Skip navigation

Food Standards Agency

Friday 3 July 2009

Safe food and healthy eating for all banner welsh

AZ-Directory What's New

Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru'n Cyhoeddi Enillwyr Gwobrau 'AFAL'

Thursday 13 May 2004

Awards for Food Action Locally

Yn ei Chynhadledd Gweithredu'r Strategaeth Faethiad yn Llandudno, cyhoeddodd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru enillwyr gwobrau AFAL 2003/2004. Lansiwyd y gwobrau ym mis Tachwedd y llynedd, ac mae'r cynllun yn cydnabod cyfraniad unigolyn neu dîm i fentrau maethiad lleol sydd wedi cael dylanwad cadarnhaol ar ddiet neu arferion bwyta yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Yn y Gynhadledd, cyflwynwyd Gwobr i Siop a Chaffi Bwyd Cyflawn y Chwarel ym Machynlleth a sefydlwyd gan y Ganolfan Technoleg Amgen. Mae’r prosiect hwn yn cyflenwi bwyd iach (yn bennaf gan gynhyrchwyr lleol) i’r gymuned leol a thwristiaid. Mae hefyd yn cydweithio â’r ysgol gynradd leol trwy gynnal sesiynau coginio ac yn cefnogi ei hymgyrch bocsys bwyd iach. Mae’r siop hefyd yn ganolfan ar gyfer y cynllun bocsys llysiau lleol, ac mae wedi cynhyrchu sawl llyfryn coginio ar fwyta’n iach. Rhoddwyd y wobr hon am ‘Fentrau i Hybu/Hwyluso Mynediad ac Argaeledd’. Derbyniodd cynrychiolwyr y Cwmni £2000 i’w fuddsoddi yn y fenter, bowlen ffrwythau a thystysgrif.

Aeth yr ail wobr yn y categori ar gyfer ‘Mentrau sy’n dangos gwaith aml-asiantaeth', i 'Weithgor Maethiad Sir Ddinbych’ dan adain Cyngor Sir Ddinbych. Datblygwyd cynllun gweithredu gan y Gweithgor hwn mewn ymateb i’r agwedd ddi-gyswllt flaenorol tuag at fwyd a lles yn lleol. Mae aelodau'r grŵp yn cynnwys amrywiaeth o bartneriaid allweddol sydd wedi mynd i'r afael â meysydd megis darparu cinio ysgol, grantiau ar gyfer cychwyn siopau ffrwythau yn yr ysgol, canllawiau bwydo babanod a Gweithgor Maethiad Ysgol sy’n cwrdd i wneud penderfyniadau polisi ar siopau ffrwythau mewn ysgolion, poteli dŵr a bocsys bwyd iach. Cafodd y Grŵp ail wobr o £1000 i’w fuddsoddi yn y fenter ynghyd â bowlen ffrwythau a thystysgrif.

Meddai’r Athro Robert Pickard, Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Maethiad Prydain, sy'n aelod o Bwyllgor Cynghori ar Fwyd ASB Cymru ac yn aelod o'r pwyllgor beirniaid, 'Cafwyd cryn ddiddordeb yn y gwobrau AFAL, gyda thros 70 o ymgeiswyr. Roeddent i gyd o safon uchel, ac roedd beirniadu'n waith anodd. Roedd yr holl enillwyr wedi dangos sut mae gwaith caled, dycnwch a brwdfrydedd wedi helpu i hybu diet gwell yn eu cymunedau. Rydym wedi cytuno i gynnal y gwobrau AFAL unwaith eto a byddwn yn cyhoeddi'r manylion ar gyfer gwobrau 2004/5 maes o law'.

Bydd mwy o wobrau yn cael eu cyflwyno yng Nghynhadledd Gweithredu’r Strategaeth Faethiad ASB Cymru yng Nghaerdydd ar 26 Mai.

Back to top

Nodiadau i olygyddion:

1. Mae’r Gwobrau AFAL Awards yn agored i'r holl unigolion neu'r sefydliadau sy’n gyfrifol am gychwyn a chyfarwyddo gweithgareddau neu ddigwyddiadau yng Nghymru sy’n ceisio gwella diet eu cymuned leol. Mae hyn yn cynnwys aelodau allweddol yn yr holl sectorau – y Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cenedlaethol, Byrddau Iechyd Lleol, y sector addysg, gweithwyr cymunedol a gwirfoddol, Awdurdodau lleol, adwerthwyr a chynhyrchwyr bwyd sydd oll yn gweithio i ddylanwadu ar y gymuned.

2. Mae pum categori o wobrau, sy'n cyfateb i'r gwahanol agweddau ar Strategaeth Faethiad Cymru – a amlinellir yn y ddogfen ‘Bwyd a Lles’ a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2003 sy'n nodi'r hyn sydd angen i aelodau allweddol ei wneud i wella diet pobl Cymru. Dyma’r categorïau:

Back to top

Related links

AFAL award winners View the winners

Download image  (Image 1MB) Food Standards Agency Wales announces 'AFAL' award winners Read the full press release

Room 245 Aviation House,
125 Kingsway,
London WC2B 6NH
Telephone: 020 7276 8888
Out of hours duty pager: 07623 978344
Fax: 020 7276 8833
Email: press.mailbox@foodstandards.gsi.gov.uk

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

Our Sites

Find out what our other sites have to offer

Change Text Only Settings

Graphic version of this page