Food Standards Agency
Saturday 4 July 2009
Safe food and healthy eating for all banner welsh
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteWednesday 19 July 2000
Heddiw, croesawodd Jane Hutt AC, yr Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn crynhoi casgliadau cychwynnol y Fenter Labelu Bwyd Gwell, a lansiwyd gan Ysgrifennydd Bwyd MAFF y Farwnes Hayman ym mis Ionawr y llynedd.
Dros fil o ymatebion wedi dod i law
Meddai Ms Hutt:
'Rwy'n croesawu'r camau y mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn eu cymryd i sicrhau bod labelu bwyd yn cefnogi dewis y defnyddwyr.'
Lansiwyd y Fenter Labelu Bwyd Gwell yn Lloegr er mwyn darganfod beth oedd barn defnyddwyr ar labelu bwyd ac, yn enwedig, pa welliannau yr hoffent eu gweld. Ym mis Ebrill, etifeddodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd newydd y Fenter.
Gwahoddwyd pobl i fynegi eu barn a'u syniadau gan daflen a ddosbarthwyd ymhlith grwpiau defnyddwyr
diddordeb, llyfrgelloedd cyhoeddus ac archfarchnadoedd, ac ar 2il Mawrth, cynhaliwyd Fforwm Agored i drafod y pwnc.
Gellir rhannu'r ymatebion a gafwyd i saith categori a nodwyd bod yn rhaid gweithredu ar y rhain:
Rhestru cynhwysion
Labelu gwlad cychwyniad
Dulliau Cynhyrchu
Safoni labeli bwyd
Nodi'r Dyddiad
Labelu Maethiad
Honiadau a/neu wybodaeth gamarweiniol
Bydd yr ASB nawr yn ystyried beth yw'r ffordd orau o ymateb i'r pryderon hyn. Yng Nghymru, bydd cais am gyngor Pwyllgor Ymgynghorol yr ASB. Meddai Ms Hutt:
'Rwy'n croesawu'r gwaith sydd wedi ei wneud eisoes, ac yn edrych ymlaen i'r hyn sydd eto i'w wneud. Mae'r Fenter yn datblygu'n gam mawr ymlaen ym maes lles defnyddwyr.'
NODIADAU I OLYGYDDION
1. Lansiwyd y Fenter Labelu Bwyd Gwell gan y Farwnes Hayman ar 21ain Ionawr 2000. 20fed Mawrth oedd y dyddiad cau ar gyfer derbyn ymatebion. Derbyniwyd 1278 ymateb; 93% oddi wrth unigolion.
Ceir copi o gasgliadau'r Crynodeb Gweithredol gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Tw Southgate, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW. Fel arall, gallwch hwylio iddo ar wefan yr ASB yn http://www.foodstandards.gov.uk
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â
Julian Moruzzi yn y cyfeiriad uchod; neu ffoniwch 029 2067 8906 neu e-bostiwch
julian.moruzzi@foodstandards.gsi.gov.uk
.
Find out what our other sites have to offer