Food Standards Agency
Vegetables. Best served washed. welsh banner
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this sitechickens live
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd, Cyngor Dofednod Prydain, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol wedi paratoi taflen i helpu perchnogion fferm, eu rheolwyr a’u gweithwyr i leihau gweddillion nicarbazin mewn ieir drwy ddefnyddio systemau gwell ar gyfer storio a dosbarthu bwyd anifeiliaid.
Mae nicarbazin, meddyginiaeth sy’n cael ei hychwanegu at fwyd, yn cael ei ddefnyddio i drin cocsidiosis, clefyd gwanychol mewn dofednod.
Mae nicarbazin, meddyginiaeth sy’n cael ei hychwanegu at fwyd, yn cael ei ddefnyddio i drin cocsidiosis, clefyd gwanychol mewn dofednod.
Mae’r daflen i’w gweld trwy’r ddolen gyswllt isod, a gellir ei hargraffu fel poster. Paratowyd y daflen ar ôl i’r Llywodraeth a’r diwydiant gyhoeddi adroddiad ar y cyd ‘Reducing the incidence and levels of nicarbazin residues in British chicken’ ym mis Mai 2008.
Dyma brif ganllawiau’r daflen:
Mae’r cyngor hwn yn rhan o ymdrechion parhaus yr Asiantaeth i annog ffermwyr dofednod i fabwysiadu arferion da er mwyn helpu i godi rhagor o ymwybyddiaeth o nicarbazin ac annog y diwydiant i ddilyn arferion da. Y nod yw lleihau’r lefelau a’r achosion o nicarbazin sy’n dod i’r fei dan raglen cadw gwyliadwriaeth statudol y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol.
Cocsidiostat sy’n cael ei ddefnyddio i drin cocsidiosis, clefyd protosoaiaid, sy’n gallu gwanhau neu hyd yn oed ladd ieir. Mae’n cael ei ddefnyddio fel ychwanegyn bwyd i reoli’r clefyd ar adeg dyngedfennol bwysig ym mywydau’r ieir, ond ni ddylai gael ei ddefnyddio o fewn 5 diwrnod i ladd yr ieir. Mae hyn yn sicrhau nad oes gweddillion arwyddocaol mewn ieir sydd i’w bwyta gan bobl. Mae’r un faint o nicarbazin a narasin, cocsidiostat arall, yn cael eu cyfuno mewn Maxiban, yr unig gynnyrch wedi’i drwyddedu yn y DU sy’n cynnwys nicarbazin.
Er bod gweddillion i’w canfod mewn cig dofednod, maen nhw fwyaf cyffredin mewn afu/iau dofednod. Nid yw’r lefelau hyn yn peri perygl i ddiogelwch bwyd, ond mae modd eu hosgoi drwy ddilyn arferion ffermio da.
200μg/kg yw’r lefel gweithredu ar weddillion yn y DU, sy’n seiliedig ar ystyriaethau rhyngwladol Cyd-bwyllgor Arbenigol ar Ychwanegion Bwyd y Sefydliad Bwyd Amaeth a Sefydliad Iechyd y Byd. Os bydd gweddillion o dros 1000μg/kg yn cael eu canfod, yna bydd yr Arolygiaeth Meddyginiaethau Anifeiliaid yn cynnal ymchwiliad ar y fferm gan fod y swm hwn yn awgrymu bod y system fwydo yn ddiffygiol. Cafodd yr holl weddillion a ganfuwyd, gan gynnwys rhai o dan 200μg/kg, eu hystyried yn yr ymchwiliad diweddar hwn, sy’n golygu bod llawer mwy o ddata ar gael i asesu’r ffactorau risg.
Download pdf
(pdf 157KB) (External) Get Adobe Acrobat reader You may need the free Acrobat Reader to view a pdfFind out about our different types of content