Skip navigation

Food Standards Agency

Tuesday 30 June 2009

Safe food and healthy eating for all banner welsh

AZ-Directory What's New

Prif Weinidog Cymru I Lansio Cd-Rom 'Gimme 5!'

Wednesday 16 July 2003

Targedu plant 11- 14 oed i'w hannog i fwyta mwy o ffrwythau a llysiau

Ref: WA26/03KC

Ar ddiwrnod cyntaf Sioe Frenhinol Cymru yr wythnos hon bydd Rhodri Morgan Prif Weinidog Llywodraeth Cynulliad Cymru yn lansio CD-Rom sydd wedi'i hanelu at annog pobl ifanc i fwyta mwy o ffrwythau a llysiau.

Bydd gemau cyfrifiadurol ac arbedwyr sgrîn ‘Gimme 5!’ newydd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru - a gafodd eu cymeradwyo gan Colin Jackson, y pencampwr byd dros y clwydi – yn cael eu lansio am 10 a.m, dydd Llun, 21 Gorffennaf ar stondin arddangos yr Asiantaeth rhif 326, rhodfa D.

Mae 'Gimme 5!’ yn cynnwys gemau ac arbedwyr sgrîn cyfrifiadurol rhyngweithiol a anelir at ferched a bechgyn rhwng 11 a 14 oed. Bydd Princess Sugabeet ac Alf Alpha yn dangos i ddefnyddwyr sut i sicrhau eu bod yn cael cymaint o egni â phosibl drwy fwyta deiet cytbwys iach sy'n cynnwys digon o ffrwythau a llysiau. Gyda'r CD-Rom ddwyieithog ceir cylchgrawn yn amlinellu pwysigrwydd deiet iach, diffiniad o feintiau y dogn, ac awgrymiadau maethiad gan Colin Jackson ei hun.

Cyn y sioe dywedodd Hilary Neathey, Uwch Swyddog Gweithredol ar ran Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru :

'Nid yw llawer o bobl ifanc Cymru yn bwyta’r pump dogn neu fwy o ffrwythu a llysiau y dydd a argymhellir. Ceir llawer o dystiolaeth sy'n dangos bod gan ddeiet gwael oblygiadau i’w hiechyd a gallai methu â bwyta deiet cytbwys, iach greu trafferthion yn y dyfodol.

'Mae cyfranogiad Prif Weinidog Cymru yn lansiad 'Gimme 5!' yn newyddion ardderchog, ac edrychwn ymlaen at ddosbarthu’r CD-Rom i ysgolion a mudiadau ieuenctid yn barod ar gyfer y flwyddyn ysgol newydd. Mae cymeradwyaeth Colin Jackson hefyd yn hwb mawr – mae Colin yn esiampl ardderchog i bobl ifanc heddiw i geisio’i efelychu.'

Yn ogystal â'r lansio, bydd stondin Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru (326, Rhodfa D) yn cynnwys cystadleuaeth goginio yr enwogion Bwyd Drwg yn Fyw! Bydd y Cogyddion Ritchie Twist (‘One Fit Laddie’) a Bernard Le Blanc (Unready, Unsteady, Drink!’) yn cystadlu am y gorau, o dan lygad barcud y cyflwynydd Keith Lorraine. Trefnir perfformiadau ar hyd y dydd, bob dydd.

Back to top

Nodiadau i olygyddion

Back to top

Related links

Alf Alpha Play the game First Minister to launch 'Gimme 5!' CD-Rom Read the full press release Sugabeat Princess Play the game

11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

Our Sites

Find out what our other sites have to offer

Change Text Only Settings

Graphic version of this page