Skip navigation

Food Standards Agency

Friday 3 July 2009

Safe food and healthy eating for all banner welsh

AZ-Directory What's New

Cyflwyno Uned Cydgysylltu Twyll Bwyd Yng Nghymru

Monday 31 January 2005

Ref: WA 04/O5CK

O ganlyniad i bryder ynglŷn â nifer y materion bwyd anaddas a lladd anghyfreithlon yr ydym wedi eu hymchwilio yn ystod y tair blynedd ddiwethaf, mae Uned Cydgysylltu Twyll Bwyd arbenigol wedi ei sefydlu yng Nghymru.

Mae Swyddogion Diogelwch Bwyd awdurdodau lleol yn y gorllewin wedi gweithio mewn partneriaeth ag Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru i ymchwilio i achosion o ladd da byw yn anghyfreithlon a'r fasnach hynod broffidiol mewn cyflenwi cig anaddas i'w fwyta. Yn aml, lleddir anifeiliaid ar gyfer y fasnach hon mewn adeiladau didrwydded ar ffermydd ac o dan amodau afiach ac aflan.

Mae cyllid wedi ei sicrhau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i greu'r uned gydgysylltu i helpu i fynd i'r afael â materion o'r fath. Lleolir yr uned yng Nghyngor Sir Ceredigion, ac mae'n adnodd sydd ar gael i helpu a chydgysylltu ymdrechion gorfodi'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru sy'n gyfrifol am ddiogelwch bwyd, safonau bwyd a bwydydd anifeiliaid. Nod yr Uned yw cydgysylltu ymdrechion gorfodi awdurdodau lleol yng Nghymru i fynd i'r afael ag unrhyw un sy'n mynd yn groes i fesurau rheoli diogelwch bwyd yn fwriadol mewn ffordd gadarn a chyson a lleihau'r risg i ddiogelwch ac iechyd y cyhoedd.

Yn ôl Joy Whinney, Cyfarwyddwraig Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, er y bydd cyfrifoldeb am ymchwilio i achosion o fynd yn groes i gyfraith diogelwch bwyd yn parhau gydag awdurdod lleol yr ardal lle cyflawnir y drosedd, mae profiad wedi dangos nad yw unigolion sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau anghyfreithlon o'r fath yn cael eu cyfyngu gan ffiniau siroedd na gwledydd.

Esboniodd y bydd yr Uned Cydgysylltu Twyll Bwyd yn cynorthwyo i ddatrys gweithgareddau anghyfreithlon trawsffiniol, gan helpu i gydlynu'r trefniadau gorfodi yng Nghymru a lleihau'r cyfle i bobl fynd yn groes i'r mesurau rheoli diogelwch bwyd ac iechyd anifeiliaid yn fwriadol ac mewn ffordd hynod, soffistigedig a threfnus. Gall yr Uned rannu ei phrofiad gyda chydweithwyr awdurdodau lleol o bob cwr o�r DU, i gynorthwyo i ddatblygu arfer da i helpu i frwydro i atal unrhyw fasnach anghyfreithlon, yn genedlaethol neu'n rhanbarthol.

Back to top

11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

Our Sites

Find out what our other sites have to offer

Change Text Only Settings

Graphic version of this page