Skip navigation

Food Standards Agency

Vegetables. Best served washed. welsh banner

AZ-Directory What's New

Cyhoeddi adroddiad yn dilyn Ymchwiliad Cyhoeddus E.coli

Thursday 19 March 2009

Mae adroddiad yr Ymchwiliad Cyhoeddus E.coli, a sefydlwyd i ymchwilio i’r achos E.coli 0157 yng Nghymru yn 2005, wedi’i gyhoeddi heddiw.

Hwn oedd yr achos mwyaf erioed o E.coli O157 yng Nghymru, a'r ail achos fwyaf ym Mhrydain. Effeithiodd ar dros 150 o bobl, y rhan fwyaf ohonynt yn blant mewn 44 o ysgolion ar draws pedwar awdurdod lleol. Cafodd tri deg un o bobl driniaeth ysbyty a bu farw bachgen bach pum mlwydd oed.

Mewn datganiad heddiw, meddai’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB): ‘Mae adroddiad yr Ymchwiliad Cyhoeddus yn ddogfen gynhwysfawr a bydd yr Asiantaeth yn mynd ati i’w hadolygu’n fanwl. Bydd y mater hwn yn cael ei drafod ymhellach yng nghyfarfod agored Bwrdd yr ASB fis Ebrill.’

Sefydlodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yr Ymchwiliad Cyhoeddus i ymchwilio i’r hyn a achosodd y digwyddiad. Dyma oedd ei gylch gorchwyl: ‘Cynnal ymchwiliad i’r amgylchiadau a arweiniodd at yr Achos E.coli 0157 yn ne Cymru ym mis Medi 2005 ac i’r ffordd yr ymdriniwyd â’r Achos; ac ystyried y goblygiadau ar gyfer y dyfodol a gwneud argymhellion yn unol â hynny.’

Yn y datganiad, ychwanega’r Asiantaeth: ‘Iechyd y cyhoedd yw prif flaenoriaeth yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a’r Gwasanaeth Hylendid Cig (MHS). Sefydlwyd yr ASB yn y flwyddyn 2000 i ddiogelu defnyddwyr ac rydym yn croesawu unrhyw gamau a gyflwynir i’n cynorthwyo gyda’r nod hwn. Ers 2000, mae nifer yr achosion o salwch a gludir gan fwyd wedi gostwng o bron i 20%. Mae ymrwymiad yr ASB i’r gwaith hwn yn parhau.

‘Roedd yr achos E.coli a fu yng Nghymru yn 2005 yn ddigwyddiad difrifol ond anarferol, ac mae adroddiad yr Ymchwiliad Cyhoeddus yn werthfawr wrth ein galluogi i ddeall y gyfres o ddigwyddiadau a arweiniodd at yr achosion o E.coli a gafwyd.

‘Mae gan bawb sy'n ymwneud â chynhyrchu a dosbarthu bwyd ran i’w chwarae wrth sicrhau bod bwyd yn ddiogel – o’r cynhyrchwyr bwyd i bobl yn eu cartrefi eu hunain. Pan fydd achosion prin fel yr un dan sylw yn digwydd, rhaid i ni fynd ati i ddysgu gwersi ac atgyfnerthu ein systemau ymhellach.’

Mae’r adroddiad llawn, yn ogystal â chrynodeb gweithredol yr ymchwiliad, ar gael ar wefan yr ymchwiliad drwy’r ddolen isod.

Dolenni perthnasol

Crynodeb Gweithredol yr Ymchwiliad Cyhoeddus E.coli
(External) Crynodeb - Yr Ymchwiliad Cyhoeddus i’r Achosion o E.coli O157 yn Ne Cymru ym mis Medi 2005

Datganiad gan yr Athro Hugh Pennington, Cadeirydd yr Ymchwiliad Cyhoeddus E.coli
(External) Datganiad y Cadeirydd

Adroddiad yr Ymchwiliad Cyhoeddus E.coli
(External) Darllenwch yr adroddiad llawn

Prif Swyddog Meddygol yn cyhoeddi adroddiad
(External) Darllenwch adroddiad Prif Swyddog Meddygol Cymru, 2006

Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn gweithredu ar ôl clywed am ffynhonnell bosibl yr achos E.coli:
Darllenwch ddatganiad i’r wasg yr Asiantaeth, Medi 2005 – Saesneg yn unig

Mwy am E.coli
(External) I gael rhagor o wybodaeth am E.coli, ewch i wefan ‘eatwell’, a chofiwch glicio ar ‘Cymraeg’

Related links

Report published following inquiry into 2005 outbreak of E.coli in Wales

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

FSA online

Find out about our different types of content

Change Text Only Settings

Graphic version of this page