Food Standards Agency
Saturday 4 July 2009
Safe food and healthy eating for all banner welsh
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteWednesday 12 December 2001
Efallai fod rhai bwytai a siopau tecawe yn gwerthu cyw iâr i'w cwsmeriaid sy'n cynnwys 54% yn unig o gyw iâr, er gwaethaf label sy'n honni cynnwys cig uwch, yn ôl cyd-ymchwiliad i gyw iâr a werthir i'r fasnach arlwyo a gynhaliwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a 22 awdurdod lleol ledled y DU. Mae'r arolwg hefyd yn datgelu bod 35 o'r 68 sampl wedi'u camlabelu.
Mae'r ymchwiliad pum mis wedi arwain at gyhoeddi arolwg heddiw sy'n datgelu'r lefelau gwirioneddol, yn hytrach na'r lefelau honedig, o gynnwys cig mewn brestiau cyw iâr a werthir i'r fasnach arlwyo. Datgelwyd bod dwy frest cyw iâr yn cynnwys DNA porc, sy'n dynodi presenoldeb deunydd sy'n deillio o borc.
Profodd yr arolwg 68 sampl a gymerwyd gan gyfanwerthwyr a siopau talu a chludo o bob cwr o'r DU sy'n cyflenwi'r fasnach arlwyo. Cafwyd y rhan fwyaf o'r samplau gan broseswyr o'r Iseldiroedd a rhai o Wlad Belg, y DU a Sbaen. Yn y rhan fwyaf o achosion roedd y brestiau cyw iâr yn dod o drydydd gwledydd, gan gynnwys Brasil a Thailand.
Ar ôl i'r brestiau cyw iâr gyrraedd Ewrop maent yn cael eu prosesu i ychwanegu dwr, halen, siwgr, cyflasynnau, ac mewn rhai achosion, protein hydroleiddio cyn eu pecynnu a'u rhewi. Mewn rhai achosion, defnyddir y cyfuniadau hyn i gynyddu maint a phwysau'r brestiau cyw iâr. Gall y rhain hefyd gadw'r dwr ychwanegol yn y frest cyw iâr pan fydd yn cael ei choginio. Er enghraifft, yn yr achos gwaethaf byddai darn o frest cyw iâr 100gm yn chwyddo i 182gm gyda'r ychwanegiadau hyn. Mae ffotograffau a manylion llawn am yr arolwg ar gael yn www.food.gov.uk.
Derbyniodd yr ASB wybodaeth gan awdurdodau lleol a rhannau o'r diwydiant yn gynharach eleni yn dynodi bod protein hydroleiddio yn cael ei ddefnyddio i chwyddo brestiau cyw iâr. Nid yw'r prawf safonol ar gyfer dwr mewn cyw iâr yn datgelu dwr ychwanegol trwy ddefnyddio'r dechneg hon. Cafodd yr ASB samplau o brotein hydroleiddio a, thrwy weithio gyda Labordy Cemegwyr y Llywodraeth, eglurwyd pa ddulliau profi a fyddai'n datgelu dwr ychwanegol, gan ddefnyddio'r proteinau a'r technegau hyn.
Roedd y labeli ar y pecynnau arlwyo yn gamarweiniol oherwydd:
- bod bron i hanner, 46% o'r samplau yn cynnwys rhwng 5% a 26% yn llai o gig na ddatgelwyd ar y pecyn
- bod gan 12% ddisgrifiadau ansawdd anghywir, rhai y dylid eu defnyddio ar gyfer cynhyrchion heb gynhwysion ychwanegol yn unig
- bod 16 o'r samplau yn defnyddio proteinau hydroleiddio, ond dau yn unig oedd yn nodi hyn ar y label
Meddai Joy Whinney, Cyfarwyddwraig Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru:
"Nid yw defnyddwyr sy'n bwyta allan yn disgwyl i'w cywion ieir gynnwys llawer iawn o ddwr ychwanegol, nac yn disgwyl i'w cyw iâr gynnwys deunydd sy'n deillio o borc. Mae cwsmeriaid yn dibynnu ar reolwyr bwytai, sydd yn eu tro yn dibynnu ar gyfanwerthwyr a mewnforwyr i wybod yn union beth y maent yn ei brynu a'i werthu. Mae gan fewnforwyr a chyfanwerthwyr Prydain gyfrifoldeb i fod yn wyliadwrus ar ran defnyddwyr y DU. Mae awdurdodau lleol wedi dangos eu bod yn gallu erlyn os ceir tystiolaeth o dorcyfraith.
Mae'r cyd-ymchwiliad hwn eisoes wedi dychryn y farchnad hon gyda rhai cyflenwyr yn tynnu eu cynhyrchion yn ôl a newid eu prosesau cynhyrchu. Defnyddiodd y broses hon wyddoniaeth dda i fynd i'r afael ag ymchwiliad anodd. Bydd rhai wastad yn ceisio camarwain defnyddwyr. Mae angen iddynt wybod y bydd yr ASB yn gweithio â'r awdurdodau perthnasol ledled Ewrop i'w hamlygu."
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi ysgrifennu at y cyrff gorfodaeth perthnasol yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg gyda chanfyddiadau'r arolwg hwn. Mae'r Asiantaeth hefyd wedi hysbysu Prif Gyfarwyddwr Gwarchod Defnyddwyr y Comisiwn Ewropeaidd, i dynnu ei sylw at y canfyddiadau.
Nid yw ychwanegu dwr ohono'i hun o angenrheidrwydd yn anghyfreithlon, os yw'r cig a chynhwysion eraill wedi'u labelu'n fanwl gywir. Er hynny, mae'r arolwg yn datgelu nad yw'r labelu'n gywir yn aml a bod llai o gig na'r hyn a labelir mewn llawer o gynhyrchion. Mewn achosion eraill ni chafwyd unrhyw ddatganiad yn ymwneud â phrotein hydroleiddio o gwbl. Mae'r arferion hyn i gyd yn groes i gyfraith labelu Ewrop. Gan nad oedd yr un o'r samplau yn yr arolwg hwn yn rhestru unrhyw gynhwysion yn deillio o borc, mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn credu bod hyn hefyd yn enghraifft o labelu anghywir.
Roedd yr arolwg hwn yn dilyn arolwg y llynedd o gywion ieir a rhannau cywion ieir a oedd yn cael eu manwerthu a'u gwerthu mewn archfarchnadoedd. Mae'r gwaith hwn wedi'i ddatblygu ymhellach gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd a'r 22 awdurdod lleol a gyfrannodd at yr arolwg, mewn cydweithrediad â'r Sefydliad Safonau Masnach. Roedd yr awdurdodau lleol a gyfrannodd yn cynnwys: Casnewydd, Cymru; Aberdeen, Caerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf, Belfast, Swydd Derby, Hampshire, Kingston-upon-Hull, Swydd Gaerlyr, Swydd Lincoln, Bwrdeistref Brent yn Llundain, Bwrdeistref Croydon yn Llundain, Manceinion, Dinas Nottingham, Swydd Nottingham, Gogledd Ddwyrain Swydd Lincoln, Gogledd Swydd Efrog, Poole, Sandwell, Tameside, Gorllewin Swydd Efrog, Wolverhampton a Swydd Gaerwrangon.
Swyddog Cyswllt Newyddion: Kathryn Corcoran (029) 20 678915
Nodiadau i olygyddion:
1. Cyhoeddir manylion llawn am ymchwiliad a gwybodaeth gwyliadwriaeth yr ASB yn www.food.gov.uk
2. Gellir cysylltu â Swyddfa'r Wasg Sefydliad Safonau Masnach ar 0870 8729030
Back to topFind out what our other sites have to offer