Food Standards Agency
Sunday 5 July 2009
Safe food and healthy eating for all banner welsh
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this siteTuesday 11 April 2006
Yn dilyn damwain Chernobyl ym 1986, gosodwyd, o dan Ddeddf Diogelu Bwyd a'r Amgylchedd 1985, gyfyngiadau ar symud, gwerthu a chyflenwi defaid yn yr ardaloedd hynny o'r Deyrnas Unedig lle y gallai lefelau'r llygru mewn cig defaid beri risg i iechyd y cyhoedd.
Yng ngogledd Cymru, o'r 5,100 o ddaliadau a'r 2,000,000 o ddefaid y cyfyngwyd arnynt yn wreiddiol wedi'r ddamwain, mae 359 daliad a 180,000 o ddefaid yn dal oddi mewn i'r ardaloedd cyfyngedig.
Cynhelir Arolygon Arbrofol (arolygon rhychwantu) ar y ffermydd defaid hynny a ddewiswyd sy'n destun cyfyngiadau yn dilyn y ddamwain yn Chernobyl ym 1986, gyda'r nôd o bennu a yw'n briodol cynnal Arolygon Datgyfyngu ar breiddiau cyfan (gweler paragraff 9) a allai arwain at godi'r cyfyngiadau. Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau'r Arolygon Arbrofol a gynhaliwyd yn 2005.
Cynhaliwyd yr arolygon ar bedair fferm yn rhannau gogleddol yr ardaloedd cyfyngedig ar ddechrau mis Gorffennaf 2005. Aethpwyd ati i fonitro 40 o ŵyn ar bob fferm, gan gymharu amcangyfrif o lefelau'r llygriad radiocaesiwm yn eu cyhyrau â'r Lefel Gweithredu Gweithredol o 645 Bq/kg, a ddefnyddir i atal cig defaid sy'n uwch na'r terfyn o 1,000 Bq/kg rhag cael mynediad i'r gadwyn fwyd.
Nododd yr arolygon ŵyn â chanddynt lefelau radiocaesiwm amcangyfrifedig a oedd yn uwch na'r Lefel Gweithredu Gweithredol ar dair o'r pedair fferm. Ar ben hyn, gan nad oedd unrhyw ffiniau a allai wrthsefyll stoc, rhwng y pedair fferm, ni chynhaliwyd Arolygon Datgyfyngu wedi hynny ar breiddiau cyfan. Argymhellir nodi ffermydd eraill ar gyfer datgyfyngu posibl yn 2006 a bydd 40 o Arolygon Arbrofol ar ŵyn, ac Arolygon Datgyfyngu ar breiddiau cyfan, yn cael eu cynnal fel y bo'n briodol.
Back to topDownload pdf
(pdf 98KB) (External) Get Adobe Acrobat reader You may need the free Acrobat Reader to view a pdfFind out what our other sites have to offer