Skip navigation

Food Standards Agency

Vegetables. Best served washed. welsh banner

AZ-Directory What's New

Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell i Warchodwyr Plant

child's hand in bowl of food

Mae diogelwch bwyd yn bwysig iawn i warchodwyr plant, megis gofalwyr plant, gan fod plant yn grŵp sy’n agored i niwed, sy’n golygu bod gwenwyn bwyd yn llawer mwy difrifol iddyn nhw o’i gymharu ag oedolion.

Ers 2006, mae gofyn i lawer o warchodwyr plant gydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd. Mae’r rheoliadau yn nodi bod gofyn iddynt gadw cofnod o beth maent yn ei wneud i gadw bwyd yn ddiogel. Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cynhyrchu pecyn arbennig o’r enw ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell i warchodwyr plant’, sy’n galluogi gwarchodwyr plant i wneud hyn gyda chyn lleied o waith papur â phosibl.

Bydd gofyn hefyd i’r gwarchodwyr plant hynny y mae’n rhaid iddynt gydymffurfio â’r rheoliadau hyn gofrestru fel ‘gweithredwr busnes bwyd’ gyda’u hawdurdod lleol. Nid yw’r rheoliadau hyn yn gymwys i bob gwarchodwr plant - mae’n dibynnu ar p’un a ydynt yn darparu byrbrydau neu brydau i’r plant yn eu gofal yn rheolaidd. Mae’r Asiantaeth wedi cynhyrchu canllawiau ar gyfer gofalwyr plant, sy’n esbonio sut y mae dweud a yw’n ofynnol iddynt gydymffurfio â’r rheoliadau ai peidio. Mae'r rhain ar gael i'w lawrlwytho isod.

Mae'r pecyn wrthi'n cael ei ddiwygio ar hyn o bryd, a bydd copïau print newydd sbon ar gael o fis Mawrth 2010 ymlaen. Os hoffech gael copi o'r pecyn neu'r DVD, ffoniwch Cyhoeddiadau'r ASB ar 0845 606 0667 neu anfonwch e-bost at foodstandards@ecgroup.co.uk .

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddiogelwch bwyd, neu ph’un a yw ‘Bwyd mwy diogel, busnes gwell i warchodwyr plant’ yn addas i chi, cysylltwch â gwasanaeth iechyd yr amgylchedd eich awdurdod lleol am gyngor.

Rhagor o wybodaeth ar ein gwefan bwyta'n iach - eatwell.gov.uk

(External) Mwy am ein 8 awgrym bwyta’n iach

(External) Mwy am y plât bwyta'n iach

Related links

(4) Eich babi: Bwydo eich babi yn ystod y flwyddyn gyntaf (Your Baby) - Ar-lein yn unig Diwygiwyd Mawrth 2010

Download pdf  (pdf 945KB) (5) Bwydo eich plentyn bach (Feeding your Toddler) - Ar-lein yn unig Diwygiwyd Chwefror 2009

Download pdf  (pdf 623KB) (6) Bwydo eich plentyn sy'n tyfu (Feeding your growing child) Diwygiwyd Hydref 2009

Download pdf  (pdf 690KB) Cyngor ar Ddiogelwch Bwyd i Warchodwyr Plant Cyngor i Ofalwyr Plant Cofrestredig sy’n Gweithio ar Safle Domestig ac yn Gweithredu fel Busnes Bwyd

Download pdf  (pdf 128KB) SFBB - Canllawiau i Warchodwyr Plant (SFBB for Childminders) Diwygiwyd Rhagfyr 2009

Download pdf  (pdf 7MB) (External) Get Adobe Acrobat reader You may need the free Acrobat Reader to view a pdf

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

FSA online

Find out about our different types of content

Change Text Only Settings

Graphic version of this page