Food Standards Agency
Saturday 4 July 2009
Safe food and healthy eating for all banner welsh
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteThursday 21 June 2001
Mae canlyniadau cychwynnol profion deuocsin a PCB a gynhaliwyd ar wyau, llaeth o wahanol ffynonellau, porfa a phridd o ffermydd ger coelcerthi dethol Clwy'r Traed a'r Genau o fewn yr ystod disgwyliedig ac nid ydynt yn peri pryder, meddai'r Asiantaeth Safonau Bwyd heddiw.
Ond mae'r Asiantaeth yn bwriadu cynnal archwiliad pellach ar un fferm ar Ynys Môn ar ôl i brofion ar wyau ieir ddangos lefelau PCB uwch na'r disgwyl. Nid yw'r ffermwr yn cyflenwi wyau i'w bwyta gan y cyhoedd ac nid oes perygl i'r gadwyn fwyd nac i iechyd y cyhoedd.
Mae'r Asiantaeth o'r farn ei bod yn annhebygol fod lefel PCB uchel wyau'r ieir o ganlyniad i'r coelcerthi. Mae lefelau'r deuocsin yn yr un wyau ieir o fewn yr ystod disgwyliedig ar gyfer wyau ieir crwydrol, ac mae lefelau'r deuocsin a PCB yn wyau'r hwyaid o'r un fferm hefyd o fewn yr ystod disgwyliedig.
At hyn, mae samplau porfa a phridd o'r fferm ar Ynys Môn yn dangos lefelau deuocsin o fewn yr ystodau disgwyliedig. Mae canfyddiadau cychwynnol yn dangos fod lefelau'r deucosin a'r PCB yn y samplau llaeth o Ddyfnaint a Môn o fewn yr ystod disgwyliedig arferol. Mae'r ffactorau hyn yn awgrymu mai rhywbeth ar wahân i'r coelcerthi sydd wrth wraidd yr halogiad ar y fferm ar Ynys Môn.
Meddai Dirprwy Gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Suzi Leather: "Er na allwn fod 100% yn sicr nad yw'r lefelau PCB uwch na'r disgwyli o ganlynaid i'r coelcerthi, rydym o'r farn fod hyn yn annhebygol. Ond bydd yr Asiantaeth yn dychwelyd i'r fferm dan sylw i gynnal archwiliad pellach er mwyn mynd at wraidd y broblem. Pan fyddwn yn gwybod beth yw'r achos, byddwn yn datgelu hynny'n gyhoeddus."
Ym mis Mai, cynghorodd yr Asiantaeth berchennog y fferm i beidio bwyta unrhyw wyau o'i fferm ar ôl iddo adrodd fod dau gyw anffurfiedig wedi eu geni ar ei fferm. Fe'i hysbyswyd o ganlyniadau'r profion a chafodd ei gynghori i barhau i osgoi bwyta wyau o'i fferm, tra bod archwiliad pellach ar y gweill.
Disgwylir canlyniadau llawn y rhaglen brofi genedlaethol, a ddechreuodd ym mis Mai, ym mis Gorffennaf.
Nodiadau i olygyddion
1. Dadansoddwyd y samplau yn Labordy Gwyddoniaeth Ganolog Efrog ac fe'u haseswyd gan system Gwenwyn Cyfwerth (TEQ) Sefydliad Iechyd y Byd (WHO), sy'n rhoi syniad cyffredinol o wenwyndra deuocsin a PCB. Hyd yma, casglwyd samplau o Ynys Môn yng Ngogledd Cymru, Cernyw, Cumbria, Dyfnaint, Dumfries a Galloway yn yr Alban a Phont Senni yn Ne Cymru. Casglwyd samplau hefyd yng Ngogledd Iwerddon.
2. Ym mis Mai, lansiodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd raglen genedlaethol i brofi lefelau deuocsin a PCB mewn llaeth, wyau, pridd a phorfa o ffermydd ger coelcerthi dethol Clwy'r Traed a'r Genau.
3. Mae deuocsin a PCB yn ddifwynwyr, a ryddheir i'r amgylchedd trwy losgi a rhai prosesu cemegol. Unwaith yn yr amgylchedd, maent yn diraddio'n araf. Pan fo anifeiliaid yn porthi ar borfa, pridd a dwr, mae'r difwynwyr yn treiddio i'w systemau'n araf. Mae PCB a deuocsin yn bresennol mewn crynodiadau bychain yn y rhan fwyaf o fwydydd anifeiliaid. Ond maent yn cael eu storio mewn braster ac olew ac felly ceir lefelau uwch mewn bwydydd sy'n uwch mewn braster/olew.
4. Mae datganiad i'r wasg yr Asiantaeth Safonau Bwyd, "Cyngor newydd ar laeth o anifeiliaid sy'n pori ger coelcerthi" a gyhoeddwyd ar 25 Mai yn rhoi manylion pellach o gynlluniau'r Asiantaeth i brofi lefelau deuocsin a PCB mewn bwyd o ffermydd gerllaw coelcerthi Clwy'r Traed a'r Genau. Gellir dod o hyd i'r datganiad ar wefan yr Asiantaeth, sef www.foodstandards.gov.uk
ENDS
Llawr 1af, Ty Southgate,
Wood Street,
Caerdydd CF10 1EW
Ffôn: 029 20 678915
Ffacs: 029 20 678918/9
Ebost:
kathryn.corcoran@foodstandards.gsi.gov.uk
Find out what our other sites have to offer