Food Standards Agency
Vegetables. Best served washed. welsh banner
AZ-Directory
What's NewRSS
What is RSS?Listen
Listen to this sitelamb
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd yn gyfrifol am wella diogelwch bwyd ym mhob rhan o'r gadwyn fwyd. Mae hyn yn cynnwys gwella hylendid ar y fferm a sicrhau nad yw iechyd pobl yn cael ei beryglu o ganlyniad i'r hyn sy'n cael ei fwydo i anifeiliaid.
Mae mwy o wybodaeth ar gael isod...
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi creu taflen i ffermwyr, yn rhoi cyngor i’w helpu i ddiogelu eu da byw, eu busnes a’r DU rhag gwenwyn plwm. Mae digwyddiadau gwenwyn plwm yn cynyddu yn ystod y gwanwyn, pan gaiff anifeiliaid eu troi allan.
Er 1 Ionawr 2010, mae’n ofynnol yn ôl deddfwriaeth hylendid bwyd yr UE i weithredwyr lladd-dai ‘geisio, derbyn, gwirio a gweithredu ar’ wybodaeth am y gadwyn fwyd (FCI) ar gyfer yr holl wartheg, defaid a geifr sy’n cael eu hanfon i’w lladd er mwyn i bobl eu bwyta.
Ers mis Ionawr 2006, mae’n ofynnol bod Gwybodaeth am y Gadwyn Fwyd (FCI) yn cael ei darparu ar gyfer dofednod i’w bwyta gan bobl.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd, Cyngor Dofednod Prydain, Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a’r Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol wedi paratoi taflen i helpu perchnogion fferm, eu rheolwyr a’u gweithwyr i leihau gweddillion nicarbazin mewn ieir drwy ddefnyddio systemau gwell ar gyfer storio a dosbarthu bwyd anifeiliaid.
Find out about our different types of content