Food Standards Agency
Friday 3 July 2009
Safe food and healthy eating for all banner welsh
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteWednesday 19 October 2005
Ref: WA47/O5CK
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi croesawu cyhoeddiad Gweinidog Iechyd y Cynulliad bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'r achosion o E.coli 0157 yng Nghymru.
Mae Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Deirdre Hutton, hefyd wedi dweud y bydd Bwrdd yr Asiantaeth yn trafod yr adroddiad ar yr achosion yn gyhoeddus.
Meddai Deirdre Hutton: 'Mae'r mater hwn yn un difrifol iawn ac mae wedi achosi pryder mawr i'r teuluoedd sydd wedi'u heffeithio. Rydym yn cydymdeimlo â nhw.
'Ar hyn o bryd rhaid canolbwyntio ar gyfyngu nifer yr achosion, a bydd y gwaith pwysig hwnnw'n parhau.
'Bydd yr Asiantaeth yn cydweithredu'n llawn ag ymchwiliad arfaethedig y Cynulliad Cenedlaethol. Rwyf hefyd wedi gofyn i adroddiad cyhoeddus llawn ar yr achosion gael ei gyflwyno i Fwrdd yr ASB. Mae'n hanfodol ein bod yn dysgu gwersi o hyn, nid yn unig yng Nghymru ond ledled y DU.'
Ers dechrau'r wythnos ddiwethaf bu awdurdodau lleol yn gweithredu i amddiffyn y cyhoedd trwy roi mesurau rheoli ar waith. Ers 4pm ddydd Llun 26 Medi, mae wedi dod i'r amlwg bod mwy na 600 o leoliadau wedi derbyn cyflenwadau gan John Tudor a'i Fab o Ben-y-bont ar Ogwr, sydd wedi'i gysylltu â'r achosion. Dylid pwysleisio nad yw'r ffaith bod cig wedi'i dderbyn yn golygu ei fod wedi'i heintio. Mae'r ASB wedi cael gwybod gan yr awdurdodau lleol bod y rhan fwyaf o'r cig wedi'i goginio wedi'i dynnu'n ôl ac maent yn dal i weithredu yn y maes hwn i sicrhau bod pob cynnyrch o'r fath yn cael ei dynnu'n ôl. Yn ogystal ag ysgolion, roedd sefydliadau cyhoeddus fel cartrefi gofal, canolfannau dydd, meithrinfeydd a chanolfannau hamdden wedi derbyn cyflenwadau yn ogystal ag un manwerthwr bach a ffreuturau staff.
Ddydd Mercher 21 Medi derbyniodd yr Asiantaeth restr o gwsmeriaid a ddarparwyd gan John Tudor a'i Fab i'r awdurdod lleol. Daeth yn amlwg yn fuan nad oedd y rhestr yn gyflawn, ond serch hynny, roedd yr Asiantaeth yn ymwybodol bod yr awdurdodau lleol oedd yn rhan o'r ymchwiliad i'r achosion eisoes wedi trefnu bod cig wedi'i goginio'n cael ei dynnu'n ôl o sefydliadau addysg eu hardaloedd. Brynhawn Mercher cyhoeddodd yr Asiantaeth Food Alert for Action (FAFA) i bob awdurdod lleol yng Nghymru yn gofyn iddynt gysylltu Ċ lleoliadau rhestredig i sicrhau bod pob cig wedi'i goginio a gyflenwyd gan John Tudor a'i Fab yn cael ei dynnu'n ôl. Cafodd yr awdurdodau lleol wybod am y newyddion diweddaraf wrth i'r ymchwiliad ddatblygu.
Ddydd Gwener 23 Medi gofynnodd yr ASB i bob awdurdod lleol yng Nghymru gysylltu ag arlwywyr bach a chanolig, siopau lleol, delicatessens a thafarndai i sicrhau bod cig a gyflenwyd gan John Tudor a'i Fab wedi'i dynnu'n ôl.
Dros y penwythnos bu awdurdodau lleol ledled Cymru'n cynnal ymholiadau i sicrhau bod pob cynnyrch wedi'i dynnu'n ôl o'r gadwyn fwyd ac nad oes unrhyw gwsmeriaid eraill.
Bu'r ymchwiliad yn canolbwyntio ar y detholiad llawn o gig wedi'i goginio gan y cyflenwr, gan gynnwys cig moch, cig oen a thwrci. Oherwydd bod golwython cyfan a thafelli o olwython ar gael gan y cyflenwr, mae pob cig wedi'i goginio wedi'i ystyried yn risg bosib.
Mae ymchwiliadau'n parhau a bydd yr ASB yn cyhoeddi'r newyddion diweddaraf.
Back to top
11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email:
caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk
Find out what our other sites have to offer