Food Standards Agency
You are here:
Access tools
FSA in Wales
Cafodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru ei sefydlu ym mis Ebrill 2000. Ein gobaith ni yw bod pobl yng Nghymru yn troi atom ni er mwyn cael cyngor a gwybodaeth dibynadwy am fwyd. Mae ein dylanwad yn ymestyn 'o'r fferm i'r fforc' - mewn geiriau eraill, o'r adeg y mae'r bwyd yn cael ei dyfu neu ei weithgynhyrchu nes iddo gyrraedd eich plât. Rydym yn eich rhoi chi, ddefnyddwyr Cymru, yn gyntaf.
"O'r fferm i'r fforc"
Mae gan staff yr ASB yng Nghymru ystod eang o arbenigeddau polisi a phroffesiynol. O'n swyddfa yng nghanol Caerdydd, rydym yn gwneud gwaith amrywiol. Roedd y gwaith hwn yn arfer cael ei wneud gan staff iechyd cyhoeddus ac amaethyddiaeth y Swyddfa Gymreig, ond ym 1999, cafodd pwerau diogelwch a safonau bwyd eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r ASB yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac i'r Senedd drwy'r Gweinidogion Iechyd. Mae'n fantais i ni gael gweithio yng nghyd-destun datganoli gan fod hyn yn golygu ein bod ni'n gallu ystyried anghenion a materion sy'n ymwneud yn benodol â Chymru, ac eto sicrhau ein bod ni'n gweithio mewn ffordd gyson â gweddill y DU. Mae hyn yn bwysig gan nad yw diogelwch bwyd, wrth gwrs, yn cydnabod ffiniau gwleidyddol na daearyddol.
Drwy werthoedd craidd yr Asiantaeth, rydym yn gwarchod defnyddwyr Cymru. Rydym yn rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf; rydym yn agored a hygyrch; ac mae gennym ni lais annibynnol. Rydym yn gwneud ein gwaith yn agored, ac rydym yn gwneud penderfyniadau mewn ffordd agored ac eglur.
Mae ein gwaith yn cael ei oruchwylio gan
Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru
. Sefydlwyd y Pwyllgor i roi cyngor a gwybodaeth i'r Asiantaeth yng Nghymru.
John Spence yw'r cadeirydd, yn ogystal ag aelod Cymru o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae cyfarfodydd pwyllgor agored yn cael eu cynnal bob rhyw dri mis ar hyd a lled y wlad, ac mae hyn yn enghraifft o ymrwymiad ASB Cymru i weithio'n agored.
Mae gan y Pwyllgor wyth aelod arall, sy’n cynnig sylfaen gadarn o wybodaeth am faterion bwyd a materion sy’n gysylltiedig â bwyd. Mae bywgraffiadau'r holl aelodau ar y wefan hon. Cliciwch
yma
i ddysgu mwy am yr aelodau.
Mae'r ASB yn rhoi cyngor a gwybodaeth i'r cyhoedd a'r Llywodraeth ar ddiogelwch bwyd, a hynny o'r fferm i'r fforc. Mae hefyd yn diogelu defnyddwyr drwy orfodi a monitro bwyd yn effeithiol.
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran o'r Llywodraeth heb Weinidog sy'n cael ei harwain gan Fwrdd yn hytrach nag yn uniongyrchol gan Weinidogion.
Am wybod mwy am ddiogelwch bwyd a llawer, llawer mwy? Dyma restr gynhwysfawr o fanylion staff yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, gan gynnwys rhifau ffôn a chyfeiriadau e-bost.
Dolenni at wefannau sefydliadau allanol. Nid oes gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys gwefannau allanol.
Mae gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd werthoedd craidd sy'n llywio pob un o'i phenderfyniadau. Mae hefyd yn gweithio o fewn cyfres o bolisïau ac ymrwymiadau sy'n cael eu hadlewyrchu yn ei harferion gweithio. Mae'r adran hon yn disgrifio ein gwerthoedd, ein polisïau a'n hymrwymiadau a'r modd yr ydym ni'n adrodd arnynt.
Cyngor ar sut i fanteisio i'r eithaf ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd gan gynnwys cyngor ar osodiadau porwr a gwybodaeth am safonau hygyrchedd.
Mae Cynllun Iaith Gymraeg yr ASB yn disgrifio pa wasanaethau yr ydym yn eu darparu yn Gymraeg a sut a phryd y caiff y gwasanaethau hynny eu darparu. Mae ein polisi iaith yn diwallu gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur yr iaith Gymraeg 2011 .
Prif rôl Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru yw cynnig cyngor a gwybodaeth i'r Asiantaeth am faterion sy'n ymwneud â'i swyddogaethau, gan gynnwys materion penodol sy'n effeithio ar Gymru.
O dro i dro, bydd yr Asiantaeth yn hysbysebu amryw swyddi ar draws gwahanol raddau a disgyblaethau, a hynny drwy gystadleuaeth agored. Pan fydd swydd yn dod yn wag, bydd yn cael ei hysbysebu naill ai yn y wasg genedlaethol neu’r wasg arbenigol briodol. Bydd hefyd yn cael ei hysbysebu ar y wefan hon.
© Crown Copyright