Food Standards Agency
Vegetables. Best served washed. welsh banner
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteAbout us forks
Mae'r pecyn rheoli diogelwch bwyd hwn wedi'i datblygu i helpu busnesau manwerthu ledled y DU gydymffurfio â'r rheoliadau hylendid bwyd a gafodd eu cyflwyno ym mis Ionawr 2006.
Gallwch lawrlwytho'r pecyn cyfan ar fformat pdf, a hynny drwy'r ddolen isod. Er mai un dogfen sydd i'w gweld yma, mae'r pecyn wedi'i rannu'n adrannau defnyddiol - ac mae teitlau'r adrannau wedi'u nodi isod.
Mae canllaw DVD hefyd ar gael i'ch helpu i ddefnyddio'r pecyn a hyfforddi eich staff, ac mae'r DVD hwn ar gael mewn 16 o wahanol ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg. Mae'r DVD wedi'i rannu ddwy - un rhan i staff a'r llall i reolwyr, a bydd y naill ran a'r llall yn para rhyw 15 munud. Gallwch ei wylio ar-lein drwy food.gov.uk/sfbbtraining neu gallwch lawrlwytho copi i'ch cyfrifiadur. Mae'r DVD hefyd ar gael gan Adran Gyhoeddiadau'r ASB (manylion isod).
Rydym newydd orffen diwygio'r pecyn hwn a bydd copïau print newydd sbon ar gael maes o law. Os hoffech gael copi o'r pecyn neu'r DVD, ffoniwch Cyhoeddiadau'r ASB ar 0845 606 0667 neu anfonwch e-bost at foodstandards@ecgroup.co.uk .
Os hoffech drafod y mater yn Gymraeg, mae croeso i chi gysylltu â'r Uned Iaith Gymraeg drwy ffonio 02920 67 8970 neu e-bostio welsh.translation@foodstandards.gsi.gov.uk
Gallwch archebu tudalennau ychwanegol ar gyfer y dyddiadur oddi wrth Cyhoeddiadau'r ASB, ar y manylion uchod. Dylech gadw'r holl dudalennau yr ydych wedi'u llenwi yn ddiogel ar gyfer ymweliadau swyddog gorfodi eich awdurdod lleol. Mae'n bosibl y bydd y swyddog am weld y tudalennau hyn. Yn ystod yr ymweliad, gofynnwch i'r swyddog am ba hyd y mae angen i chi gadw'r tudalennau hyn.
Mae'r pecyn hwn ar gyfer busnesau manwerthu bach sy'n gwerthu bwyd, gan gynnwys unrhyw fwyd sydd anegn ei gadw'n oer er mwyn bod yn ddiogel, fel llaeth. Mae'r rhain yn cynnwys siopau bwyd bach, siopau cornel, a siopau melysion, tobaco a phapurau newydd. Mae'r pecyn yn cynnwys yr adrannau canlynol. Ewch i waelod y dudalen i weld y fersiwn pdf lawn.
HACCP cross-contamination Croeshalogi
HACCP cleaning Glanhau
HACCP chilling Oeri
HACCP management Rheoli
HACCP cooking Coginio a pharatoi
HACCP diary Dyddiadur
Download pdf
(pdf 4MB) (External) Get Adobe Acrobat reader You may need the free Acrobat Reader to view a pdfFind out about our different types of content