Food Standards Agency
Sunday 5 July 2009
Safe food and healthy eating for all banner welsh
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteMonday 10 October 2005
Ref: WA 48/O5CK
Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd heddiw'n dangos bod 22 miliwn o bobl ym Mhrydain yn ceisio torri lawr ar eu halen - cynnydd o bron i chwe miliwn ers Medi 2004.(1)
Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n torri lawr ar eu defnydd o halen wedi rhoi'r gorau i ychwanegu halen at eu bwyd wrth y bwrdd neu wrth goginio ac mae cyfanswm yr halen sy'n cael ei werthu wedi gostwng 10% mewn blwyddyn.(2)
Ond nid yw dau o bob tri yn ymwybodol na ddylent fwyta mwy na 6g o halen bob dydd, a dim ond traean o oedolion sy'n edrych ar labeli i weld faint o halen sydd mewn cynnyrch. Daw tri chwarter o'r halen a fwyteir bob dydd o fwyd wedi'i brosesu, a chyda dynion yn bwyta 11g a menywod yn bwyta 8g o halen bob dydd, rydym i gyd yn bwyta gormod o halen.(3)
Yng Nghymru, mae llai na dau o bob pum oedolyn yn torri lawr ar halen. Mae'r ffigur hwn yn llai na'r cyfartaledd cenedlaethol ac yn llawer llai na'r ffigur yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, lle mae dros hanner yr oedolion yn torri lawr ar eu halen. Hefyd, nid yw bron tri chwarter yr oedolion yng Nghymru'n edrych ar labeli bwyd i weld faint o halen sydd mewn cynnyrch ac nid yw 38% yn edrych ar labeli bwyd o gwbl.
Mae bwyta gormod o halen yn un o'r ffactorau sy'n gysylltiedig â phwysau gwaed uchel, sy'n achosi neu'n cyfrannu at dros 170,000 o farwolaethau bob blwyddyn yn Lloegr yn unig.(4) Mae presgripsiynau i ostwng pwysau gwaed uchel yn costio tua £840 miliwn y flwyddyn i'r GIG.(5) Mae astudiaethau'n dangos y gall lleihau cyfanswm yr halen yn y deiet ostwng pwysau gwaed o fewn pedair wythnos.(6)
Heddiw (dydd Llun 10 Hydref), lansiodd yr ASB gam nesaf ymgyrch i annog defnyddwyr i leihau eu defnydd o halen trwy wirio labeli bwyd a pheidio â bwyta mwy na 6g o halen bob dydd.
Meddai Deirdre Hutton, Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd: 'Mae'n gam cyntaf gwych bod cymaint o bobl bellach yn gwybod bod gormod o halen yn wael iddyn nhw ac yn torri lawr ar faint maen nhw'n ei roi yn eu bwyd. Ond os byddwn ni i gyd yn edrych yn fanwl ar labeli bwyd ac yn dewis y cynhyrchion sy'n cynnwys y lleiaf o halen, bydd hyn yn ein helpu i sicrhau nad ydym yn bwyta mwy na 6g y dydd.
'Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae mwy o gwmniau bwyd wedi dechrau lleihau'r halen sydd mewn bwyd wedi'i brosesu. Ond, os ydyn ni am gyrraedd y nod o leihau cyfanswm yr halen a ddefnyddir yn y DU i 6g erbyn 2010, mae angen i fwy o gwmniau wneud yr un peth.
'Trwy weithio gyda diwydiant a defnyddwyr, gall yr Asiantaeth gael effaith gadarnhaol ar iechyd pobl.'
Meddai Peter Hollins, Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Prydeinig y Galon: 'Rydym yn falch o gefnogi ymgyrch yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sy'n amlygu'r peryglon o fwyta gormod o halen. Mae pwysau gwaed uchel yn un o'r prif ffactorau sy'n arwain at glefyd y galon a gall pobl fynd i'r afael ag ef trwy dorri lawr ar yr halen yn eu deiet. Rydyn ni am ei gwneud yn haws i ddefnyddwyr fod yn ymwybodol o'r lefelau halen mewn bwyd a'u grymuso i warchod iechyd eu calon trwy fwyta symiau diogel.'
Meddai Gavin Neath, Cadeirydd Unilever UK: 'Mae Unilever yn cefnogi menter yr ASB ar halen. Mae Unilever, ynghyd â chwmn
au bwyd eraill, wedi gweithio'n agos ac yn effeithiol gyda'r Asiantaeth dros y tair blynedd diwethaf i leihau lefelau halen yn raddol yn ein holl gynnyrch. Rydym yn bwriadu parhau i wneud hyn yn y dyfodol i geisio gwneud cyfraniad cadarnhaol i ddeiet ac iechyd y wlad.'
Mae ymchwil yr Asiantaeth yng Nghymru'n dangos:
Heddiw, lansiodd yr Asiantaeth ymgyrch hysbysebu ar y teledu a phosteri gan ddefnyddi prydau parod wedi'u hanimeiddio i ddangos i ddefnyddwyr y gallan nhw reoli faint o halen maen nhw'n ei fwyta, gyda'r nod o beidio 7#226; bwyta mwy na 6g bob dydd, trwy gymharu labeli a dewis y cynhyrchion sy'n cynnwys y lleiaf o halen.
Ers diwedd 2003, mae'r Asiantaeth wedi gweithio gydag adwerthwyr a gweithgynhyrchwyr i leihau cyfanswm yr halen mewn bwyd wedi'i brosesu, ac mae dros 50 o sefydliadau wedi ymrwymo i leihau cyfanswm yr halen mewn pob math o fwyd. Ym mis Awst 2005, lansiodd yr Asiantaeth ymgynghoriad mewn perthynas
phennu targedau ar gyfer lleihau cyfanswm yr halen mewn categorîau bwyd allweddol.
1. Mae amcangyfrifon poblogaeth yn seiliedig ar amcangyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn 2004 a bennodd fod 47 miliwn o oedolion yn byw ym Mhrydain. Cynhaliwyd yr arolwg ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd gan RSGB Omnibus, un o isadrannau TNS. Cyfwelwyd sampl gynrychiadol o 2,015 o oedolion Prydeinig mewn 130 lleoliad ledled Prydain rhwng 31 Awst a 4 Medi 2005.
2. Ers 2003, mae'r Asiantaeth wedi gweithio i godi ymwybyddiaeth o'r peryglon o fwyta gormod o halen. Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan Mintel ym mis Medi 2005 yn dangos bod mwy o bobl yn defnyddio pupur du, perlysiau a sbeisys yn lle halen i ychwanegu blas at eu bwyd. Cyfanswm yr halen sy'n cael ei werthu: 2003 - 23 miliwn, 2004 - 22 miliwn, 2005 - 20 miliwn.
3. Arolwg Cenedlaethol o Ddeiet a Maethiad oedolion 19-64 oed, a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, cyfrol 3, 2003.
4. Yr Adran Iechyd, Adroddiad Blynyddol Prif Swyddog Meddygol yr Adran Iechyd, 2001
5. Y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol, 2001
6. Sacks FM, Svetkey LP, Vollmer WM, Appel LJ, Bray GA, Harsha D, Obarzanek E, Conlin PR, Miller ER 3ydd, Simons-Morton DG, Karanja N, Lin PH, Effects on blood pressure of reduced dietary sodium and the Dietary Approaches to Stop Hypertension (DASH) diet, DASH - Grŵp Ymchwil Sodiwm, New England Journal of Medicine 2001; 344[1]:3-10.
Mae saith sefydliad (CASH, y Gymdeithas Pwysau Gwaed, Sefydliad Prydeinig y Galon, Cymdeithas Ddieteteg Prydain, Age Concern, y Gymdeithas Strôc, Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched) wedi derbyn cyllid i'w helpu i gyfleu'r negeseuon allweddol i gynulleidfaoedd penodol sy'n agored i niwed, yn enwedig pobl hŷn (55 a hŷn) a rhai lleiafrifoedd ethnig.
Mae llawer o sefydliadau'r diwydiant yn cynorthwyo'r Asiantaeth Safonau Bwyd i ledaenu negeseuon ei hymgyrch. Er enghraifft: mae Heinz yn annog defnyddwyr i ddarllen y labeli sy'n cynnwys y neges 'Check out my salt levels!' ar flaen y tuniau am frandiau allweddol. Mae Tesco yn dangos hysbyseb yr ASB ar Tesco TV. Bydd Sainsbury's yn dosbarthu mesurwyr halen a thaflenni'r Asiantaeth i'w hymgynghorwyr bwyd lleol ac mae Asda yn rhoi negeseuon yr Asiantaeth ar ei silffoedd.
Hyd yma, mae'r ASB a'r Adran Iechyd wedi derbyn ymrwymiadau gan 52 o sefydliadau i leihau cyfanswm yr halen mewn pob math o gynhyrchion ac ar draws holl sectorau'r diwydiant bwyd gan gynnwys y prif adwerthwyr a gweithgynhyrchwyr allweddol. Am grynodeb o'r ymrwymiadau hyn, ewch i: www.food.gov.uk
Am fanylion ymgynghoriad yr ASB ar dargedau halen arfaethedig ar gyfer bwyd, ewch i: www.food.gov.uk.
Download excel
(Excel 218KB)
11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email:
caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk
Find out what our other sites have to offer