Food Standards Agency
Saturday 4 July 2009
Safe food and healthy eating for all banner welsh
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteTuesday 27 November 2001
Gwahodd defnyddwyr i gyfarfod agored Pwyllgor Ymgynghorol Cymru yr ASB yng Nghaerdydd
Bydd Pwyllgor Ymgynghorol Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn cynnal cyfarfod agored yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf. Mae croeso i unrhyw un sydd ¿ diddordeb fynychu'r cyfarfod, a gynhelir yn Neuadd Dewi Sant o 10am ddydd Mercher nesaf, 5 Rhagfyr.
Mae Pwyllgor Ymgynghorol Cymru yn rhoi cyngor neu wybodaeth i Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru ar ystod eang o faterion sy'n berthnasol i'w swyddogaethau. Mae'r Cadeirydd, Ann Hemingway, hefyd yn aelod o Fwrdd DU-gyfan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Yn unol ag ymrwymiad yr Asiantaeth i gyflawni gwaith yn agored ac eglur, bydd pob trafodaeth yn ystod y cyfarfod yn cael ei chynnal yn gyhoeddus. Bydd cyfle hefyd i aelodau o'r gynulleidfa holi cwestiynau am drafodaeth y dydd neu unrhyw destun arall yn gysylltiedig â bwyd.
Ymysg yr eitemau i'w trafod yn y cyfarfod mae gweithredu HACCP (Rheolbwynt Critigol Dadansoddi Peryglon), system o weithdrefnau sy'n rhaif i fusnesau bwyd eu gweithredu i sicrhau fod y bwyd maent yn ei gynhyrchu yn ddiogel i'w fwyta. Cynhelir y sesiwn holi ac ateb ar ddiwedd y cyfarfod, a fydd yn para tan 1pm.
Mae Pwyllgor Ymgynghorol Cymru'n cynnwys:
Mrs Ann Hemingway - Cadeirydd;
Dr Robert Bell, rheolwr gyfarwyddwr yr Environmental Advice Centre Cyf, ymgynghoriaeth amgylcheddol amlddisgyblaethol yng Ngogledd Cymru;
Dr David Casemore, cyn Bennaeth Uned Gyfeirio Cryptosporidiwm Cenedlaethol y Gwasanaeth Labordy Iechyd Cenedlaethol;
Mrs Gilli Davies, Cogyddes dan gamp, newyddiadurwraig a darlledwraig ym maes bwyd;
Yr Athro Margaret Griffiths, Pennaeth Ysgol y Gyfraith Prifysgol Morgannwg, Pontypridd;
Yr Athro James Parry, Athro Geneteg ym Mhrifysgol Cymru, Abertawe;
Mrs Dilwen Phillips, swyddog ar Fwrdd Ymddiriedolwyr Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliad y Merched;
Yr Athro Robert Pickard, Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Maethiad Prydain; a
Mr David Smith, cogydd, darlithydd ac ymgynghorydd i Gynghrair Bwyd Cymru.
Dylai cynrychiolwyr y wasg a'r cyfryngau sydd angen rhagor o wybodaeth cyn y cyfarfod gysylltu ¿ Kathryn Corcoran, Swyddog Cyfathrebu ar 029 2067 8915.
Cyswllt newyddion: Kathryn Corcoran (029) 2067 8915
Nodiadau I Olygyddion
Sefydlwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ym mis Ebrill y llynedd ac mae Swyddfa Cymru yn atebol i'r Senedd ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Bydd yr ASB yn gwarchod buddiannau defnyddwyr drwy warchod tri gwerth craidd. Bydd yn:
- rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf;
- bod yn agored a hygyrch; a
- bod yn llais annibynnol.
Ei swyddogaethau yw:
- darparu cyngor i'r cyhoedd a'r Llywodraeth ar ddiogelwch bwyd, maethiad a diet;
- gwarchod defnyddwyr trwy orfodaeth a monitro effeithiol; a
- cefnogi dewis defnyddwyr trwy labelu cywir ac ystyrlon.
Find out what our other sites have to offer