Skip navigation

Food Standards Agency

Sunday 5 July 2009

Safe food and healthy eating for all banner welsh

AZ-Directory What's New

Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru’n Cyhoeddi Mwy o Wobrau

Wednesday 16 June 2004

(Awards for Food Action Locally) (Gwobrau am Fentrau Bwyd Lleol)

Ref: WA 010/O4CK

Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru wedi cyhoeddi mwy o enillwyr cynllun gwobrau AFAL 2003/2004. Lansiwyd y Cynllun ym mis Tachwedd y llynedd, a’r bwriad yw gwobrwyo unigolion neu dimau mentrau maeth lleol sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar ddiet neu arferion bwyta yn eu cymunedau.

Mae yna bump gwahanol adran o wobrau sy’n cyfateb i rannau amrywiol Strategaeth Maeth Cymru – a welir yn y ddogfen ‘Bwyd a Lles’ a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2003 sy’n nodi’r hyn sydd angen i aelodau allweddol ei wneud i wella diet pobl Cymru. Dyma’r adrannau:

Meddai’r Athro Robert Pickard, Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Maetheg Prydain, aelod o bwyllgor Cynghori ar Fwyd ASB Cymru ac aelod o’r panel beirniaid, ‘Mae cryn ddiddordeb wedi bod yn y gwobrau AFAL, gyda dros 70 o ymgeiswyr.

‘Roeddent i gyd o safon uchel, ac felly roedd beirniadu’n waith reit anodd. Dangosodd yr holl enillwyr fod eu gwaith caled, eu hymroddiad a’u brwdfrydedd wedi helpu i hybu gwell diet yn eu cymunedau. Rydym wedi penderfynu cyflwyno gwobrau AFAL unwaith eto a byddwn yn cyhoeddi manylion gwobrau 2004/5 yn ddiweddarach yn y flwyddyn’.

Yn yr adran gyntaf, ‘Mentrau i ledu gwybodaeth ac addysgu’r gymuned’, yr enillydd yw '4 Seazons Kitchen' yng Nghanolfan Pobl Ifanc Cwm-brân. Mae’r fenter hon yn mynd i’r afael â diet gwael ac arferion bwyta pobl ifanc difreintiedig sydd wedi’u dadrithio yn ardal Tor-faen drwy gynnal dosbarthiadau coginio, cynllun rhandir, a chaffi sy’n gwerthu bwyd a diod iach am bris rhesymol.

Aeth yr ail wobr i 'Brosiect Tlodi Bwyd De Glan-yr-afon' dan ofal Cymdeithas Marchnad Gymunedol Glan-yr-afon. Mae’r gymdeithas gymunedol ddielw hon yn cynnal marchnad wythnosol ar gyfer cynhyrchwyr yn ogystal â gwahanol fentrau i fynd i’r afael â thlodi bwyd yn cynnwys gweithdai ar ‘Fwyta’n Iach’ a ‘Choginio rhad’ ar gyfer pobl leol. Maent hefyd wedi cynnal diwrnod ‘Ffest ffrwythau’ gan drefnu ymweliad â fferm ffrwythau a phrosiect pecyn bwyd iachus i blant yr ysgolion lleol.

Yn yr ail adran, ‘Mentrau i Hybu/Hwyluso Mynediad ac Argaeledd’ rhoddwyd yr ail wobr i 'Brosiect Chwaraeon a Hamdden Tŷ Cymunedol Markham' dan ofal Prosiect Tŷ Cymunedol Markham. Sefydlwyd y prosiect o ganlyniad i gais gan bobl leol ac mae’n cynnig clwb cinio a chaffi cymunedol sy’n darparu prydau cytbwys ac iachus i’r sawl sy’n byw a gweithio yn yr ardal. Mae’r prosiect yn cynnwys cynllun rhandir gyda’r cynnyrch yn cael ei ddefnyddio yn y caffi cymunedol a chyrsiau coginio i blant 5 -11 oed.

Enillwyd y drydedd adran sef ‘Mentrau i reoli gorbwysedd a gordewdra’, gan ‘Raglen Iechyd y Galon' dan ofal Tîm Hybu Iechyd Rhondda Cynon Taf. Mae’r prosiect hwn yn targedu pobl 30-65 oed sy’n dangos arwyddion fod ganddynt nodweddion Clefyd Coronaidd y Galon (CHD) y gellir eu newid. Mae’r rhaglen 12 sesiwn dros 9 mis yn ceisio newid ymddygiad pobl drwy ganolbwyntio ar ddiet ac ymarfer corff. Mae’r cleientiaid yn gosod eu targedau diet eu hunain – er enghraifft bwyta llai o fraster dirlawn, a mwy o fwyd sy’n dda i’r galon megis pysgod olewog. Mae yna gylchlythyr sy’n cynnig cefnogaeth ac anogaeth i barhau â’r arferion newydd ar ôl gorffen ar y rhaglen.

Rhoddwyd yr ail wobr yn yr adran hon i ‘Strategaeth Maeth Ysgolion Sir Gaerfyrddin’, dan nawdd Cyngor Sir Gaerfyrddin. Prosiect cynhwysfawr yw hwn i atal gorbwysedd a gordewdra trwy ddatblygu polisi bwyta’n iach a’i roi ar waith. Y bwriad yw defnyddio sawl cyfrwng i wella maeth plant ysgol – y cwricwlwm, arferion arlwyo prydau bwyd ysgol, hyfforddi staff arlwyo a rhoi cefnogaeth wrth sefydlu clybiau brecwast.

Yn y bedwaredd adran, ‘Mentrau sy’n dangos gwaith aml-asiantaeth’, dyfarnwyd y wobr gyntaf i 'The Funky Food Group' sydd dan ofal Lynn Perry o Dîm Iechyd Cyhoeddus Sir Benfro. Mae’r fenter wedi sicrhau mwy o sylw i faeth mewn ysgolion trwy gydweithrediad athrawon, disgyblion ac arlwywyr. Mae deg ysgol wedi cymryd rhan gan gyfarfod fel Grŵp Gweithredu Maeth yn yr Ysgol i benderfynu ar bolisi ynglŷn â siopau ffrwythau ysgol, poteli dŵr a phecynnau bwyd iachus.

‘Mentrau sy’n arloesol eu dull’’ yw adran olaf Gwobrau AFAL, a’r enillydd yw 'Domino project' a gynhelir gan Gyngor Gorllewin Morgannwg ar Alcohol a Chamddefnyddio Sylweddau. Mae’r prosiect yn rhoi cyfle i bobl sydd wedi’u heffeithio gan broblemau alcohol a chyffuriau i gael addysg a chymdeithasu a hamddena. Mae cyfle i arddio a thyfu llysiau a ffrwythau a chynhelir dosbarth coginio sy’n paratoi prydau bwyd iachus gan ddefnyddio cynnyrch y rhandir.

Cafodd prosiect ‘Hyfforddwyr Bwyd Iach Prydau Bwyd Ysgolion Caerffili' dan adain Gwasanaethau Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yr ail wobr. Cyflogwyd hyfforddwyr bwyta’n iach i hyfforddi staff arlwyo a rhoi cefnogaeth wrth gynllunio bwydlenni a maethu. Hefyd, trefnir achlysuron i hybu disgyblion i fwyta’n iach. Roedd hyn yn cynnwys 'Llysieuyn yr Wythnos’ a gêm ar gerdyn crafu oedd yn cynnig gwobr o weithgareddau hamdden di-dâl i ddisgyblion oedd yn dewis ffrwythau neu lysiau gyda’u prydau bwyd.

Mae’r enillwyr ymhob adran yn cael £2000 i’w fuddsoddi yn eu menter bwyta’n iach, powlen ffrwythau a thystysgrif. Rhoddwyd £1000 fel ail wobr i’w fuddsoddi yn y fenter, a’r bowlen a thystysgrif.

Back to top

Nodiadau i olygyddion:

Mae’r Gwobrau AFAL yn agored i’r holl unigolion neu’r sefydliadau sy’n gyfrifol am gychwyn a chyfarwyddo gweithgareddau neu ddigwyddiadau yng Nghymru sy’n ceisio gwella diet eu cymuned leol. Mae hyn yn cynnwys aelodau allweddol yn yr holl sectorau – y Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cenedlaethol, Byrddau Iechyd Lleol, y sector addysg, gweithwyr cymunedol a gwirfoddol, Awdurdodau Lleol, adwerthwyr a chynhyrchwyr bwyd sydd oll yn gweithio i ddylanwadu ar y gymuned.

Back to top

Related links

Food Standards Agency Wales announces further award winners Read the press release

11th Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW
Telephone: 02920 678916
Fax: 02920 678918/9
Email: caroline.kitson@foodstandards.gsi.gov.uk

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

Our Sites

Find out what our other sites have to offer

Change Text Only Settings

Graphic version of this page