Skip navigation

Food Standards Agency

Friday 3 July 2009

Safe food and healthy eating for all banner welsh

AZ-Directory What's New

Yr Asiantaeth i archwilio gweithgareddau gorfodi cyfraith fwyd Cyngor Sir Powys

Monday 10 May 2004

Ref: 12/04CK

Bydd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn cynnal archwiliad o weithgareddau gorfodi cyfraith fwyd Cyngor Sir Powys. Bydd yr archwiliad, a fydd yn cychwyn ar 24 Mai 2004, yn galluogi'r Asiantaeth i gymharu perfformiad yr awdurdod â'r safon drwy'r DU gyfan.

Cynhelir archwiliadau o awdurdodau lleol fel rhan o'r Cytundeb Fframwaith ar orfodi cyfraith fwyd gan awdurdodau lleol, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2001. Caiff awdurdodau lleol eu harchwilio yn ôl 'Safon' y Cytundeb Fframwaith sy'n nodi eu holl weithgareddau gorfodi cyfraith fwyd.

Mae'r archwiliadau'n edrych ar y modd mae swyddogion awdurdodau lleol yn cyflawni eu cyfrifoldebau wrth orfodi cyfraith fwyd y DU. Mae hyn yn rhoi gorolwg i'r Asiantaeth o'r mesurau a sefydlwyd gan yr awdurdod lleol i warchod defnyddwyr lleol a chyfle i awgrymu pa welliannau sydd eu hangen, os oes angen gwella o gwbl.

Bydd canfyddiadau archwiliad Cyngor Sir Powys yn cael eu hasesu ac unwaith y bydd yr adroddiad yn gyflawn, bydd manylion perfformiad yr awdurdod yn cael eu cyhoeddi.

Meddai Steve Wearne, Cyfarwyddwr ASB Cymru: ‘Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ran allweddol i'w chwarae wrth oruchwylio gweithgarwch gorfodi awdurdodau lleol. Gorfodwyr cyfraith fwyd lleol yw'r amddiffyniad cyntaf i'r cyhoedd, yn sicrhau diogelwch a safon ein bwyd. Ein gwaith ni yn yr Asiantaeth, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, yw gosod safon a bydd y rhaglenni archwilio hyn yn dangos a yw'r safon yn cael ei bodloni.’

Dywedodd i gloi, ‘Mae'r rhaglen yn ein cynorthwyo i ddeall yn well sut mae awdurdodau lleol yn gweithredu ledled Cymru, a bydd yn ein galluogi i nodi arferion da a'u rhannu ag awdurdodau eraill. Bydd yr archwiliadau hefyd yn galluogi'r Asiantaeth i nodi a mynd i'r afael â meysydd sy'n peri pryder, a dangos i ni pa mor briodol yw'r adnoddau a neulltuir ar gyfer y gwaith pwysig hwn.’

Back to top

Related links

Agency to audit Powys County Council's food law enforcement activities Read the press release

11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

Our Sites

Find out what our other sites have to offer

Change Text Only Settings

Graphic version of this page