Skip navigation

Food Standards Agency

Vegetables. Best served washed. welsh banner

AZ-Directory What's New

Cyngor ar Ddiogelwch Bwyd i Warchodwyr Plant

Monday 12 October 2009

washing hands in a sink

Mae’r Asiantaeth wedi lansio pecyn ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell’ (SFBB) yn arbennig ar gyfer gwarchodwyr plant. Mae’r pecyn yn cynnig cyngor syml a chlir ar ddiogelwch bwyd.

Mae llawer o warchodwyr plant bellach yn gorfod cydymffurfio â rheoliadau diogelwch bwyd, a dyluniwyd y pecyn hwn i’w helpu i wneud hynny gyda chyn lleied o waith papur â phosibl.

Mae’n seiliedig ar egwyddorion y pecynnau SFBB eraill, ond mae’n fyrrach, gyda chyngor wedi’i deilwra ar gyfer gwarchodwyr plant, gan gynnwys gwybodaeth ar fwydo babanod a phlant, coginio, glanhau, oeri a gofalu am blentyn sydd ag alergedd bwyd.

Fel gyda gweddill y pecynnau SFBB, mae adran dyddiadur y pecyn i warchodwyr plant yn seiliedig ar ‘gofnodi pan fo eithriad’, sy’n golygu mai dim ond os bydd problem, neu os oes unrhyw beth yn newid, y bydd gofyn i warchodwyr ysgrifennu ynddo. Mae taflen adolygu 3 mis yn eu helpu i adlewyrchu ar y misoedd olaf a nodi unrhyw broblemau parhaus gyda diogelwch bwyd.

Adnodd sydd ar gael ar-lein yn unig yw’r pecyn hwn ar hyn o bryd. Gallwch lawrlwytho copi Cymraeg drwy'r y ddolen isod neu gallwch gysylltu â’r Uned Iaith Gymraeg i archebu copïau print drwy ffonio 029 2067 8970 neu e-bostio: welsh.translation@foodstandards.gsi.gov.uk . Rydym yn gobeithio cynhyrchu copïau caled maes o law.

Mwy o gyngor ar ein gwefan bwyta’n iach - eatwell.gov.uk

(External) Cyngor ar ddiddyfnu dy fabi

(External) Cyngor ar fwydo plant

Related links

Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell i Warchodwyr Plant SFBB - Canllawiau i Warchodwyr Plant (SFBB for Childminders) Diwygiwyd Rhagfyr 2009

Download pdf  (pdf 7MB) (External) Get Adobe Acrobat reader You may need the free Acrobat Reader to view a pdf

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

FSA online

Find out about our different types of content

Change Text Only Settings

Graphic version of this page