Skip navigation

Food Standards Agency

Vegetables. Best served washed. welsh banner

AZ-Directory What's New

English

Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell (SFBB)

washing hands in a sink

Mae Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell (SFBB) yn becyn sy'n cynnig ffordd arloesol ac ymarferol i reoli diogelwch bwyd. Nod y pecyn hwn yw helpu busnesau bach i roi gweithdrefnau rheoli diogelwch bwyd ar waith, a'u helpu hefyd i gydymffurfio â rheoliadau hylendid bwyd.

Mwy am y pecynnau

‘'Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell'’

Mae nifer o becynnau SFBB ar gael, gyda phob un wedi'i ddylunio i ddiwallu anghenion penodol gwahanol fathau o fusnesau bwyd. Cynigir pecyn i fusnesau arlwyo bach, busnesau manwerthu bach a bwytai a busnesau tecawê sy'n paratoi gwahanol fathau o fwydydd. Ceir hefyd becyn llai i gartrefi gofal, i'w ddefnyddio law yn llaw â'r pecyn i arlwywyr a phecyn arbennig ar gyfer gofalwyr plant.

Yn ogystal â'r pecynnau SFBB, rydym wedi cyhoeddi cyflwyniad i hylendid bwyd 'Gweithio gyda bwyd? Yr hyn y mae angen i chi ei wybod cyn dechrau' yn ogystal â DVD Cymraeg, er mwyn helpu busnesau bach i ddefnyddio SFBB a hyfforddi eu staff ar y pecynnau.

Os hoffech chi gael un o'r pecynnau SFBB, neu gopi o'r DVD, ffoniwch Cyhoeddiadau'r Asiantaeth Safonau Bwyd ar 0845 606 0667, e-bost: foodstandards@ecgroup.co.uk . Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y pecynnau Cymraeg, mae croeso i chi gysylltu ag Uned Iaith Gymraeg yr Asiantaeth drwy ffonio 02920 67 8969 neu e-bostio welsh.language.translation.unit@foodstandards.gsi.gov.uk .

Find out more

Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell i Arlwywyr

Nod y pecyn hwn yw helpu busnesau i reoli diogelwch bwyd. Mae wedi'i ddatblygu ar gyfer busnesau arlwyo bach, fel bwytai, caffis a busnesau tecawê er mwyn eu helpu i gydymffurfio â'r rheoliadau hylendid bwyd a gafodd eu cyflwyno ym mis Ionawr 2006.

Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell i Fanwerthwyr

Mae'r pecyn rheoli diogelwch bwyd hwn wedi'i datblygu i helpu busnesau manwerthu ledled y DU gydymffurfio â'r rheoliadau hylendid bwyd a gafodd eu cyflwyno ym mis Ionawr 2006.

Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell i Gartrefi Gofal

Rydym wedi creu atodiad Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell (SFBB) i helpu arlwywyr a staff sy'n gweithio mewn cartrefi gofal bach i baratoi a choginio bwyd mwy diogel i'r bobl sy'n byw yno.

Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell i Warchodwyr Plant

Mae diogelwch bwyd yn bwysig iawn i warchodwyr plant, megis gofalwyr plant, gan fod plant yn grŵp sy’n agored i niwed, sy’n golygu bod gwenwyn bwyd yn llawer mwy difrifol iddyn nhw o’i gymharu ag oedolion.

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

FSA online

Find out about our different types of content

Change Text Only Settings

Graphic version of this page