Skip navigation

Food Standards Agency

Saturday 4 July 2009

Safe food and healthy eating for all banner welsh

AZ-Directory What's New

Gwarchodwyr Bwyd i Weithredu ar Labeli Camarweiniol

Wednesday 25 July 2001

Mae defnyddwyr yn cael eu camarwain gan ddisgrifiadau diystyr megis 'country style' a defnydd aneglur o dermau fel 'ffres', 'traddodiadol' a 'gwnaed gartref' ar rai labeli bwyd, yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan bwyllgor ymgynghorol yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae'r adroddiad, ffrwyth astudiaeth ddwy flynedd gan y Pwyllgor Ymgynghorol ar Fwyd, yn beirniadu'n hallt rai aelodau o'r diwydiant bwyd am ddefnyddio termau camarweiniol ac mae'n dweud bod angen gorfodaeth lymach. Astudiodd y pwyllgor y defnydd a wneir o'r termau: ffres; naturiol; pur; traddodiadol; gwreiddiol; dilys; a gwnaed gartref/ffermdy.

Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn defnyddio'r adroddiad i ddechrau ymgynghori'r wythnos nesaf ar safonau newydd ar gyfer y diwydiant a fydd yn helpu i amddiffyn defnyddwyr ac yn gwneud gorfodaeth yn fwy effeithiol. Bydd y safonau yn:

- gwneud gorfodaeth yn fwy effeithiol

- darparu amodau teg drwy'r diwydiant

- egluro i gwsmeriaid beth ddylent ei ddisgwyl

Mae'r Asiantaeth yn bwriadu cynnal arolygon ac archwiliadau dirybydd cyson yn dilyn cyhoeddi'r safonau arfaethedig.

Dywed yr adroddiad nad yw'r diwydiant yn cydymffurfio'n llawn %#226; gofynion sylfaenol dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, Deddf Disgrifiadau Masnachol 1968 a Rheoliadau Labelu Bwyd 1996 sydd yn gwahardd labeli camarweiniol.

Dywedodd Cyfarwyddwraig Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru Joy Whinney:

" Mae hon yn astudiaeth bwysig sy'n symud hawliau defnyddwyr ymlaen yn ddi-flewyn ar dafod. Hoffwn ganmol aelodau'r Pwyllgor Ymgynghorol ar Fwyd sydd wedi paratoi'r adroddiad hwn.

" Mae gan bobl hawl sylfaenol i labeli clir ac ystyrlon fel y byddant yn gwybod beth yn union maent yn ei brynu - mae hyn yn ganolog i ddewis y defnyddiwr. Gall termau fel ffres, pur neu go iawn gael eu camddefnyddio, a chan ddyfynnu o'r adroddiad, mae gan labelwyr dueddiad i beidio â dweud y gwir i gyd."

" Mae hwn yn adolygiad amserol o labelu mewn marchnad sy'n prysur newid. Bydd yr Asiantaeth yn defnyddio'r adroddiad hwn i osod safonau clir sy'n amddiffyn defnyddwyr a masnachwyr gonest."

Mae'r adroddiad yn nodi nifer o argymhellion manwl. Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yn defnyddio'r rhain fel cynsail i gynghori'r diwydiant ac awdurdodau gorfodi ynghylch pryd y dylai a phryd na ddylai'r termau hyn gael eu defnyddio.

Roedd yr Adroddiad hefyd yn ystyried y defnydd o luniau ar labeli bwyd a hysbysebion ac mae'n argymell y dylent gael eu rheoli gan yr un canllawiau, thermau ac ymadroddion. Mae'r adroddiad hefyd yn dweud nad oes lle mewn labeli bwyd ar gyfer y term 'country style' ac anaml y dylai'r term 'ffermdy' gael ei ddefnyddio.

Daeth adroddiad y Pwyllgor yn sgil ymchwil defnyddwyr a ddarganfu fod tua 75 y cant o ddefnyddwyr yn gweld termau fel ffres, naturiol a phur yn gamarweiniol.

- Roedd pedwar o bob deg (43%) yn credu bod ¿ffres' yn cyfeirio at oedran y bwyd. Roedd mwy na dau o bob deg (22%) yn meddwl na ddylai bwyd ffres gael ei drin, ei brosesu, ei roi mewn tun ac ati. Dywedodd mwy nag un o bob deg (12%) y dylai bwyd ffres gael ei gynhyrchu neu'i gasglu'r diwrnod hwnnw.

- Roedd bron i bump o bob deg (47%) yn disgwyl i fwyd ffres fod heb atchwanegion (gan gynnwys cyffeithyddion, lliwiadau a chynhwysion a wnaed gan ddyn). Dywedodd bron i ddau o bob deg (18%) na ddylai unrhyw beth gael ei ychwanegu at fwyd naturiol / na ddylai cynhwysion gael eu hychwanegu. Dywedodd mwy nag un mewn deg (12%) y dylai fod heb ei lygru, yn ei gyflwr naturiol, neu heb ei drin.

- Roedd mwy na 3 o bob deg o bobl (35%) yn disgwyl na fyddai dim byd yn cael ei ychwanegu at fwyd naturiol neu ddim ychwanegiadau, dim byd/neu ddim byd artiffisial yn cael ei gymysgu â'r cynnyrch; Roedd bron i dri allan o bob deg o bobl yn disgwyl i fwyd pur i fod heb ychwanegiadau/ neu e-rifau.

Cyswllt newyddion: Kathryn Corcoran (029) 20 678915
Nodiadau i olygyddion:

1. Mae Crynodeb Gweithredol o Adroddiad y Pwyllgor Ymgynghorol ar Fwyd ynghlwm.

2. Gall cysylltiadau yn y wasg a'r cyfryngau darlledu sydd eisiau rhagor o gop¿au mewn fformad argraffedig neu electronig gael copi gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru, ffân 029 20 678915, ffacs: 029 20 678918/9 neu e-bost kathryn.corcoran@foodstandards.gsi.gov.uk

3. Mae cop%#238;au o'r Adroddiad ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ffôn 0845 606 0667, ffacs: 0208 867 3225 neu e-bost foodstandards@eclogistics.co.uk

4. Cylch gorchwyl y Pwyllgor Ymgynghorol ar Fwyd yw: "Cynghori Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ynghylch unrhyw faterion diogelwch a safonau bwyd ac i gynorthwyo i ddatblygu strategaeth a rhaglenni gwaith yr Asiantaeth yn y dyfodol fel y dymuna'r Bwrdd"

5. Mae gan Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd gynllun gweithredu 18 pwynt i wella labelu bwyd. Gellir cael gwybodaeth am y cynllun hwn, a barn y Bwrdd ar ein gwefan: www.foodstandards.gov.uk

6. Gellir cael crynodeb o'r ymchwil i ddefnyddwyr ym Mwletin Gwybodaeth Diogelwch Bwyd rhif 118 ar wefan yr ASB.

ENDS

Llawr 1af, Ty Southgate,
Wood Street,
Caerdydd CF10 1EW

Ffôn: 029 20 678915
Ffacs: 029 20 678918/9
Ebost: kathryn.corcoran@foodstandards.gsi.gov.uk

Back to top

See also

Food watchdog gives clear warning on misleading labels

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

Our Sites

Find out what our other sites have to offer

Change Text Only Settings

Graphic version of this page