Skip navigation

Food Standards Agency

Sunday 5 July 2009

Safe food and healthy eating for all banner welsh

AZ-Directory What's New

Penodi aelodau newydd i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Monday 25 July 2005

Mae Cyfarwyddwraig Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru (ASBC), Joy Whinney, wedi croesawu penodiad dau aelod newydd i Bwyllgor Cynghori ar Fwyd annibynnol Cymru (WFAC).

Mae'r WFAC yn cynnwys aelod o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, a benodwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac arbenigwyr annibynnol a ddewisir ar sail eu profiad a'u gwybodaeth ymarferol am feysydd fel maethiad, amaethyddiaeth, gwyddorau sy'n gysylltiedig Ċ bwyd a buddiannau defnyddwyr.

Y ddau aelod newydd yw:

Dywedodd Mrs Whinney: 'Bydd y penodiadau newydd hyn yn sicrhau bod y WFAC yn parhau i gynnwys unigolion sy'n dod o gefndiroedd eang iawn ym maes bwyd ac sydd Ċ gwybodaeth fanwl am fwyd. Mae manteisio ar y profiad amrywiol hwn yn sicrhau bod y Pwyllgor yn gallu rhoi cyngor trylwyr ac ystyriol ar bob agwedd ar fwyd i'r Asiantaeth.'

Bydd yr aelodau newydd yn mynychu eu cyfarfod cyntaf o'r Pwyllgor yn y Fenni ym mis Medi.

Diolchodd Ann Hemingway, Cadeirydd y WFAC, i'r aelodau y mae eu tymor yn dod i ben ' David Smith a Gilli Cliff ' aelodau sylfaenol y Pwyllgor, am eu gwaith caled a'u hymroddiad.

Ychwanegodd Mrs Hemingway y byddai'r aelodau newydd yn helpu i atgyfnerthu'r gwaith rhagorol a gyflawnwyd gan eu rhagflaenwyr, gan gloi gyda'r geiriau 'Mae'r Pwyllgor wedi llunio rhaglen llawn her ac edrychaf ymlaen i gyflawni'r rhaglen hon yn y misoedd nesaf.'

Back to top

Nodiadau i olygyddion

Sefydlwyd WFAC yn 2000 i roi cyngor annibynnol ar faterion bwyd sy'n berthnasol i Gymru. Llywodraeth Cynulliad Cymru sy'n penodi aelodau'r WFAC i ddarparu amrywiaeth eang o arbenigedd, profiad a gwybodaeth ymarferol.

Mae'r Pwyllgor yn cydweithio'n agos Ċ'r ASB, yng Nghymru ac mewn mannau eraill, ac yn cefnogi amcanion yr Asiantaeth o roi defnyddwyr yn gyntaf; bod yn agored a hygyrch a bod yn llais annibynnol.

Back to top

Nodiadau bywgraffyddol

Ms Kate Hovers
Mae Ms Hovers yn locwm ac yn Filfeddyg Ymgynghorol yn Aberhonddu. Mae'n gynrychiolydd i Gyngor Cymdeithas Milfeddygon Prydain ers 1995, ac mae'n gyn Lywydd Cymdeithas Filfeddygol y Defaid ac yn aelod o'r Gymdeithas Ddefaid Genedlaethol. Mae'n rhedeg fferm ddefaid fechan.

Mr Andrew Johnson
Mae gan Mr Johnson wybodaeth eang am y diwydiant bwyd gyda thros 18 mlynedd o brofiad prynu ar gyfer dwy archfarchnad flaenllaw. Bu'n rhan o'r gwaith o ddatblygu strategaethau i wella'r gadwyn gyflenwi, safonau lles anifeiliaid a dewis i ddefnyddwyr. Mae'n byw yng Nghaerdydd ac yn rhannu ei amser rhwng gofalu am ei ferch sydd yn yr ysgol a gwneud gwaith ymgynghori rhan-amser i'r diwydiant bwyd ffres.

Back to top

Related links

New members appointed to Welsh Food Advisory Committee Read the press release

11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

Our Sites

Find out what our other sites have to offer

Change Text Only Settings

Graphic version of this page