Food Standards Agency
Saturday 4 July 2009
Safe food and healthy eating for all banner welsh
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteTuesday 17 July 2001
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru wedi cwblhau archwiliad o weithgareddau gorfodi cyfraith bwyd Cyngor Sir Caerdydd. Bydd yr archwiliad, y cyntaf mewn rhaglen dreigl dair blynedd i Gymru gyfan, yn caniatâu i'r Asiantaeth gymharu perfformiad yr awdurdod â safon DU-gyfan a gyflwynwyd ym mis Ebrill eleni.
Caerdydd y cyntaf i'w archwilio yng Nghymru
Cyflwynwyd y Cytundeb Fframwaith newydd ar ôl ymgynghori a chytuno gyda grwpiau defnyddwyr, awdurdodau lleol a'r Gymdeithas Llywodraeth Leol a ddaeth i rym ym mis Ebrill eleni. Wedi'i gynllunio i gynnig amddiffyniad i bawb, ac yn cwmpasu pob math o fwyd a'r holl gynhyrchwyr a manwerthwyr, mae'r Cytundeb yn galw ar awdurdodau lleol i weithio i feincnod cyffredin wrth orfodi deddfwriaeth hylendid bwyd, safonau bwyd a bwydydd anifeiliaid. Y bwriad yw y bydd hyn yn arwain at orfodi cyfraith bwyd genedlaethol mwy effeithiol a chyson ledled y DU.
Mae canlyniadau archwiliad Cyngor Sir Caerdydd yn cael eu hasesu ar hyn o bryd ac unwaith mae'r adroddiad wedi'i gwblhau, cyhoeddir manylion perfformiad yr awdurdod. Bydd yr ASB hefyd yn crynhoi canlyniadau archwiliadau a gynhaliwyd ledled y DU ac yn eu cyhoeddi mewn adroddiad ar 'safon dulliau rheoli bwyd y deyrnas'. Bydd y cyntaf o'r adroddiadau blynyddol hyn ar gael ym mis Gorffennaf 2002.
Meddai Joy Whinney, Cyfarwyddwraig Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru: "Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd rôl allweddol yn y gwaith o oruchwylio gweithgareddau gorfodi awdurdodau lleol. Gorfodwyr lleol cyfraith bwyd yw amddiffyniad cyntaf y cyhoedd, gan eu bod yn sicrhau diogelwch a safon ein bwyd. Ein gwaith ni yn yr Asiantaeth, ar y cyd 7#266;'r awdurdodau lleol, yw gosod safon a bydd y rhaglenni archwilio hyn yn rhoi gwybod i ni a yw'r safon honno'n cael ei chynnal."
"Bydd y rhaglen yn rhoi gwell dealltwriaeth i ni o'r modd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu, gan ein galluogi ni i dynnu sylw at arfer gorau a'i rannu ag awdurdodau eraill. Bydd yr archwiliadau hyn hefyd yn galluogi'r Asiantaeth i nodi a mynd i'r afael â phryderon ac yn cynnig gwybodaeth i ni ynglyn ag a yw'r adnoddau priodol yn cael eu cyfeirio i'r swyddogaeth bwysig hon."
"Mae'r safonau'n gosod meincnod, a lle y byddwn yn canfod nad yw gweithdrefnau sylfaenol yn ddigonol, byddwn yn llunio cynllun gweithredu i ateb y problemau ac yn cyhoeddi hwnnw law yn llaw Ċ'r adroddiad terfynol. Fodd bynnag, rydym hefyd yn cydnabod yr angen am hyblygrwydd lle bo awdurdodau'n defnyddio dulliau newydd ac amrywiol i fynd i'r afael ag anghenion a blaenoriaethau lleol."
Cyswllt newyddion: Kathryn Corcoran (029) 2067 8915
NODIADAU I OLYGYDDION
1. Cyn 1 Ebrill, roedd awdurdodau lleol yn adrodd ynghylch eu gweithgareddau gorfodaeth bwyd i'r Llywodraeth. Yn ddiweddar, cyhoeddodd yr Asiantaeth ganlyniadau 1999. Mae'r Cytundeb Fframwaith newydd yn ehangu'n sylweddol ar y wybodaeth a gyhoeddir ac mae hefyd yn cyflwyno safon gorfodi newydd a threfniadau archwilio.
2. Dechreuwyd datblygu'r Cytundeb Fframwaith ym 1988 drwy Grwp Cyswllt Gorfodaeth Awdurdodau Lleol (LAELG), grwp sy'n cael ei redeg ar y cyd gan y Llywodraeth ac awdurdodau lleol. Cyhoeddwyd dogfen ymgynghorol ar ddrafft terfynol y Cytundeb Fframwaith ar 3 Ebrill 2000 a derbyniodd gefnogaeth wresog awdurdodau lleol y DU a budd-ddeiliaid eraill.
3. Sefydlwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ym mis Ebrill 2000 i ddiogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr o safbwynt bwyd. Mae'n Adran annibynnol o'r Llywodraeth.
4. Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd bwerau i fonitro ac archwilio awdurdodau lleol dan Ddeddf Safonau Bwyd 1999.
5. Bydd pob un o 22 awdurdod lleol Cymru yn cael eu harchwilio fel rhan o raglen dreigl 3 blynedd. Cynhelir archwiliad o Gyngor Bwrdeistref Sirol Casnewydd yn ystod yr wythnos yn dechrau 17 Medi 2001. Cyhoeddir yr awdurdodau lleol eraill a ddewiswyd i'w harchwilio wrth i'r rhaglen fynd rhagddi.
6. Cyhoeddwyd a throsglwyddwyd Cytundeb Fframwaith Gorfodaeth Llywodraeth Leol i awdurdodau lleol ar 29 Medi 2000, a chyhoeddwyd fersiwn ddiwygiedig ym mis Mawrth 2001. Roedd y Cytundeb Fframwaith yn gosod safon genedlaethol newydd ar gyfer gorfodi cyfraith bwyd gydag atebolrwydd cyhoeddus cynyddol drwy:
- gyhoeddi cynlluniau gwasanaeth awdurdodau lleol a oedd yn gosod allan blaenoriaethau gorfodaeth bwyd;
- cyhoeddi rhaglen archwilio blynyddol yr Asiantaeth ac adroddiadau ar berfformiad awdurdodau lleol unigol;
- ehangu canlyniadau monitro awdurdodau lleol i'r Asiantaeth ar bob agwedd ar eu gweithgareddau gorfodi cyfraith bwyd;
- adroddiad blynyddol ar weithgaredd gorfodaeth bwyd lleol gan bob awdurdod lleol.
7. Yn ogystal â'r rhaglen archwilio, mae gofyn i bob awdurdod lleol gyflwyno adroddiadau chwarterol eu gweithgareddau gorfodi i'r Asiantaeth. Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru wedi cynnal rhaglen o seminarau ledled Cymru ar gyfer gweinyddwyr awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am y canlyniadau gorfodi bwyd hyn.
ENDS
Llawr 1af, Ty Southgate,
Wood Street,
Caerdydd CF10 1EW
Ffôn: 029 20 678915
Ffacs: 029 20 678918/9
Ebost: kathryn.corcoran@foodstandards.gsi.gov.uk
Find out what our other sites have to offer