Skip navigation

Food Standards Agency

Sunday 5 July 2009

Safe food and healthy eating for all banner welsh

AZ-Directory What's New

ASB Cymru'n lansio adnodd ar-lein 'Get Cooking!'

Friday 27 May 2005

Ref: WA24/O5CK

Yn ddiweddar lansiodd ASB Cymru becyn newydd ar gyfer coginio i bobl sy'n gweithio gyda phobl ifanc. Mae 'Get Cooking!' yn adnodd ar-lein i'r arweinwyr hynny sydd am gyflwyno ffeithiau sylfaenol am goginio, hylendid bwyd a bwyta'n iach.

Ar ôl cwrs 6 wythnos dylai'r bobl ifanc deimlo'n fwy awyddus i goginio i'w hunain a'u ffrindiau, a deall rhai o egwyddorion sylfaenol iechyd a hylendid.

Mae'r adnodd yn cynnwys canllaw i hyfforddwyr a 30 o ryseitiau. Mae canllaw'r hyfforddwyr yn dangos strwythur y cwrs a'r offer a'r cynhwysion angenrheidiol. Mae'r cwrs 6 wythnos yn hawdd i'w ddefnyddio, yn hyblyg ac yn darparu'r holl wybodaeth angenrheidiol. Mae'n hawdd ei ddilyn ac yn tywys yr arweinydd fesul cam drwy'r gwahanol feysydd.

Yn ogystal â chynhwysion a dulliau safonol, mae'r ryseitiau'n rhoi gwybodaeth am faeth a chynghorion cyffredinol ar fwyta'n iach, arbed arian a diogelwch bwyd ar gyfer y ryseit penodol hwnnw.

Datblygwyd cysyniad y pecyn 'Get Cooking!' newydd o dreialon a gynhaliwyd dros y blynyddoedd diwethaf mewn sawl ardal o Gymru mewn partneriaeth â sefydliadau eraill megis Ffederasiwn Cymru Sefydliad y Merched a Chyngor Ieuenctid Cymru. Datblygwyd y pecyn gan Sefydliad Maetheg Prydain ar gyfer Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru. Gellir ei gyrchu ar wefan yr Asiantaeth.

Eglurodd Hilary Neathey o'r Asiantaeth, 'Roedd yr ymateb a gawsom i'r cynlluniau 'Get Cooking!' gwreiddiol yn dangos bod angen mawr am becyn cynhwysfawr fel hwn. Mae'n cynnwys yr holl ddeunydd angenrheidiol i arweinydd gydol y cwrs gan roi cyfle i fwynhau a dysgu ar yr un pryd.'

Back to top

Nodiadau i Olygyddion

Ers Mawrth 2001 mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi arwain y gwaith o baratoi a gweithredu Strategaeth Faethiad a chynllun gweithredu i Gymru. Ei nod yw lleihau'r achosion o salwch sy'n gysylltiedig â diet trwy hybu pobl Cymru i fwyta'n iach, yn enwedig yn yr ardaloedd difreintiedig. Mae un o gamau gweithredu 'Bwyd a Lles' yn cynnwys datblygu sesiynau coginio ledled Cymru.

Back to top

Related links

FSA Wales launches on-line 'Get Cooking!' resource Read the press release Get Cooking! See the toolkit

11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

Our Sites

Find out what our other sites have to offer

Change Text Only Settings

Graphic version of this page