Food Standards Agency
Sunday 5 July 2009
Safe food and healthy eating for all banner welsh
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteFriday 19 October 2001
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi paratoi Cynllun Iaith Gymraeg sy'n nodi sut y mae'n bwriadu darparu ei gwasanaethau'n y Gymraeg. Gwahoddir sylwadau gan siaradwyr Cymraeg ac eraill a allai gael eu heffeithio gan y Cynllun.
Mae hysbysebion sy'n tynnu sylw pobl at yr ymgynghoriad wedi'u hargraffu mewn papurau newydd rhanbarthol ac mae copïau o'r ddogfen ar gael i'w darllen yn y prif lyfrgelloedd, swyddfeydd post a Chanolfannau Cynghori yng Nghymru. Mae'r cynllun drafft hefyd ar gael yn uniongyrchol gan Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru ( gweler nodiadau i Olygyddion ), neu ar wefan yr ASB yn www.foodstandards.gov.uk.
Dylid anfon sylwadau ar y cynllun i Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru erbyn dydd Gwener 30 Tachwedd fan hwyraf. Bydd adroddiad yn seiliedig ar y safbwyntiau hyn yn cael ei gyflwyno gyda'r cynllun terfynol i Fwrdd yr Iaith Gymraeg i'w gymeradwyo.
Meddai Joy Whinney, Cyfarwyddwraig ASB Cymru: "Mae gan yr ASB ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau'n y Gymraeg ac i integreiddio'r iaith i'n gweithredoedd dyddiol. Mae'n Cynllun Iaith Gymraeg drafft yn nodi sut rydym yn bwriadu gwneud hynny ac rydym yn croesawu sylwadau er mwyn iddynt gael eu cynnwys yn y cynllun terfynol a gyflwynir i'w gymeradwyo i Fwrdd yr Iaith Gymraeg."
Swyddog Cyswllt Newyddion: Kathryn Corcoran (029) 2067 8915
Nodiadau i olygyddion
Mae copïau o'r Cynllun Iaith Gymraeg drafft ar gael gan:
Alwyn Williams
Swyddog Cyswllt yr Iaith Gymraeg
Asiantaeth Safonau Bwyd
Llawr 1af
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW
Ffôn (029) 20 678905 neu e-bost Alwyn.Williams@foodstandards.gsi.gov.uk
Dylid anfon sylwadau ar y cynllun i'r cyfeiriad uchod hefyd erbyn 30 Tachwedd eleni fan hwyraf.
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
Llawr 1af , Ty Southgate,
Wood Street,
Caerdydd CF10
1EW
Ffôn: 029 20 678915
Ffacs: 029 20 678918/9
E-bost:
kathryn.corcoran@foodstandards.gsi.gov.uk
Find out what our other sites have to offer