Skip navigation

Food Standards Agency

Saturday 4 July 2009

Safe food and healthy eating for all banner welsh

AZ-Directory What's New

Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Tuesday 30 October 2001

Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Cadeirydd – John Spence

Cyn ei ymddeoliad yn 2003, bu John Spence yn gweithio am dros 36 o flynyddoedd gyda llywodraeth leol yng Nghymru a Lloegr a rhan sylweddol o hynny ar lefel uwch a strategol mewn Awdurdodau Dosbarth ac, yn fwy diweddar, Awdurdodau Unedol.

Wedi cyfnod llwyddiannus fel Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Iechyd yn awdurdod unedol Abertawe, lle y goruchwyliodd nifer o newidiadau strwythurol cymhleth, cafodd gynnig swydd newydd fel Dirprwy Brif Weithredwr, cyn symud ymlaen i fod yn Brif Weithredwr dros dro y Cyngor. Yn ystod y cyfnod hwn, cyflwynodd broses cynllunio corfforaethol ledled yr awdurdod law yn llaw â system rheoli perfformiad a hunan arfarnu.

Mae John wedi bod yn ymgynghorydd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac yn gyn-gadeirydd ar Dîm Gweithredu ar Gyffuriau ac Alcohol rhanbarthol yng Nghymru. Mae hefyd wedi bod yn ymgynghorydd i Fwrdd Adolygu Iechyd y Cyhoedd Prif Swyddog Meddygol y Cynulliad ac wedi gwasanaethu ar nifer o gyrff cynghori cenedlaethol. Mae’n gyn-lywydd ar Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd ac wedi bod yn Gadeirydd ar Gydweithrediaeth Cymru dros Iechyd a'r Amgylchedd a Chymdeithas Swyddogion Diogelu’r Cyhoedd (Cymru).

Ers ymddeol, mae John yn parhau â’i waith gyda sefydliadau yn y sector cyhoeddus fel ymgynghorydd yng Nghymru (yn cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru), Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Back to top

Ms Kate Hovers

Mae Kate Hovers yn Filfeddyg wedi’i lleoli yn ardal Aberhonddu. Fe raddiodd o Lerpwl yn 1983 ac ennill tystysgrif mewn iechyd a chynhyrchu defaid yn 1996. Bu’n rhedeg ei phractis rhywogaethau cymysg ei hun am 13 mlynedd. Mae nawr yn gweithio fel ymgynghorydd defaid, milfeddyg locwm ac ymgynghorydd milfeddygol rhan amser ar anifeiliaid mawr i gwmni fferyllol. Mae’n ysgrifennu ambell i erthygl ar gyfer y wasg ffermio ac yn rhoi sgyrsiau, fel arfer ar iechyd defaid a meddyginiaeth amddiffynnol. Mae hi’n gyn-arweinydd ar Gymdeithas y Milfeddygon Defaid ac adran De Cymru o Gymdeithas Milfeddygon Prydain. Mae’n byw ac yn helpu ar fferm ddefaid ei phartner ym Mannau Brycheiniog.

Back to top

Mr Andrew Johnson

Mae gan Mr Johnson lond gwlad o wybodaeth am y diwydiant bwyd, ac yntau wedi bod yn prynu nwyddau ar ran dwy archfarchnad enwog ers dros 18 mlynedd. Bu’n gysylltiedig â datblygu strategaethau i wella’r gadwyn fwyd, safonau lles anifeiliaid a dewis defnyddwyr. Mae Andrew, sy’n byw yn y brifddinas, yn rhannu’i ddyletswyddau rhwng magu ei ferch ysgol a gwneud gwaith ymgynghorol rhan-amser ar ran y diwydiant bwyd ffres.

Back to top

Dr Louise Fielding

Pennaeth Adran Gwyddorau Bywyd Cymhwysol yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Caerdydd, Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd yw Louise Fielding. Enillodd Dr Fielding radd BSc (Anrhydedd) mewn Technoleg Bwyd (1990) a PhD mewn Microbioleg Bwyd (1995) o Brifysgol Reading. Mae'n addysgu israddedigion ac ôl-raddedigion mewn hylendid a microbioleg bwyd, biotechnoleg bwyd, prosesu bwyd a diogelwch bwyd cymhwysol. Mae Dr Fielding hefyd yn goruchwylio nifer o ymchwilwyr mewn meysydd fel dadlygru bioaerosol, systemau rheoli ansawdd mewn busnesau cynhyrchu bwyd bach ac agweddau cymhwysol ar lanhau a dadlygru.

Mae Dr Fielding yn archwilydd trydydd parti cymwys i Safon Bwyd Byd-eang Consortiwm Manwerthu Prydain. Mae'n Gymrawd y Sefydliad Gwyddoniaeth a Thechnoleg Bwyd, yn aelod o bwyllgor Grŵp Datblygu Proffesiynol Ansawdd a Diogelwch Dŵr y Gymdeithas Ryngwladol er Diogelwch Bwyd (IAFP) ac yn Is-lywydd cangen yr IAFP yn y Deyrnas Unedig. Mae hefyd yn aelod o'r Gymdeithas ar gyfer Microbioleg Gymhwysol a Chymdeithas Microbioleg Cymru.

Back to top

Mrs Katie Palmer

Fel Swyddog Arweiniol Prosiectau Bwyd adventa Cyngor Sir Fynwy, Katie oedd yn gyfrifol am arwain prosiectau bwyd busnesau a chymunedau. Bu’n gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cynlluniau peilot ac i sicrhau cyllid ar gyfer agwedd “ysgol gyfan” at brydau ysgol yn Sir Fynwy. Roedd yn rhan allweddol o’r gwaith o ddatblygu’r gadwyn fwyd leol, gan annog busnesau a chymunedau lleol i rwydweithio a defnyddio cynnyrch lleol.

Yn ystod ei phum mlynedd yn y diwydiant llaeth rhyngwladol bu Katie’n gweithio gyda nifer o fusnesau bwyd amlwg i ddatblygu cynhyrchion newydd a’u cyflwyno i’r farchnad. Roedd ei swyddogaeth datblygu busnes yn Volac International yn gofyn iddi ddefnyddio sgiliau gwyddoniaeth technegol a marchnata i ddatblygu’r farchnad ar gyfer protein maidd yn Ewrop ac America. Yn y swydd hon, datblygodd ddealltwriaeth gref o ddeddfwriaeth bwyd, yn enwedig yn ystod argyfwng clwy’r traed a’r genau yn y DU pan gafodd rheoliadau bwyd eu tynhau’n sylweddol.

Mae gan Katie radd dosbarth cyntaf mewn Bioleg a gradd Meistr Gwyddoniaeth mewn Maethiad ac mae’n aelod o’r Gymdeithas Faethiad. Mae’n hoff o goginio, mynd allan i fwyta a rhannu’r pleserau hyn gyda’i theulu.

Fel aelod o Grŵp Cynghori ar Fwyd a Diod Cynulliad Cymru, mae Katie yn gyfarwydd iawn â’r Diwydiant Bwyd yng Nghymru. Mae ganddi hefyd radd dosbarth cyntaf mewn Bioleg, Gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth ym maes Maeth ac mae’n aelod o’r Gymdeithas Faeth.

Back to top

Mr Derek Morgan

Ffermwr cig eidion a defaid ucheldir yw Derek, sy’n gyfrifol am redeg fferm ucheldir deuluol o ddydd i ddydd yn Nyffryn Gwy uchaf gan fagu defaid Cymreig a gwartheg duon pedigri Cymreig. Ef yw Cadeirydd pwyllgor ffermio’r bryniau Undeb Amaethwyr Cymru sy’n cynrychioli’r undeb ar ystod eang o grwpiau rhanddeiliaid gyda phwyslais penodol ar faterion yn ymwneud ag iechyd a lles anifeiliaid, olrhain anifeiliaid, gwybodaeth am enseffalopathïau Sbyngffurf Trosglwyddadwy a’r gadwyn fwyd.

Mae Derek yn aelod ac yn gadeirydd Fforwm yr Ucheldir Llywodraeth Cynulliad Cymru sy’n cynghori ar faterion yn ymwneud â materion yr ucheldir. Ef oedd un o gyfranogwyr cyntaf ffermydd Arddangos Adnoddau Technolegol Ryngweithiol. Mae Derek yn ysgolhaig ym maes strategaeth defaid Cymreig ac ymwelodd â Seland Newydd ym 1999 gan deithio i’r ddwy ynys gan ymchwilio i raglenni ymchwil ar sawl fferm.

Ef yw aelod gwreiddiol, cyfarwyddwr a chadeirydd presennol Cymdeithas Cŵn Defaid Cymru, a sefydlwyd ym 1997, i achub y ci defaid Cymreig cynhenid. Mae hefyd yn aelod o fwrdd prosiect hyatid Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Back to top

Steve Bolchover

Gwasanaethodd Steve Bolchover ar lefel Prif Swyddog mewn llywodraeth leol am dros 20 mlynedd nes iddo ymddeol yn 2005. Daeth o Gyngor Rhanbarthol Strathclyde yn wreiddiol i fod yn Swyddog Safonau Masnach Sirol ar gyfer Gorllewin Morgannwg ac yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996 daeth yn bennaeth gwasanaeth iechyd yr amgylchedd a safonau masnach yng Nghastell-nedd Port Talbot. Mae ganddo 35 mlynedd o brofiad o weithio ym maes safonau masnach a diogelu defnyddwyr. Treuliodd hefyd bedair blynedd yn gweithio gyda LACOTS (LACORS bellach), corff canolog llywodraeth leol, yn helpu i gyflwyno systemau newydd i’r DU ar gyfer rheoli nwyddau wedi eu pecynnu, a bu’n gynghorydd i LACORS a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Ers ymddeol bu’n adolygydd lleyg i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.

Mae ganddo radd mewn Söoleg o Brifysgol Rhydychen a gradd Meistr mewn Gweinyddu Busnes o Brifysgol Strathclyde. Mae ganddo ddiddordeb mewn materion amgylcheddol ac mae’n ymwneud â’r materion hyn, ef yw cadeirydd bwrdd ymddiriedolwyr Canolfan yr Amgylchedd Abertawe, ac mae’n agos gysylltiedig â gwaith bioamrywiaeth yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae’n entomolegydd amatur brwd, ef yw cofnodydd Sir Forgannwg ar gyfer Coleoptera. Mae’n Rotariad hefyd ac mae’n agos gysylltiedig â materion gwleidyddol a chymunedol lleol, ef yw cadeirydd pwyllgor rheoli ei neuadd gymunedol leol, ac ef yw cadeirydd y gymdeithas efeillio leol.

Yn ei amser hamdden mae’n mwynhau darllen, tai chi, canu caneuon clasurol ar y gitâr, bwyd a diod da, gweithio gyda phren ac amser gyda’i deulu.

Back to top

Mrs Sue Jones

Sue Jones yw perchennog a sylfaenydd gwneuthurwyr caws Llanboidy, un o’r gwneuthurwyr caws arbenigol bach a chanolig eu maint mwyaf llwyddiannus yng Nghymru, ac mae wedi cymryd rhan uniongyrchol ym mhob agwedd ar wneud a marchnata cawsiau ffermdy am y 24 blynedd diwethaf.

Hi yw cyfarwyddwr menter gydweithredol Cawsiau o Gymru, mae’n aelod o bwyllgor Cymdeithas Gwneuthurwyr Cawsiau Arbenigol y DU ac yn ddiweddar cafodd MBE am ei gwasanaethau i Ddiwydiant Caws Cymru.

Mae’n ffermwraig odro sydd wedi ymddeol, yn gyn-lywydd Cymdeithas Gwartheg Red Poll ac yn gyn-gadeirydd cangen leol Arberth o Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Mae Sue hefyd gweithio’n agos â Grŵp Strategaeth Laeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, a hynny fel aelod ers y cychwyn cyntaf.

Cafodd ei hethol fel Cymrawd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol (Cymru) sawl blwyddyn yn ôl ac yn ddiweddar cafodd ei gwobrwyo â Chymrodoriaeth y Cymdeithasau Amaethyddol Brenhinol (FRAgS).

Mae Sue yn credu'n gryf mewn cadw ei thraed yn gadarn ar y ddaear o ran y farchnad ac anghenion defnyddwyr ac mae ganddi ddiddordeb brwd mewn hyrwyddo hunaniaeth ranbarthol, diogelwch ac ansawdd bwyd Cymreig. Yn ystod ei bywyd gwaith mae hi wedi bod â chysylltiad agos â chyflwyniad a goblygiadau deddfwriaeth diogelwch bwyd.

Back to top

Dr. Hugh Jones

Mae Hugh Jones yn Uwch Ddarlithydd mewn Geneteg a Bioleg Moleciwlaidd yn Ysgol Feddygaeth y Sefydliad Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl mynd i’r ysgol yng Nghastell-nedd, astudiodd ar gyfer gradd mewn Biocemeg ym Mhrifysgol Caergrawnt ac ar ôl hyn gwnaeth Ph.D. a chymrodoriaeth ymchwil. Yna symudodd i Goleg Imperial, Llundain i wneud gwaith ôl-ddoethuriaeth pellach mewn peirianneg protein cyn dychwelyd i Dde Cymru i gael swydd academaidd ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ei ddiddordebau ymchwil mewn bioleg moleciwlaidd protein yn bennaf, yn enwedig proteinau sy’n rhwymo carbohydradau, ac sy’n cynnwys technegau DNA ailgyfuno. Mae wedi cymhwyso rhywfaint o’r gwaith hwn i fiosynhwyryddion glwcos a diagnosteg diabetes. Mae Hugh yn addysgu strwythur/swyddogaeth protein, trin genetig a microbioleg sylfaenol i fyfyrwyr sy’n gwneud gradd mewn Geneteg, Biocemeg a’r Gwyddorau Biolegol. Mae’n aelod o Gymdeithas Microbioleg Cyffredinol, y Gymdeithas Fiocemegol a’r Gymdeithas Protein.

Mae Hugh wedi bod yn gysylltiedig â hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd o wyddoniaeth yng Nghymru trwy helpu i drefnu’r arddangosfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar gyfer ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol ag Abertawe yn 2006. Fel Llywodraethwr Ysgol a rhiant tri o blant oed cynradd ac uwchradd mae’n cael ei atgoffa’n barhaus o realaeth ddyddiol bwyta’n iach.

Back to top

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

Our Sites

Find out what our other sites have to offer

Change Text Only Settings

Graphic version of this page