Food Standards Agency
Saturday 4 July 2009
Safe food and healthy eating for all banner welsh
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteThursday 24 May 2001
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn rhybuddio pobl sy'n mynd ar bicnics ac yn cynnal barbeciws eu bod nhw'n llawer mwy tebygol o gael gwenwyn bwyd o ddiwedd mis Mai. Mae hyn yn cyd-fynd â chynnydd mewn bwyta yn yr awyr agored, newidiadau mewn arferion bwyta ar gyfer yr haf a dechrau tymor y gwyliau.
Rhybudd ynglyn â heintiau'r haf
Daw'r rhybudd mewn pryd ar gyfer penwythnos gwyliau banc y Sulgwyn, ac mae'r ASB yn annog y cyhoedd i gymryd camau diogelwch syml i osgoi gwenwyn bwyd.
Er bod yna gred gyffredinol nad yw llawer o achosion o salwch sy'n gysylltiedig â bwyd yn cael eu cofnodi o gwbl, cofnodwyd dros 4,600 o achosion o wenwyn bwyd yng Nghymru y llynedd. Ym mis Ionawr 2000, cofnodwyd tua 242 o achosion ond cododd y ffigwr hwn i 427 ym mis Mai, gan gyrraedd uchafbwynt o 546 ym mis Awst.
Mae ffigurau'n dangos bod achosion o wenwyn Campylobacter - un o'r heintiau sy'n fwyaf tebygol o wneud pobl yn sâl ? hefyd wedi cyrraedd uchafbwynt rhwng mis Mai a mis Medi y llynedd. Cofnodwyd 321 o achosion yng Nghymru ym mis Mai y llynedd a 370 ym mis Awst, o'i gymharu â chyfartaledd o 219 rhwng mis Ionawr a mis Mawrth.
Gellir cael Campylobacter mewn dofednod, cig amrwd neu gig heb ei goginio'n iawn, llaeth heb ei basteureiddio, dwr heb ei drin ac mewn anifeiliaid anwes. Mae unigolion sy'n cael eu heintio yn dioddef poen bol, dolur rhydd difrifol a salwch cyffredinol.
Mae cyfuniad o arferion hylendid gwael wrth baratoi bwyd a thywydd cynhesach hefyd yn creu amodau delfrydol i nifer o heintiau bwyd luosogi a gwneud pobl yn sâl. Gall arferion hylendid gwael arwain at yr haint yn lledaenu o berson i berson.
Llawr 1af, Ty Southgate,
Wood Street,
Caerdydd CF10 1EW
Ffôn: 029 20 678915
Ffacs: 029 20 678918/9
Ebost:
kathryn.corcoran@foodstandards.gsi.gov.uk
Mae'r ASB wedi nodi bod barbeciws a mathau eraill o fwyta yn yr awyr agored yn risg arbennig. Dywedodd y ddarlledwraig a'r gogyddes Gilli Davies, sy'n aelod o Bwyllgor Ymgynghorol ASB Cymru:
"Nid yw'n syndod gweld cynnydd mewn salwch sy'n gysylltiedig â bwyd ar yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae nifer o facteria niweidiol yn tyfu mewn amodau cynhesach, gan droi ein bwyd yn berygl iechyd posib. Mae arferion bwyta a choginio hefyd yn newid yn yr haf gyda mwy o bobl yn mynd ar bicnic ac yn cynnal barbeciw.
"Gall barbeciws fod yn broblem arbennig oherwydd y ffordd mae cig amrwd yn cael ei storio cyn ac ar ôl iddo gael ei goginio. Mae hefyd yn anodd dweud pryd mae cig wedi'i goginio'n iawn, gan ei fod yn tueddu i frownio'n gyflym ar y tu allan heb goginio'n iawn y tu mewn.
"Mae angen arferion paratoi, atal a glendid da. Mae camau syml fel dadmer cig yn drylwyr a'i goginio nes bod y suddion yn llifo ohono yn gam mawr at leihau'r risgiau."
Mae'r Asiantaeth yn rhoi cyngor ar sut i leihau peryglon o fwyd sy'n cael ei baratoi yn yr awyr agored. Mae'r prif awgrymiadau ynglyn â diogelwch bwyd yn cynnwys y pwyntiau canlynol:
- Golchwch eich dwylo'n drylwyr bob amser cyn paratoi bwyd ac ar ôl cyffwrdd â chig amrwd;
- Cadwch a pharatowch gigoedd amrwd ar wahân i fwydydd eraill, hyd yn oed wrth goginio, i osgoi traws-halogi;
- Defnyddiwch daclau cegin gwahanol ar gyfer cig amrwd a chig wedi'i goginio;
- Coginiwch pob cig a chynnyrch cig nes eu bod yn chwilboeth drwyddynt, a throi'r bwyd yn rheolaidd wrth ei goginio fel na fydd wedi llosgi ar un ochr ac wedi ei dangoginio ar yr ochr arall;
- Cadwch fwydydd poeth yn boeth a bwydydd oer yn oer tan ei bod hi'n amser eu bwyta ? peidiwch â'u gadael i sefyll.
Nod yr ASB yw gostwng salwch sy'n deillio o fwyd o 20% dros y pum mlynedd nesaf. Mae gwybodaeth bellach a chyngor i'w cael ar wefan yr asiantaeth, sef www.foodstandards.gov.uk
Cyswllt Newyddion: Kathryn Corcoran (029) 20 678915
NODYN I OLYGYDDION:
Mae taflen gyngor ar fwyta yn yr haf yn amgaeedig ar y dudalen nesaf
Cyngor gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar fwyta yn ystod yr haf
- Mae tywydd cynhesach yn golygu y bydd pobl yn meddwl am fwyta mwy o salad a choginio yn yr awyr agored ar farbeciws, ar gyfer picnic ac mewn meysydd gwersylla. Mae'r tymheroedd cynhesach hefyd yn ddelfrydol i facteria luosogi ac achosi gwenwyn bwyd.
- Rydym yn atgoffa pobl sy'n bwyta ac yn arlwyo mewn digwyddiadau yn ystod yr haf bod angen dilyn arferion hylendid bwyd da fel y gellir paratoi a bwyta bwyd yn ddiogel.
Barbeciws
Gall cigoedd amrwd fel byrgers, selsig a chyw iâr gludo organebau gwenwyn bwyd. Os nad yw cigoedd amrwd yn cael eu coginio'n iawn, neu os daw cigoedd amrwd i gysylltiad â bwyd neu arwynebedd ac offer a ddefnyddiwyd i baratoi bwyd arall na fydd yn cael ei goginio, rydych mewn perygl o achosi salwch.
Mae pa mor dda y mae bwyd yn cael ei goginio yn amrywio o un barbeciw i'r llall. Mae rhai barbeciws yn rhy boeth mewn rhannau a ddim digon poeth mewn rhannau eraill. Drwy symud bwyd o gwmpas ar y barbeciw a'i droi'n rheolaidd, gallwch osgoi gorlosgi'r tu allan a sicrhau bod y tu mewn wedi coginio'n iawn. Dylai cig o farbeciw gael ei weini pan fydd yn hollol boeth drwyddo.
Nid yw'r ffaith bod cig yn edrych yn frown neu wedi llosgi yn golygu bod y cig wedi'i goginio drwyddo. Mae cynhyrchion cig tewach megis ?byrgyrs chwarter pwys' yn aml yn edrych fel eu bod wedi coginio gan eu bod yn llosgi y tu allan cyn iddyn nhw fod wedi eu coginio'n drylwyr. Dylid cynhesu cigoedd amrwd i o leiaf 70°C am 2 funud yr holl ffordd drwyddo. Ni ddylai cig sydd wedi coginio gynnwys darnau pinc o gwbl a dylai'r suddion redeg ohono'n glir.
Gallwch goginio cig a chyw iâr gartref, eu cludo yn oer, a gorffen eu coginio ar y barbeciw. Fodd bynnag, ni ddylech goginio cig yn rhannol ar farbeciw a gorffen ei goginio'n hwyrach.
Gallwch leihau'r risg o wenwyn bwyd drwy wneud y canlynol:
Paratoi'n dda
- Golchwch eich dwylo'n drylwyr bob amser - cyn paratoi bwyd, ar ôl cyffwrdd cig amrwd a chyn bwyta.
- Gwnewch yn siwr bod holl arwynebeddau gwaith, taclau coginio a bwyta yn hollol lân cyn eu defnyddio.
- Cadwch anifeiliaid anwes i ffwrdd oddi wrth fwyd, llestri a mannau paratoi bwyd.
- Goleuwch y barbeciw ymhell o flaen llaw, gan sicrhau bod gennych ddigon o siarcol. Arhoswch nes ei fod yn tywynnu'n goch (gydag arwyneb llwyd powdwr) cyn dechrau coginio.
- Gwnewch yn siwr fod cig amrwd wedi dadmer yn iawn yn yr oergell neu'r popty meicrodon cyn ei roi ar y barbeciw fel ei fod yn coginio'n fwy gwastad, oni bai fod y cyfarwyddiadau coginio yn nodi'n wahanol.
Storio'n ddiogel
- Dylech gadw bwyd oer yn oer a bwydydd poeth yn boeth bob amser i atal lledaeniad bacteria ? peidiwch â'u gadael i sefyll.
- Cadwch gigoedd amrwd mewn cynhwysydd ar wahân rhag iddo heintio bwydydd eraill.
- Yn y barbeciw, peidiwch agor caead y cynhwysydd tan fod ei angen a pheidiwch cymryd mwy o gig nag y gellir ei roi ar y barbeciw.
- Rhowch orchudd ar fowlenni gweini i'w gwarchod rhag llwch a phryfaid.
Coginio'n drylwyr
- Gofalwch eich bod yn dilyn unrhyw gyfarwyddiadau coginio a roddir.
- Trowch y bwyd yn rheolaidd a gwnewch yn siwr bod byrgers, selsig a chyw iâr yn cael eu coginio nes i'r darnau pinc ddiflannu a bod y suddion yn llifo ohonynt.
- Cofiwch weini cig o farbeciw pan fydd yn hollol boeth drwyddo.
Dilyn arferion hylendid da
- Cadwch gigoedd amrwd ar wahân i fwyd arall bob amser pan fyddwch yn coginio.
- Defnyddiwch daclau gwahanol bob amser ar gyfer codi'r cig amrwd a'r cig wedi'i goginio.
- Peidiwch byth â rhoi bwyd wedi'i goginio ar blatiau a fu'n dal cig amrwd.
- Golchwch yr holl daclau coginio a bwyta a'r arwynebeddau gwaith ar ôl eu defnyddio.
- Taflwch fwyd barbeciw a adawyd allan am dros ddwy awr mewn tywydd poeth iawn.
Ffrwythau, llysiau a saladau
Mae ffrwythau a llysiau yn rhan bwysig o ddiet cytbwys iach a dylai pobl fwyta ffrwythau a llysiau yn rheolaidd. Er nad yw achosion o salwch sy'n gysylltiedig â bwydydd ffres yn gyffredin, dylid cymryd gofal a golchi ffrwythau a llysiau'n drylwyr cyn eu bwyta'n amrwd.
Dylid golchi llysiau ac eitemau salad yn ofalus i gael gwared â phridd a baw, sy'n gallu cario bacteria a heintiau eraill. Dylid golchi pridd hefyd o ddwylo, arwynebeddau cegin a thaclau cegin eraill.
- Gall rhai mathau o fwydydd fod yn anoddach i'w paratoi (e.e. letys) a bydd yn rhaid treulio mwy o amser yn eu golchi'n drylwyr.
- Mae ymddangosiad hefyd yn gallu twyllo. Efallai fod y tu mewn i letys iceburg yn edrych yn lân ond dylid gwahanu'r dail a'u golchi cyn eu bwyta.
ENDS
Llawr 1af, Ty Southgate,
Wood Street,
Caerdydd CF10 1EW
Ffôn: 029 20 678915
Ffacs: 029 20 678918/9
Ebost:
kathryn.corcoran@foodstandards.gsi.gov.uk
Find out what our other sites have to offer