Skip navigation

Food Standards Agency

Saturday 4 July 2009

Safe food and healthy eating for all banner welsh

AZ-Directory What's New

Yr Asb Yn Gofyn I Blant Fod Yn Sêr Sebon

Tuesday 2 October 2001

Bydd ysgolion cynradd ledled Cymru yn mynd ati i 'lanhau' yr wythnos nesaf wrth i'r Asiantaeth Safonau Bwyd ddosbarthu 10,000 bar o sebon mewn ymgais i annog disgyblion i fabwysiadu agwedd iach tuag at olchi dwylo.

Y llynedd, cofnodwyd tua 4,600 achos o salwch cysylltiedig â bwyd yng Nghymru. Er nad oes digon o'r achosion hyn yn cael eu cofnodi yn gyffredinol, mae tystiolaeth yn awgrymu y gellid fod wedi atal nifer ohonynt trwy weithredu mesurau hylendid bwyd syml. Mae plant, yn arbennig, yn tueddu i gael gwenwyn bwyd, ac er na fydd y rhan fwyaf ohonynt yn coginio'n rheolaidd, mae'n bwysig pwysleisio pwysigrwydd golchi dwylo ar ôl bod yn y toiled neu drin anifeiliaid anwes.

Er mwyn sicrhau bod y neges yn para y tu hwnt i oes y sebon, bydd yr ASB hefyd yn darparu posteri eglurhaol i'w harddangos mewn ystafelloedd dosbarth a thoiledau. Gall ysgolion hefyd fynd i wefan yr ASB i gael cyngor da ar ddiogelwch bwyd, neu gysylltu ag ASB Cymru'n uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth am ei gwaith mewn ysgolion.

Helen George sy'n cydlynu'r gwaith o ddosbarthu'r sebon a'r posteri. Dywed: "Mae hyn yn rhan o'n strategaeth i gyflwyno neges diogelwch bwyd mewn ysgolion. Gall golchi dwylo yn unig gyfrannu llawer at leihau'r peryg o salwch sy'n gysylltiedig â bwyd, a'n gobaith yw y bydd pob ysgol yn gweld ein cyflenwad bychan o sebonau a phosteri'n ddefnyddiol."

Gellir cael rhagor o wybodaeth am hylendid bwyd da a deg gair o gyngor yr ASB ar wefan yr ASB sef www.food.gov.uk

Cyswllt newyddion: Kathryn Corcoran (029) 2067 8915

Nodiadau i olygyddion

Sefydlwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ym mis Ebrill y llynedd ac mae Swyddfa Cymru yn atebol i'r Senedd ac i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Bydd yr ASB yn gwarchod buddiannau defnyddwyr drwy warchod tri gwerth craidd:

- rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf;

- bod yn agored a hygyrch; a

- bod yn llais annibynnol.

Ei swyddogaethau yw:

- darparu cyngor i'r cyhoedd a'r Llywodraeth ar ddiogelwch bwyd, maethiad a diet;

- gwarchod defnyddwyr trwy orfodaeth a monitro effeithiol; a

- cefnogi dewis defnyddwyr trwy labeli cywir ac ystyrlon.

ENDS
1st Floor, Southgate House,
Wood Street,
Cardiff CF10 1EW

Ffôn: 029 20 678915
Ffacs: 029 20 678918/9
Ebost: kathryn.corcoran@foodstandards.gsi.gov.uk

Back to top

See also

School children will be FSA soap stars

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

Our Sites

Find out what our other sites have to offer

Change Text Only Settings

Graphic version of this page