Skip navigation

Food Standards Agency

Sunday 21 March 2010

Safe food and healthy eating for all banner welsh

AZ-Directory What's New

ASB Cymru - Y Cefndir

Cafodd Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru ei lansio ym mis Ebrill 2000. Ein gobaith ni yw bod pobl yng Nghymru yn troi atom ni er mwyn cael cyngor a gwybodaeth dibynadwy am fwyd. Mae ein dylanwad yn ymestyn 'o'r fferm i'r fforc' - mewn geiriau eraill, o'r adeg y mae'r bwyd yn cael ei dyfu neu ei weithgynhyrchu nes iddo gyrraedd eich plât. Rydym yn eich rhoi chi, ddefnyddwyr Cymru, yn gyntaf.

‘"Bwyd diogel a bwyta'n iach i bawb"’

Mae gan aelodau o staff ASB Cymru ystod eang o arbenigeddau polisi a phroffesiynol. O'n swyddfa yng nghanol Caerdydd, rydym yn gwneud gwaith amrywiol. Roedd y gwaith hwn yn arfer cael ei wneud gan staff iechyd cyhoeddus ac amaethyddiaeth y Swyddfa Gymreig, ond ym 1999, cafodd pwerau diogelwch a safonau bwyd eu datganoli i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r ASB yn atebol i'r Cynulliad Cenedlaethol, ac i'r Senedd drwy'r Gweinidogion Iechyd. Mae'n fantais i ni gael gweithio yng nghyd-destun datganoli gan fod hyn yn golygu ein bod ni'n gallu ystyried anghenion a materion sy'n ymwneud yn benodol â Chymru, ac eto sicrhau ein bod ni'n gweithio mewn ffordd gyson â gweddill y DU. Mae hyn yn bwysig gan nad yw diogelwch bwyd, wrth gwrs, yn cydnabod ffiniau gwleidyddol na daearyddol.

Drwy werthoedd craidd yr Asiantaeth, rydym yn gwarchod defnyddwyr Cymru. Rydym yn rhoi'r defnyddiwr yn gyntaf; rydym yn agored a hygyrch; ac mae gennym ni lais annibynnol. Rydym yn gwneud ein gwaith yn agored, ac rydym yn gwneud penderfyniadau mewn ffordd agored ac eglur.

Back to top

Dyma feysydd gwaith allweddol yr Asiantaeth yng Nghymru:

Back to top

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Mae ein gwaith yn cael ei oruchwylio gan Bwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru . Sefydlwyd y Pwyllgor i roi cyngor a gwybodaeth i'r Asiantaeth yng Nghymru. John Spence yw'r cadeirydd, yn ogystal ag aelod Cymru o Fwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
Mae cyfarfodydd pwyllgor agored yn cael eu cynnal bob rhyw dri mis ar hyd a lled y wlad, ac mae hyn yn enghraifft o ymrwymiad ASB Cymru i weithio'n agored. Mae gan y Pwyllgor wyth aelod arall, sy’n cynnig sylfaen gadarn o wybodaeth am faterion bwyd a materion sy’n gysylltiedig â bwyd. Mae bywgraffiadau'r holl aelodau ar y wefan hon. Cliciwch yma i ddysgu mwy am yr aelodau.

Back to top

Find out more

Cysylltu â ni

Am wybod mwy am fwyta'n iach, cadw bwyd yn ddiogel a llawer, llawer mwy?

Ein ffordd o Weithio

Mae'r ASB yn rhoi cyngor a gwybodaeth i'r cyhoedd a'r Llywodraeth ar ddeiet, maeth a diogelwch bwyd o'r fferm i'r fforc. Mae hefyd yn diogelu defnyddwyr drwy orfodi a monitro bwyd yn effeithiol.

Polisi Iaith Gymraeg

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn nodi bod yn rhaid i bob corff cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru baratoi Cynllun yn amlinellu sut y bydd yn darparu'r gwasanaethau hynny yn yr iaith Gymraeg. Roedd Cynllun Iaith Gymraeg cyntaf yr ASB yn weithredol rhwng 2002 - 2007 ac mae'r ASB bellach wedi rhoi ei hail gynllun ar waith ar gyfer 2008 - 2012.

Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

O dan dermau'r ddeddfwriaeth, sefydlwyd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru i roi cyngor a gwybodaeth i'r Asiantaeth ar faterion sy'n ymwneud â'i swyddogaethau yng Nghymru. Mae'n ofynnol i'r Asiantaeth ystyried cyngor y Pwyllgor Cynghori wrth gyflawni ei swyddogaethau neu gynghori'r Cynulliad Cenedlaethol neu Weinidogion.

Tell a Friend

Printer friendly

Contact us

Get alerts

Our Sites

Find out what our other sites have to offer

Change Text Only Settings

Graphic version of this page