Food Standards Agency
Monday 22 March 2010
Safe food and healthy eating for all banner welsh
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteDogfennau ymgynghori 2006
Mae'r llythyr hwn yn gofyn am eich sylwadau ar God Ymarfer (CY) drafft diwygiedig ar Orfodi Cyfraith Bwyd Anifeiliaid ym Mhrydain, sy'n amgaeedig. Cynhelir ymgynghoriad tebyg yn Lloegr a'r Alban hefyd. Paratowyd y CY mewn ymateb i argymhelliad gan Swyddfa Bwyd a Milfeddygaeth (FVO) y Comisiwn Ewropeaidd.
Mae'r llythyr hwn yn gofyn am eich sylwadau ar ganllawiau drafft ar ddehongli a gosod labeli ar fwydydd anifeiliaid cyfansawdd yn ôl canran y pwysau a gynhwysir o'r cynhwysion deunydd porthiant ('datgan cynnwys fel canran').
Yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y trefniadau sy'n cael eu gwneud i orfodi deddfwriaeth hylendid bwyd yr UE ar ffermydd yng Nghymru. Awdurdodau Lleol fydd yr awdurdod gorfodi ar gyfer y rhannau o'r ddeddfwriaeth sy'n berthnasol am y tro cyntaf.
Mae'r llythyr hwn yn gofyn am eich barn a'ch sylwadau ar gopi drafft Rheoliadau Bwyd at Ddefnydd Maethol Neilltuol (Ychwanegu Sylweddau at Ddibenion Maethol Penodol) (Cymru) (Diwygio) 2007, sy'n gweithredu Cyfarwyddeb 2006/34/EC y Comisiwn yng Nghymru.
Mae'r llythyr hwn yn gofyn am eich sylwadau ar Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Diwygio) (Cymru) 2006 drafft, sy'n ailgyflwyno un o ddarpariaethau Cyfarwyddeb 2002/2/CE yn ymwneud â datganiad canran cynhwysion bwyd cyfansawdd.
Mae'r llythyr hwn yn gofyn am eich sylwadau ar y Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Sylweddau Annymunol Penodol) (Cymru) 2006 drafft, a fydd yn gweithredu tri mesur y CE yn diwygio'r lefelau uchaf a ganiateir (MPL) ar gyfer rhai sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid.
Mae'r llythyr hwn yn gofyn am eich barn a'ch sylwadau ar y copi drafft amgaeedig o Reoliadau Bwydydd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym (Cymru) 2007. Mae'r Rheoliadau yn dirymu ac yn ail-greu, gyda diwygiadau, Rheoliadau Bwydydd sydd wedi'u Rhewi'n Gyflym 1990.
Byddwn yn ddiolchgar am eich sylwadau ar y rheoliadau a welir a fydd yn gweithredu darpariaethau Rheoliad 882/2004 y Gymuned Ewropeaidd ar Reolau Bwyd a Phorthiant Swyddogol (OFFC) yng Nghymru sy'n ymwneud â chodi tâl am reolaethau swyddogol hylendid cig mewn sefydliadau cig cymeradwy.
Find out what our other sites have to offer