Skip navigation

Food Standards Agency

Vegetables. Best served washed. welsh banner

AZ-Directory What's New

Cyfarfod Agored Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru: 13 Ionawr 2009

Monday 22 December 2008

FSA Wales

Dydd Mawrth 13 Ionawr 2009 - 9:15am – 13.00pm

Fel rhan o’i sesiynau agored rheolaidd, mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn cynnal cyfarfod agored ddydd Mawrth 13 Ionawr 2009 yng Nghaerdydd.

Bydd y cyfarfod yn agor gyda thrafodaeth ar y materion iechyd sy’n gysylltiedig â deiet gwael. Yna, bydd adolygiad ar waith ASB Cymru ar fentrau iechyd deietegol. Bydd cynrychiolwyr o Lywodraeth Cynulliad Cymru yn cyflwyno’r diweddaraf am fwyd mewn ysgolion, a bydd y sesiwn yn dirwyn i ben gyda chyflwyniad ar adnoddau rhyngweithiol ASB Cymru mewn ysgolion.

Mae croeso i bawb sydd â diddordeb yn y meysydd hyn, neu yng ngwaith Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn gyffredinol, fynychu’r cyfarfod hwn, i fynegi barn ar faterion sydd o bwys iddynt, ac i gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb agored.

Caiff y cyfarfod ei gynnal ar:
Lawr 10
Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
Tŷ Southgate
Wood Street
Caerdydd
CF10 1EW

Mae Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn rhoi cyngor a gwybodaeth i’r Asiantaeth Safonau Bwyd ar ei gweithrediadau yng Nghymru. Fel rhan o’i ymrwymiad i dryloywder, mae’n cynnal cyfarfodydd agored ledled y wlad yn rheolaidd.

Os hoffech fynychu’r cyfarfod hwn, cysylltwch â Helen George ar 029 2067 8999 neu anfonwch e-bost at: helen.george@foodstandards.gsi.gov.uk

Mae copi o’r agenda a gwybodaeth am sut i gofrestru neu gyflwyno cwestiwn i’r pwyllgor ar gael ar wefan yr Asiantaeth:
www.food.gov.uk/wales

Related links

WFAC 086408 - Aelodau

Download pdf  (pdf 78KB) (External) Get Adobe Acrobat reader You may need the free Acrobat Reader to view a pdf

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

FSA online

Find out about our different types of content

Change Text Only Settings

Graphic version of this page