Skip navigation

Food Standards Agency

Sunday 5 July 2009

Safe food and healthy eating for all banner welsh

AZ-Directory What's New

Asiantaeth Safonau Bwyd yn cyhoeddi adroddiad archwiliad awdurdod lleol ar gyfer Caerdydd

Thursday 16 January 2003

Ref: WA01/03kc

Cyhoeddodd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru adroddiad manwl ar wasanaethau gorfodi cyfraith bwyd a gynhaliwyd gan Wasanaeth Gorfodi Cyfraith Bwyd Dinas a Sir Caerdydd. Dengys yr archwiliad y gall Awdurdod arddangos ymrwymiad i ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr a chytbwys.

Roedd cryfderau'r Awdurdod yn cynnwys system o bolisïau a gweithdrefnau dogfennol cyhwysfawr a gynhaliwyd yn dda. Roedd yn gallu arddangos ei fod yn gallu cynnal pob math o weithgareddau gorfodi yn y ddwy flynedd cyn yr archwiliad, ac yn gallu ymarfer yr amrywiaeth lawn o bwerau gorfodi sydd ar gael o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd. Roedd rhaglen samplu eang, gan fynd ar drywydd canlyniadau yn drylwyr, a thystiolaeth o waith rhagweithiol iawn wrth hyrwyddo diogelwch bwyd a rhoi cyngor i ddiwydiant.

Gwnaeth diffyg cofnodion llawn a chyflawn weithiau atal swyddogion rhag arddangos effeithiolrwydd eu gweithrediadau, a nodwyd hyn fel maes i'w wella yn dilyn yr archwiliad. Mae cofnodion cywir yn bwysig er mwyn monitro gwaith, ac yn hanfodol ar gyfer swyddogion dilynol fel y gallant fod yn ymwybodol o hanes a chofnod cydymffurfiaeth adeiladau.

Darperir trosolwg llawn o ganfyddiadau'r archwiliad yng nghrynodeb gweithredol yr adroddiad.

Back to top

Nodiadau i olygyddion

Cynhelir archwiliadau awdurdodau lleol fel rhan o Gytundeb Fframwaith ar orfodi cyfraith bwyd awdurdodau lleol, a ddaeth i rym ar 1 Ebrill 2001. Caiff awdurdodau lleol eu harchwilio yn erbyn 'Safon' y Cytundeb Fframwaith sy'n nodi'r amrywiaeth lawn o'u gweithgaredd gorfodi cyfraith bwyd.

Mae'r archwiliadau yn edrych ar sut y mae swyddogion gorfodi awdurdodau lleol yn cynnal eu cyfrifoldebau gorfodi cyfraith bwyd yn y DU. Mae hwn yn rhoi trosolwg i'r Asiantaeth o'r mesurau y mae'r awdurdodau lleol yn eu rhoi ar waith i ddiogelu defnyddwyr lleol ac yn gyfle i awgrymu pa welliannau sydd eu hangen, os o gwbl.

Mae copïau o'r adroddiad hefyd wedi'u rhoi yn Llyfrgell yr Asiantaeth Safonau Bwyd, llyfrgelloedd Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi, y Llyfrgell Brydeinig a'r Llyfrgelloedd Hawlfraint

Back to top

Related links

Cardiff Full Audit Food Standards Agency publishes local authority audit report for Cardiff Read the full press release

11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

Our Sites

Find out what our other sites have to offer

Change Text Only Settings

Graphic version of this page