Skip navigation

Food Standards Agency

Saturday 4 July 2009

Safe food and healthy eating for all banner welsh

AZ-Directory What's New

Disgyblion Ysgolion Uwchradd Yn Cael Rhywbeth I Gnoi Cil Arno

Thursday 27 September 2001

Bydd disgyblion ysgolion uwchradd ledled Cymru yn gallu archwilio gwahanol gysyniadau bwyd da, bwyta'n iach a maethiad trwy ddefnyddio CD-ROM newydd sy'n cael ei dosbarthu gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Mae ASB Cymru yn cyhoeddi CD-ROM Sefydliad Maethiad Prydain, Interactive Food Facts , i ysgogi pobl ifanc i ddeall y cyfraniad a wna bwyd i'w hiechyd a'u lles cyffredinol. Mae'r CD-ROM sy'n defnyddio technolegau a chynllun rhyngweithiol ac arloesol wedi bod trwy brosiect gwerthuso prawf i sicrhau ei fod yn cwrdd â gofynion cwricwlwm ysgolion ledled y DU.

Mae'r gwaith o ddosbarthu'r CD-ROM eisoes ar waith a bydd tua 250 o ysgolion yn elwa ohono. Mae'r ASB hefyd wedi prynu trwyddedau safle unigol sy'n galluogi pob ysgol i osod y CD ar eu cyfrifiaduron lluosog am ddim, gan roi mwy o fynediad i ddisgyblion ac athrawon fel ei gilydd.

Gydag adrannau ar dreuliad, datblygiad y gadwyn fwyd, gweithgynhyrchu a diet, gellir defnyddio'r CD ar draws y cwricwlwm - er enghraifft mewn gwyddoniaeth, technoleg bwyd ac addysg gymdeithasol. Cymerodd Mrs Margherita Chapman, Pennaeth Dylunio a Thechnoleg, Ysgol Gyfun Oakdale, Gwent ran yn y prosiect gwerthuso prawf, a rhoi'r sylwadau canlynol:

"Dyma adnodd gwerthfawr a fydd yn llywio addysg fwyd yng Nghymru. Mae'n gwneud dysgu'n hwyl i bawb o bob oed a gallu, heb golli grym."

Croesawyd y CD-ROM newydd hefyd gan Robert Pickard, Cyfarwyddwr Cyffredinol Sefydliad Maethiad Prydain ac aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cymru yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Dywedodd:

"Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd a Sefydliad Maethiad Prydain yn ymrwymedig i annog pobl ifanc i ddeall y cyfraniad a wna bwyd i'w hiechyd a'u lles, ac rydym yn falch gyda'r cysyniad ac ehangder y testunau a gwmpasir yn yr adnodd hwn. Gobeithio y bydd athrawon a disgyblion fel ei gilydd yn gweld y CD-ROM yn adnodd defnyddiol, rhyngweithiol a difyr."

Cyswllt Newyddion: Kathryn Corcoran (029) 2067 8915

NODIADAU I OLYGYDDION

1. Sefydlwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ym mis Ebrill y llynedd ac mae Swyddfa Cymru yn atebol i'r Senedd ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

2. Bydd yr ASB yn gwarchod buddiannau defnyddwyr drwy warchod tri gwerth craidd, sef

- Rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf;

- Bod yn agored a hygyrch; a

- Bod yn llais annibynnol.

Ei swyddogaethau yw:

- Darparu cyngor i'r cyhoedd a'r Llywodraeth ar ddiogelwch bwyd, maethiad a diet;

- Gwarchod defnyddwyr trwy orfodaeth a monitro effeithiol; a

- Cefnogi dewis defnyddwyr trwy labeli cywir ac ystyrlon.

3. Mae ASB Cymru yn dosbarthu copïau Saesneg o'r CD-ROM i ddechrau ar ran Sefydliad Maethiad Prydain. Bydd fersiwn Cymraeg yn dilyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

ENDS
1st Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW

Ffôn: 029 20 678915
Ffacs: 029 20 678918/9
E-bost: kathryn.corcoran@foodstandards.gsi.gov.uk

Back to top

See also

Secondary school pupils will get food for thought

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

Our Sites

Find out what our other sites have to offer

Change Text Only Settings

Graphic version of this page