Food Standards Agency
Thursday 2 July 2009
Safe food and healthy eating for all banner welsh
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteTuesday 1 November 2005
Yn dilyn llwyddiant ei Chynllun AFAL (Gwobrau am Fentrau Bwyd Lleol) yn 2004 a 2005, mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn lansio'r Gwobrau unwaith eto yn 2006.
Fel yn y gorffennol, bydd y Gwobrau yn cydnabod cyfraniadau unigolion neu dimau at fentrau maethiad lleol sydd wedi cael effaith bositif ar ddiet neu arferion bwyta trigolion yn eu cymunedau.
Wrth lansio'r Gwobrau, eglurodd yr Athro Robert Pickard, Prif Gyfarwyddwr Sefydliad Maetheg Prydain, sy'n aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar gyfer ASB Cymru ac yn aelod o banel beirniadu AFAL 2005, "Rydyn ni'n awyddus iawn i weld enwebiadau sy'n ymwneud â gweithgareddau sy'n cael eu cynnal yn y cymunedau mwy difreintiedig a bregus yng Nghymru, fel y rhai sy'n targedu grwpiau incwm isel neu leiafrifoedd ethnig lle mae gwir angen cynlluniau i wella diet. Rydyn ni hefyd yn awyddus i dderbyn enwebiadau gan brosiectau sy'n dangos gwerth ychwanegol heb lawer o arian. Byddwn hefyd yn croesawu prosiectau sy'n dangos tystiolaeth o weithio mewn partneriaeth ac arloesedd a fydd yn galluogi Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru i hyrwyddo arferion gorau a sbarduno eraill i gynnal gweithgareddau tebyg yn y dyfodol."
Meddai'r Athro Pickard, "Eleni, byddwn yn beirniadu pob prosiect a enwebir drwy ddefnyddio'r un meini prawf, a bydd gwobrau'n cael eu rhoi i'r pum prosiect sydd wedi gwneud y cyfraniad mwyaf sylweddol at wella diet yn eu cymunedau. Bydd pum prosiect arall yn rhannu'r ail wobr."
Mae'r Gwobrau'n agored i bob unigolyn neu sefydliad sy'n gweithio i geisio gwella diet eu cymuned leol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys pob sector, gan gynnwys gweithwyr cymunedol, gwirfoddol ac addysg, arlwywyr, adwerthwyr, cynhyrchwyr bwyd ac Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd sy'n gweithio i ddylanwadu'r gymuned.
Bydd pob un o'r pum enillydd yn derbyn £2000 i'w fuddsoddi yn eu menter bwyta'n iach, powlen ffrwythau arbennig a thystysgrif. Bydd y pump ail orau'n derbyn £1000 ynghyd â phowlen ffrwythau a thystysgrif. Gwahoddir pawb sy'n cyrraedd y rownd derfynol i wneud cyflwyniad yn esbonio eu gweithgareddau yn y cynadleddau maethiad Bwyd a Lles yn ystod Gwanwyn 2006.
Am wybodaeth bellach am y cynllun, neu i dderbyn ffurflenni enwebu, dylai cydgysylltwyr gysylltu â Kerys James - Palmer ar 029 2067 8912 neu e-bost: nutritionstrategywales@foodstandards.gsi.gov.uk
Back to top
Dyddiad Cau
Gellir cystadlu drwy gwblhau ffurflen enwebu a rhaid ei derbyn erbyn 31 Rhagfyr 2005 fan bellaf.
Adolygu enwebiadau
Bydd panel dethol annibynnol yn adolygu ceisiadau, a hysbysir y cystadleuwyr llwyddiannus erbyn diwedd Chwefror 2006.
Gwahoddir cystadleuwyr sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol i wneud cyflwyniad byr am eu menter yn y cynadleddau maethiad 'Bwyd a Lles' yn ystod Gwanwyn 2006.
Back to topDownload pdf
(pdf 103KB) Food Standards Agency Wales launches third year of AFAL awards Read the press release and download the nomination form FSA Wales Awards for Food Action Locally Find out more about the scheme, including details of how to enter (External) Get Adobe Acrobat reader You may need the free Acrobat Reader to view a pdf
11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email:
caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk
Find out what our other sites have to offer