Food Standards Agency
Saturday 4 July 2009
Safe food and healthy eating for all banner welsh
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteMonday 4 February 2008
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cyhoeddi bod Steve Garrett o Gaerdydd wedi'i benodi i'r Pwyllgor Cynghori newydd ar Ymgysylltu â Defnyddwyr (ACCE).
Rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf yw un o werthoedd craidd yr Asiantaeth, a bydd y pwyllgor newydd yn rhoi sicrwydd ansawdd i Fwrdd yr Asiantaeth o'i gwaith rhyngweithio â defnyddwyr. Bydd y pwyllgor yn adolygu ac yn asesu'r gwaith ymgysylltu a wna'r Asiantaeth gyda defnyddwyr. Mae'r wyth aelod o'r pwyllgor a'r Cadeirydd Philip Cullum yn bobl flaengar yn eu meysydd presennol a rhyngddynt maent yn cynnig gwybodaeth arbenigol ym meysydd safbwynt defnyddwyr, dadansoddi data defnyddwyr, mesur perfformiad ac arloesedd marchnata.
Bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad blynyddol i Fwrdd yr Asiantaeth. Yn ogystal â chyflwyno adroddiad ar effeithiolrwydd y ffordd y mae'r Asiantaeth yn ymgysylltu â defnydwyr, bydd yn gwneud argymhellion ar sut y gellid cryfhau'r broses ymgysylltu.
Dywedodd Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd, y Fonesig Deirdre Hutton: “Rydym yn ymrwymedig i roi'r defnyddiwr wrth wraidd yr hyn a wnawn. Bydd y pwyllgor cynghori newydd hwn yn rhoi archwiliad annibynnol o'n perfformiad ym mhob agwedd ar ein gwaith rhyngweithio â defnyddwyr. Mae ymgysylltu'n effeithiol â defnyddwyr yn hanfodol ac edrychaf ymlaen at yr effaith a gaiff y pwyllgor yn y maes pwysig hwn.”
Dywedodd Steve Garrett: “Credaf fod y Pwyllgor hwn yn gam pwysig gan yr Asiantaeth gan ei fod yn cydnabod pwysigrwydd gwrando ar bob sector o'r gymuned a chyfathrebu'n effeithiol â hwy er mwyn nodi'r prif rwystrau i fwyta deiet iach yn y wlad hon, a sut y gellir mynd i'r afael â hwy. Mae'n bleser mawr bod yn rhan ohono a gobeithiaf y bydd fy mlynyddoedd o brofiad o weithio ar lefel gymunedol gyda materion bwyd lleol yn Ne Glan yr Afon yn helpu i wneud cyfraniad defnyddiol.”
Cyswllt ar gyfer newyddion: 029 2067 8916
Cefndir:
• Mae Steve Garrett yn byw ac yn gweithio yn Ne Glan yr Afon, cymdogaeth amrywiol ei diwylliant yng nghanol dinas Caerdydd. Fel sefydlydd a Chadeirydd Cymdeithas Marchnad Gymunedol Glan yr Afon (RCMA) a Chyfarwyddwr Menter Gymdeithasol RCMA Cyf., mae wedi llywio Marchnad Glan yr Afon drwy naw mlynedd o dwf a datblygiad, gan gynnwys nifer o weithgareddau deilliedig fel: sefydlu Marchnad Bwyd Go Iawn y Rhath; trefnu rhaglen allgymorth ysgolion RCMA; ysgrifennu Pecyn Cymorth Marchnad Ffermwyr Trefol RCMA; ac (ar hyn o bryd) sefydlu Rhwydwaith Bwyd ac Iechyd De Caerdydd a Gardd Fasnachol RCMA - menter arddwriaeth ddwys ger Caerdydd. Mae Steve wedi ennill gwobr y Sefydliad ar gyfer Entrepreneuriaid Cymdeithasol, ac yn ddiweddar cefnogodd grŵp o ferched lleol wrth iddynt sefydlu Cwmni Bwyd Cydweithredol Cymuned Glan yr Afon. Roedd yn un o aelodau cyntaf Marchnadoedd Ffermwyr yng Nghymru, mae ar Fforwm Partneriaeth Bwyd-amaeth y Cynulliad Cymru, Grŵp Strategaeth Bwyd ac Iechyd Caerdydd ac mae'n aelod o Gomisiwn Datblygu Cynaliadwy y DU.
• Mae Philip Cullum yn Brif Weithredwr Dros Dro'r Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol. Mae'n aelod o Gyngor Cynghorol Risg a Rheoliadau'r Llywodraeth ac ef yw cadeirydd cyntaf Pwyllgor Cynghori newydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar Ymgysylltu â Defnyddwyr. Mae diddordebau polisi personol yn cynnwys gwasanaeth cwsmeriaid, rheoleiddio a gwasanaethau cyhoeddus ac mae ei gyhoeddiadau'n cynnwys 'The stupid company: how British businesses throw away money by alienating consumers’ a ‘Better regulation: the consumer contribution'.
Cyn ymuno â'r Cyngor Defnyddwyr Cenedlaethol, roedd Phillip yn Gyfarwyddwr Gweithredol yn Opinion Leader Research, lle roedd ei gleientiaid yn cynnwys Vodafone, y Swyddfa Gartref a'r Gymuned undebau. Cyn hynny, roedd yn Bartner Cyswllt yn Accenture lle roedd yn gyfrifol am greu syniadau newydd wedi'u hanelu at Brif Swyddogion Gweithredol ar y lefel uchaf a gwneuthurwyr polisi. Mae Philip wedi gweithio gyda Which? hefyd lle roedd yn Bennaeth Polisi. Bu'n Aelod o Fwrdd cymdeithas dai flaengar ac yn Gadeirydd sefydliad di-elw sy'n darparu gwasanaethau iechyd meddwl, ac ar hyn o bryd mae'n rhoi cyngor i elusen addysg awtistiaeth ar ei strategaeth gyfathrebu.
Find out what our other sites have to offer