Food Standards Agency
Saturday 4 July 2009
Safe food and healthy eating for all banner welsh
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteThursday 26 July 2001
Gwahoddir grwpiau cymuned a gwirfoddol sy'n gweithio gyda'r henoed i wneud cais am arian gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru. Mae 20 grant o £500 ar gael ar gyfer digwyddiadau neu fentrau unigol sy'n canolbwyntio ar fwyta'n iach.
Mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru'n rhoi'r grantiau fel rhan o'i chyfraniad at ymgyrch Gofal Piau Hi'r Gaeaf Hwn eleni. Mae menter Gofal Piau Hi'r Gaeaf Hwn yn cael ei chydlynu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, ac mae'n darparu gwybodaeth a chefnogaeth i bobl 65 oed neu'n hyn, i'w galluogi i gadw'n iach yn ystod misoedd y gaeaf. Mae ASB Cymru'n arwain yr elfen bwyta'n iach yn yr ymgyrch.
Cynghorir grwpiau sydd â diddordeb mewn gwneud cais nad oes fformiwla benodol i'w dilyn wrth benderfynu ar eu digwyddiad neu'u menter. Rhai enghreifftiau yw clybiau cinio, boreau coffi, sgyrsiau ac arddangosfeydd coginio, ond mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno unrhyw gynnig sy'n berthnasol i anghenion y gymuned hyn y maent yn ei gwasanaethu.
Yr unig feini prawf yw bod y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghymru, yn canolbwyntio ar fwyta'n iach, wedi'i dargedu at bobl dros 65 oed ac yn gallu cael ei gyflawni rhwng mis Hydref eleni a mis Chwefror 2002 . Croesewir yn arbennig geisiadau ar gyfer grwpiau agored i niwed a'r rhai dan anfantais gymdeithasol ac economaidd, gan fod ymchwil wedi dangos bod gan y grwpiau hyn ddiet gwael yn aml a all, yn ei dro, gyfrannu at ddiffygion iechyd eraill.
Dywedodd Jayne Griffiths, a fydd yn cydlynu'r ceisiadau am gyllid: "Mae bwyta'n iach yn chwarae rôl bwysig yn iechyd pobl hyn. Gall leihau'r perygl o glefyd coronaidd y galon a rhai mathau o ganser, helpu i wella ar ôl salwch, helpu i barhau i fyw'n annibynnol ac arwain at fywyd o ansawdd gwell. Mae diet iach yn arbennig o bwysig yn ystod y gaeaf, pan fo pobl yn fwy agored i salwch.
"Nid oes rheolau penodol i ymgeiswyr eu dilyn. Mae'n siwr fod y posibiliadau'n ddi-ben-draw, a chredwn mai grwpiau lleol sy'n gwybod orau beth syddei angen yn lleol a phwy sydd ei angen. Rydym am i'r grwpiau hyn awgrymu beth fyddai'n eu helpu, a chyflwyno cais amdano i elwa ar y cyllid sydd gennym i'w gynnig"
Am wybodaeth bellach, cysylltwch â
Jayne Griffiths,
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
Llawr Cyntaf, Ty Southgate
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW
Ffôn 029 20 678910
Ffacs 029 20 678918/9 neu e-bost
Jayne.Griffiths@foodstandards.gsi.gov.uk
Mae'n rhaid derbyn ceisiadau erbyn 31 Awst 2001.
Cyswllt newyddion: Kathryn Corcoran (029) 2067 8915
Nodiadau i olygyddion
1. Dylai ceisiadau am gyllid gynnwys y canlynol: crynodeb o'r cynnig; profiad blaenorol, gan gynnwys enghreifftiau o brosiectau blaenorol yn ymwneud â'r gynulleidfa darged; cost; amserlen cyflawni; manylion y sefydliad(au) dan sylw, a manylion cyswllt ar gyfer y trefnydd neu'r ymgeisydd.
2. Un o swyddogaethau'r Asiantaeth Safonau Bwyd yw darparu cyngor i'r cyhoedd a'r Llywodraeth ar faethiad a diet. Wrth ddarparu'r gwasanaeth hwn, ei hamcan yw sicrhau gwelliannau tymor hir yn niet a maethiad y boblogaeth a lleihad mewn anghyfartaleddau trwy alluogi ac annog y rhai difreintiedig a'r rhai agored i niwed i wella'u diet.
3. Partneriaid allweddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn yr ymgyrch Gofal Pia Hi'r Gaeaf Hwn yw: Age Concern Cymru; Gofal a Thrwsio Cymru; Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru; National Energy Action; Sefydliad Brenhinol y Deillion a Chyngor Ieuenctid Cymru. Cefnogir yr ymgyrch hefyd gan Gymdeithas Genedlaethol y Canolfannau Cynghori, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a NHW Direct Wales.
ENDS
Llawr 1af, Ty Southgate,
Wood Street,
Caerdydd CF10 1EW
Ffôn: 029 20 678915
Ffacs: 029 20 678918/9
Ebost:
kathryn.corcoran@foodstandards.gsi.gov.uk
Find out what our other sites have to offer