Skip navigation

Food Standards Agency

Saturday 4 July 2009

Safe food and healthy eating for all banner welsh

AZ-Directory What's New

Ateb i'ch Cwestiynau......

Sunday 20 August 2000

Bydd defnyddwyr a mudiadau sydd â diddordeb yn cael y cyfle i wyntyllu barn a holi cwestiynau ynglyn â materion yn ymwneud â bwyd i'r Asiantaeth Safonau Bwyd yr wythnos nesaf, pan fydd yr asiantaeth yn cynnal fforwm agored yn Sioe Frenhinol Cymru.

Cynhelir y cyfarfod am 3pm ar ddydd Mawrth 25ain Gorffennaf, ym Mhafiliwn y Cynulliad Cenedlaethol. Yn ymuno ag Ann Hemingway, Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd fydd panel o arbenigwyr yn adlewyrchu themâu allweddol maeth, diogelwch bwyd a hylendid bwyd. Bydd Geoffrey Podger, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd a Joy Whinney, Cyfarwyddwraig Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, hefyd yn bresennol.

Agorir y cyfarfod gan Jane Hutt, AC, Ysgrifennydd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad, ac yn dilyn cyflwyniadau byr gan y panel, gwahoddir aelodau'r gynulleidfa i ddweud eu dweud yn ystod sesiwn holi ac ateb.

Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru hefyd yn rhannu stondin ar faes y sioe eleni gydag Adran Hybu Iechyd y Cynulliad Cenedlaethol. Gyda'i gilydd, maent yn hyrwyddo negeseuon pwysig am ddiogelwch bwyd a maeth mewn modd bywiog a hygyrch gyda help Sinderela a'i Chwaer Hyll; adnoddau dysgu newydd " Estroniaid yn ein Bwyd " a "T-Saff a'r Criw Gwiw"; ynghyd ag ystod o weithgareddau rhyngweithiol eraill. Gellir profi hyn oll a mwy yn Stondin 322, Rhes D.

Meddai Ann Hemingway, Cadeirydd Pwyllgor Ymgynghorol Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd: "Mae'r fforwm agored yn gyfle i ni egluro gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac yn arbennig, rôl, nodau ac amcanion yr ASB yng Nghymru a Phwyllgor Ymgynghorol Cymru. Mae'n amlwg y bydd yn rhaid i'r ASB gydweithio gyda nifer o fudiadau eraill wrth fynd i'r afael â gwenwyn bwyd a hybu bwyta'n iach, ac rwy'n falch o bresenoldeb cydweithwyr o'r Cynulliad Cenedlaethol, GLIC a Llywodraeth Leol ar y panel gyda mi heddiw."

Meddai Geoffrey Podger, Prif Weithredwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd: "Ein hamcan yw gwella iechyd y cyhoedd o safbwynt bwyd; cynyddu hyder y cyhoedd mewn bwyd ac ennill eu hymddiriedaeth trwy'r hyn a wnawn. Rwyf wrth fy modd i gael gwahoddiad i gymryd rhan yn un o ddigwyddiadau pwysicaf y flwyddyn yng Nghymru."

Nodiadau i Olygyddion

1. Mae'r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd rhwng 24 - 27 Gorffennaf 2000.

2. Mae pencadlys Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn Nhy Southgate Caerdydd.

3. Y panel arbenigwyr yw Dr Claire Paisley, maethegydd gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru; Dr Roland Salmon, epidemiolegydd ymgynghorol gyda'r Gwasanaeth Labordy Iechyd Cyhoeddus; ac Allan Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Amgylcheddol Cyngor Sir Fynwy.

4. Bydd Sinderela a'i Chwaer Hyll ar y llwyfan mewn 10 perfformiad bob dydd, yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn stondin ASB Cymru/Adran Hybu Iechyd CCC. Mae'r pantomeim 15 munud yn canolbwyntio ar Sinderela - na fydd yn cael mynd i'r ddawns oni bai ei bod yn coginio swper - ei Chwaer Hyll a'r gweddill, Becs y Byg, Bisgïen y Llygoden a'r Ddewines Garedig. Mae Sinderela'n gwybod na ddylai baratoi bwyd mewn cegin mor fudr, ac mae'n galw ar y Ddewines Garedig a Becs i'w chynorthwyo.

5. Mae gwybodaeth bellach ar gael gan

Jayne Griffiths
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
Ffôn: 029 2067 8910
E-bost: Jayne.Griffiths@foodstandards.gsi.gov.uk

Back to top

See also

Your questions answered

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

Our Sites

Find out what our other sites have to offer

Change Text Only Settings

Graphic version of this page