Skip navigation

Food Standards Agency

Sunday 5 July 2009

Safe food and healthy eating for all banner welsh

AZ-Directory What's New

Gorfodi cyfraith bwyd i’w drafod mewn cyfarfod agored y Pwyllgor Cynghori ar Fwyd

Monday 5 April 2004

Gwesty’r Celt, Caernarfon ar 21 Ebrill

Trafodir gorfodi cyfraith bwyd Awdurdod Lleol mewn cyfarfod agored yng Nghaernarfon ddydd Mercher, 21 Ebrill.

Bydd aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn clywed sut mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd, y Gwasanaeth Hylendid Cig, y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol ac awdurdodau lleol yn cydweithio i sicrhau diogelwch, ansawdd a chyflwyniad bwyd o’r Fferm i’r Fforc. Cynhelir y cyfarfod yng Ngwesty’r Celt, Stryd Bangor yng Nghaernarfon.

Gwahoddir aelodau'r cyhoedd, adwerthwyr a chynhyrchwyr bwyd, cynrychiolwyr awdurdodau lleol a sefydliadau eraill sydd ¿ diddordeb mewn diogelwch a safonau bwyd i fynychu cyfarfod agored, a gynhelir rhwng 9.00am a 1.00pm. Gwahoddir aelodau’r gynulleidfa i rannu eu barn ar y materion bwyd sydd o bwys iddyn nhw, ac i wneud sylwadau ar ystyriaethau'r dydd yn ystod sesiwn holi ac ateb agored.

Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn rhoi cyngor a gwybodaeth i'r Asiantaeth Safonau Bwyd ar ei waith yng Nghymru. Fel rhan o'i ymroddiad i fod yn agored, mae'n cynnal cyfarfodydd agored yn rheolaidd ledled y wlad. Mae gan ei naw aelod amrywiaeth eang o arbenigedd mewn gwahanol agweddau ar y diwydiant bwyd.

Dylai aelodau'r cyhoedd sydd am fynychu'r cyfarfod agored ffonio Helen George ar 029 2067 8907 neu anfon ebost at helen.george@foodstandards.gsi.gov.uk

Back to top

Nodiadau i olygyddion

Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yn cynnwys: -

Mrs Ann Hemingway – Cadeirydd

Yr Athro Robert Bell, rheolwr gyfarwyddwr yr Environmental Advice Centre Ltd, ymgynghoriaeth amgylcheddol aml-ddisgyblaeth wedi’i lleoli yn y gogledd

Dr David Casemore, cyn-bennaeth yr Uned Gyfeirio Cryptosporidiwm Genedlaethol y Gwasanaeth Labordai Iechyd Cyhoeddus

Mrs Gilli Davies, cogyddes Cordon Bleu, newyddiadurwraig fwyd a darlledwraig

Yr Athro Margaret Griffiths, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Prifysgol Morgannwg, Pontypridd

Yr Athro James Parry, Athro mewn Geneteg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe

Mrs Dilwen Phillips, swyddog Bwrdd Ymddiriedolwyr Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched

Yr Athro Robert Pickard, Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Maethiad Prydain

Mr David Smith, prif gogydd, darlithydd ac ymgynghorydd Cynghrair Bwyd Cymru.

Back to top

Related links

Food law enforcement for discussion at Food Advisory Committee's open meeting

11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

Our Sites

Find out what our other sites have to offer

Change Text Only Settings

Graphic version of this page