Skip navigation

Food Standards Agency

Vegetables. Best served washed. welsh banner

AZ-Directory What's New

Diweddariad ar y taliadau ar gyfer rheolaethau cig swyddogol

Tuesday 30 June 2009

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn bwrw ati â’r broses o gyflwyno rheoliadau i sefydlu system newydd i gyfrifo taliadau ar gyfer rheolaethau swyddogol mewn ffatrïoedd cig, ar ôl i Weinidogion ym mhob un o bedair gwlad y DU gytuno ar hynny.

Yn ôl y system newydd, bydd taliadau yn seiliedig ar gost amser y broses arolygu yn y busnesau cig. Yn unol â’r gweithdrefnau Seneddol arferol, bydd y system newydd yn dod i rym ar 27 Medi yng Ngogledd Iwerddon ac ar 28 Medi ym Mhrydain.

Nid yw cynnig yr ASB i gynyddu taliadau wedi’i gyflwyno ar y cam hwn. Mae hyn yn golygu, os nad yw hyd y broses reolaethu swyddogol yn newid, ni fydd busnesau cig yn wynebu cynnydd yn eu taliadau pan gyflwynir system dalu sy’n seiliedig ar amser. Gallai taliadau fod yn llai i rai busnesau lle caiff y cyfnod rheolaethu swyddogol ei leihau.

Fel yr esboniodd Prif Weithredwr yr ASB, Tim Smith: 'Rydym ni’n hapus ein bod ni wedi cytuno ar y cynnig i droi at system dalu sy’n seiliedig ar amser. Mae hyn yn darparu sail gadarn ar gyfer y Gwasanaeth Hylendid Cig [ym Mhrydain] a DARD [yng Ngogledd Iwerddon] i barhau i gydweithio’n agos â’r diwydiant i gyflawni’r rheolaethau swyddogol yn y ffordd fwyaf effeithlon.

'Roedd hi’n glir o’n trafodaethau gyda Gweinidogion bod peth pryder ynghylch cyflwyno cynnydd o 4%, ac felly ni fydd unrhyw gynnydd mewn taliadau ar y cam hwn.'

Related links

Update on charging for official controls

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

FSA online

Find out about our different types of content

Change Text Only Settings

Graphic version of this page