dyma oedd nodweddion allweddol y fenter:

Cynnydd hyd yma

Manteisiodd bron i bob un o?r 1,100 o siopau cigyddion yng Nghymru ar y fenter ers ei lansio yn hydref 1998. Erbyn canol mis Mawrth 2000, roedd tua 1,000 o gigyddion wedi eu hyfforddi gyda?r mwyafrif yn gweithredu?r systemau HACCP achrededig yn eu siopau. Nid yw?r ffigurau hyn yn cynnwys unrhyw adeiladau trwyddedig a oedd yn gwneud eu trefniadau eu hunain ar gyfer rhoi HACCP ar waith cyn i'r Rheoliadau trwyddedu ddod i rym.

ATODIAD 3

Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd Cyffredinol) (Siopau Cigyddion) (Diwygiad) (Cymru)

Crynodeb o'r atebion i'r ymarferiad ymgynghori


PRYDERON
Yr angen am orfodaeth gyson ledled Cymru, a gyda rhannau eraill o?r DU.
Cydymffurfio â Rheoliadau Hylendid Bwyd Cyffredinol a Rheoliadau Rheoli Tymheredd Bwyd Cyffredinol.
Rheoliad 5(1)(c) ? y term "gweithio yn y siop". Os oes gan fusnes nifer o siopau, a all gweithiwr symud o un i?r llall i fodloni?r gofyniad hwn.
Mae atodiad i Ganllaw y Diwydiant Manwerthu ar ffurf drafft yn Lloegr ar hyn o bryd. Byddai?n gall mabwysiadu?r canllaw cydymffurfio hwn yng Nghymru.
Angen am ddiffiniad mwy manwl o "fwydydd parod i?w bwyta". Ni ddylai siopau cig bach sy?n gwerthu nwyddau megis caniau, poteli neu becynnau, ond nad ydynt yn gwerthu bwydydd wedi eu coginio a all fod yn "beryglus", orfod cael trwydded.
Bydd y cynllun gweithredu HACCP eisoes wedi cwrdd â rhan fawr o gyfanswm y costau cydymffurfio. Gellir dadlau y byddai unrhyw gostau ychwanegol i fusnesau wedi digwydd beth bynnag wrth gydymffurfio â?r Rheoliadau Diogelwch Bwyd (Hylendid Bwyd Cyffredinol).
Y lleiaf o fusnesau sy'n gorfod cyflawni?r gofynion trwyddedu, y mwyaf tebygol y maent o oroesi.
Byddai costau hyfforddi staff, ynghyd â chostau cistiau newydd a chyfleusterau storio, yn sylweddol.
Ni nodir yn union beth yw graddau gofynion hyfforddi staff.
Dylai?r Egwyddor Awdurdod Cartref fod yn berthnasol wrth gymeradwyo gweithdrefnau HACCP, pan fo masnachwr yn gweithredu dau fusnes neu ragor a leolir mewn gwahanol awdurdodau lleol.
Mae hepgor cynhyrchion megis selsig a chig moch o ddiffiniad cig amrwd, yn tynnu o gwmpas y Rheoliadau, adeiladau megis siopau delicatessen a siopau bach lleol. Byddai?n fwy rhesymol hepgor adeiladau o?r fath os oedd y bwyd wedi ei lapio?n barod i'w werthu gan y cynhyrchwyr.
Dylid cynnwys adeiladau sy?n gwerthu ffrwythau a llysiau yn bennaf ond sydd hefyd yn gwerthu cig 'helfa gwyllt' yn y cynllun. A fyddai angen trwydded ar wahân i?w trwydded cigydd ar adeiladau o?r fath, i werthu ?cig helfa gwyllt?.
Rheoliad 5(6) ? y term "offer". A fyddai hyn yn cynnwys sinciau a basnau golchi dwylo, neu a yw ond yn cwmpasu eitemau megis cyfarpar torri.
Ni fydd angen trwyddedu adeiladau sy?n gwerthu briwgig amrwd heb ei lapio, selsig na byrgers ynghyd â bwydydd parod i?w bwyta. Mae angen Canllaw i gyd-fynd â?r Rheoliadau fydd yn egluro hyn.
Dryswch rhwng y gofynion fod awdurdodau bwyd yn rhoi hysbysiad o'u penderfyniad i?r "ymgeisydd", a?r gofyniad fod y "perchennog" yn cael ei hysbysu os atelir neu ddirymir y drwydded.
Ni fydd y Rheoliadau yn cyflwyno unrhyw gostau sylweddol newydd i siopau cigyddion sy?n cymryd rhan yn y cynllun HACCP, ar wahân i?r costau hynny sy?n gysylltiedig â hyfforddiant a chost y ffi trwydded.
O blaid cael yr un cyfreithiau mewn grym ym mhedair rhan y DU.
PRYDERON
Ansicr ynglŷn â'r darpariaethau hyfforddi, fel amod i?r drwydded. A fyddai?n rhaid i gigyddion basio unrhyw gyrsiau a fynychir ganddynt?
Mae?n bosib fod mwy o berygl i adeilad sy?n cydymffurfio â gofynion y Rheoliadau Cynnyrch Cig achosi niwed dros ardal eang, ond nad yw'n ofynnol iddo gael trwydded. A yw?n amser ystyried trwyddedu?r adeiladau hyn yn ogystal?
Cefnogi'r argymhelliad, sy?n cynnig y dull seiliedig ar berygl a'r dull gweithredu sydd â'r cyfiawnhad mwyaf iddo.
Dylai Cymru gael yr un cyfnod o chwe mis ar gyfer newid.
Dylid holi cigyddion manwerthu yng Nghymru am eu barn ar y ffi trwydded o £100. O?r farn na fyddent yn teimlo fod y ffi?n rhesymol.
Teimlo y dylai lladd-dai gael eu hepgor rhag cael eu trwyddedu.
Dylid gwrando ar apeliadau yn fuan ac o fewn terfynau amser penodedig, a dylai fod yn bosibl gwneud hyn yn lleol.
Dylid hepgor digwyddiadau elusennol o'r gofynion trwyddedu.
Hoffem weld y ffi yn cael ei dalu gyda?r cais, fel arall bydd swyddogion gorfodi yn gwastraffu adnoddau sy?n ddigon prin yn mynd ar ôl ffioedd heb eu talu/yn bwrw ymlaen â chamau i gasglu dyledion sifil.
Dylid adolygu y ffi trwydded o £100 yn rheolaidd, gan osod lefel sy?n adlewyrchu gwir gost y gwaith.
Mae?n bosib mai nawr fyddai?r amser gorau i weithredu Dewis 2 yn y Gwerthusiad Rheoleiddio, sy?n ceisio trwyddedu pob siop cigydd.
Dylai costau hyfforddi a nodwyd yn y Gwerthusiad Rheoleiddio fod yn gostau unwaith ac am byth. Byddai costau i?r dyfodol yn dibynnu ar yr angen am gyrsiau atgoffa, a faint o staff sy?n mynd a dod yn y cwmni. Ni ddylai cyfanswm y costau cydymffurfio gynnwys y rhain fel costau sy?n ail-ddigwydd.
Dylid ailddiffinio siop cigydd, fel arall bydd angen trwyddedu mannau gwerthu megis "Spar" sy?n gwerthu cig moch wedi ei rag-becynnu.
Mae'n annhebygol y gallai'r adeilad gydymffurfio?n barhaus â?r Rheoliadau. Hwyrach y bydd angen Cod Ymarfer.
Ni ragwelir y byddai cigyddion yn gwrthwynebu talu y ffi trwydded o £100. Back to top

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

Our Sites

Find out what our other sites have to offer

Change Text Only Settings

Graphic version of this page