Food Standards Agency
Saturday 4 July 2009
Safe food and healthy eating for all banner welsh
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteSunday 26 August 2001
Mae nifer y cywion ieir sydd wedi'u heintio gan Salmonela ar silffoedd siopau yng Nghymru a ledled y DU wedi gostwng i'r lefel isaf a gofnodwyd erioed - gan fodloni targed ar gyfer gostwng yr Asiantaeth Safonau Bwyd ymhell cyn y disgwyl, yn ôl ffigyrau gafodd eu rhyddhau heddiw.
Y llynedd, cyhoeddodd yr Asiantaeth ei nod i ostwng salmonela mewn cywion ieir sydd ar werth yn y DU o 50 y cant cyn pen pum mlynedd. Ar y pryd, roedd astudiaethau'n dangos bod lefelau salmonela wedi codi tua 20 y cant. Mae'r ffigyrau diweddaraf, sy'n seiliedig ar arolwg a wnaed rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, yn dangos bod lefelau wedi gostwng i gyfartaledd o 5.8 y cant ledled y DU. Yng Nghymru mae'r lefel o 3.6 y cant yn galonogol iawn.
Edrychodd yr arolwg hefyd ar lefelau llygredd campylobacter mewn cywion ieir sydd ar werth. Mae'r rhain yn dangos fod llawer o waith i'w wneud i fynd i'r afael â'r haint hwn - ond mae diwydiant wrthi eisoes yn gweithio gyda'r Asiantaeth i nodi ffyrdd o ddelio ag ef.
Croesawodd Joy Whinney, Cyfarwyddwraig Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru y newyddion am salmonela. "Mae hyn yn newyddion da iawn i brynwyr ac i ddiwydiant" meddai. "Mae'n dangos bod y mesurau rheoli llym iawn sy'n cael eu defnyddio gan ddiwydiant yn dechrau dwyn ffrwyth yn y frwydr yn erbyn salmonela."
"Nawr, mae angen i ni sicrhau bod y mesurau'n cael eu cynnal. Mae lefelau Salmonela mewn cywion ieir ar silffoedd siopau yn y DU wedi plymio, ond gall neb fforddio llaesu dwylo."
Gofynnodd yr Asiantaeth i ymchwilwyr wneud profion ar gywion ieir ffres a rhai wedi'u rhewi, rhai o'r wlad hon a rhai o dramor, i weld beth oedd lefel y salmonela a campylobacter. Nid yw'r canlyniadau'n dangos unrhyw wahaniaeth sylweddol rhwng cywion ieir o'r wlad hon â'r rhai o dramor.
Wrth wneud dadansoddiad cychwynnol o'r canlyniadau dyma'r lefelau a ddaeth i'r amlwg:
Salmonela - cyfartaledd y DU 5.8%
Lloegr:
5.6%
Cymru:
3.6%
Yr Alban
8.9%
Gogledd Iwerddon
5.4%
Campylobacter - cyfartaledd y DU 50%
Lloegr:
46%
Cymru:
42%
Yr Alban
75%
Gogledd Iwerddon
77%
Amhosibl yw egluro'r rheswm dros y gwahaniaeth yn y canlyniadau rhwng Cymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon, er y bydd yr Asiantaeth yn astudio hyn yn fwy manwl. Dylid sylwi bod y dadansoddiadau hyn yn adlewyrchu'r wlad sy'n prynu nid y wlad wreiddiol.
Cyhoeddwyd y llynedd hefyd fod gostwng campylobacter yn ran hanfodol o ymrwymiad yr Asiantaeth i ostwng achosion o wenwyn bwyd yn y DU o 20 y cant erbyn 2006. Yr haint hwn yw'r haint sy'n cael ei ganfod amlaf fel achos gwenwyn bwyd yn y DU.
Dywedodd Joy Whinney: "Mae lefelau campylobacter mewn cywion ieir llawer yn rhy uchel. Rhan o'r rheswm am hyn yw am nad ydym yn gwybod digon am yr haint hwn. Yn amlwg, mae llawer iawn o waith i'w wneud yma o hyd, ond rydym ni a'r diwydiant yn delio â'r broblem. Yn sylfaenol fyddwn ni ddim yn llwyddo i ostwng salwch a gludir gan fwyd os na fyddwn yn mynd i'r afael â campylobacter.
"Mae hyn yn atgyfnerthu cyngor yr Asiantaeth bod angen i bawb fod yn ofalus i drin, coginio a storio cyw iâr heb ei goginio yn gywir i osgoi traws heintio a lladd unrhyw heintiau a all fod yn bresennol."
Mae'r Asiantaeth yn bwriadu lansio'i ymgyrch hylendid bwyd yn nes ymlaen eleni a fydd yn cychwyn ei ymgais i ostwng achosion o wenwyn bwyd yn y DU. Yn ogystal â gweithio gyda diwydiant, bydd yr ymgyrch yn tynnu sylw defnyddwyr ac arlwywyr at negeseuon am hylendid bwyd, megis defnyddio cyllyll a byrddau torri gwahanol ar gyfer cig heb ei goginio a bwydydd eraill a golchi dwylo cyn cyffwrdd
bwyd sy'n barod i'w fwyta.
Cyswllt newyddion:
Kathryn Corcoran (029) 2067 8915
ENDS
Llawr 1af, Ty Southgate,
Wood Street,
Caerdydd CF10 1EW
Ffôn: 029 20 678915
Ffacs: 029 20 678918/9
Ebost: kathryn.corcoran@foodstandards.gsi.gov.uk
Back to topFind out what our other sites have to offer